Cyfres 'Wyt Ti'n Gêm?' wedi twyllo Emrys Llewelyn o Gaernarfon
Ar raglen newydd Nigel Owens, cafodd un o hoelion wyth Caernarfon ei dwyllo ar ôl meddwl bod cwmni o America eisiau gwneud rhaglen ar “gariad” y Cofis tuag at y teulu brenhinol.

Fe gafodd y tywysydd tref, Emrys Llewelyn, alwad ffôn gan gwmni teledu yng Nghaerdydd yn dweud bod cwmni teledu, Channel 14 Milwaukee, am wneud cyfres am drefi hanesyddol Cymru.

Gan ei fod yn adnabod yr ardal fel cefn ei law, dyma fe’n cytuno i’w hebrwng o gwmpas y dref a rhoi ychydig o hanes y dref iddyn nhw hefyd.

“Nes i gyfarfod nhw ar y maes (Caernarfon), a chriw lleol oedd y criw ffilmio, Cymry Cymraeg, a’r Americanwr ‘ma (yn gyfarwyddwr),” meddai wrth golwg360.

Heb yn wybod iddo fe, actor o Fanceinion oedd yr ‘Americanwr’, oedd yn rhan o dwyll rhaglen newydd Nigel Owens, “Wyt ti’n gêm?”

“Fe wnaeth Siôn y cyfarwyddwr ddweud, ‘dyweda pwy wyt ti, a lle ydan ni a beth ydy dy waith di.’ A dyma fi’n dweud, ‘Prynhawn da, croeso i Gaernarfon, Emrys Llewelyn ‘di’r enw, a dwi’n dywysydd yn dre’ hynafol Caernarfon,” eglura Emrys.

“Dyma hwn (yr Americanwr) yn camu i mewn ac yn dweud “No we can’t have that, nobody will understand your second name, say something like Lywelyn.”

“Ac atebais i “no of course not, my name is Emrys Llewelyn, I’m not changing it for you mate”, ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth ar ôl hynny.

Diddordeb y teulu brenhinol

Dywedodd Emrys Llewelyn fod yr ‘Americanwr’ â diddordeb mawr yn y teulu brenhinol ac am iddo bwysleisio “cymaint” y mae Cofis y dre’ yn “eu caru ac yn eu hedmygu.”

“Fe wnaeth y cwbl orffen ar y prom, gydag o’n dweud, “my research tells me that Prince Charles invested £1,000 in renovation (o Gaernarfon) and that he used to live in one of the towers for many years.

That’s wrong”, medda fi, a dywedodd o’n ddigon distaw ond ddigon uchel i mi glywed, “Oh we’ll change something in the subtitles”.

“You’re a moron”

Dyna oedd diwedd ar amynedd Emrys, a gafodd ei gythruddo cymaint nes ei fod “yn wyneb” y cyfarwyddwr Americanaidd a’i ddwrn i fyny.

“Nath o ddweud, “you seem a bit stressed, you wanna take some time out”. “Time out?!” medda fi, “not only you’re an amateur, you’re a moron as well.”

Penderfynodd roi’r gorau i geisio gweithio gyda’r criw ffilmio, gydag un o’r criw oedd yn siarad Cymraeg yn mynd ar ei ôl ac yn datgelu mai jôc oedd y cyfan.

“Dyma fi’n cerdded i ffwrdd a Siôn yn dod ar fy ôl i, gyda laptop a Nigel (Owens) yn dod ar y sgrin yn dweud, “Ti’n gêm Emrys?.”

Bu sawl ebychiad na fydd yn cael eu darlledu, meddai, a “lot o chwerthin” – “Ro’n ni wedi’i llyncu hi go iawn!”

Mae disgwyl i raglen ‘Wyt ti’n gêm’, Nigel Owens, gael ei darlledu ar S4C ddiwedd mis Medi.

Stori: Mared Ifan