Mae awdurdodau dinas Hull wedi addo y bydd gogledd Lloegr, ynghyd â rhannau eraill o wledydd Prydain, yn elwa o’i chyfnod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig yn 2017.

Gyda dim ond 100 o ddyddiau i fynd nes y bydd blwyddyn o ddigwyddiadau ‘Hull 2017’ yn dechrau, mae’r trefnwyr yn dweud y bydd tân gwyllt dros afon Humber ar Ionawr 1 yn dangos yr hyn sy’n bosib trwy’r deuddeg mis dilynol.

“Rydyn ni’n mynd i ddechrau gyda bang iawn,” meddai prif weithredwr a chyfarwyddwr Hull 2017, Martin Green.

“Ein gobaith yw y bydd y tân gwyllt yn rhai gwell na’r rhai y bydd Llundain wedi’u tanio ar Nos Galan.”

Hull yw’r ail ddinas i ennill statws Dinas Diwylliant, ac fe gafodd ei dewis ar draul Dundee, Caerlyr a Bae Abertawe.