Y Gwyll, (Llun: S4C)
Bydd y ddrama dditectif Y Gwyll i’w gweld yn fuan ar deledu yn yr UDA wedi i’r gyfres gyntaf gael ei gwerthu i American Public Television (APT).

Gwnaed y cyhoeddiad yn Efrog Newydd yr wythnos hon, gan uwch gynhyrchydd y gyfres Ed Thomas.

Mae’n golygu y bydd Y Gwyll yn cael ei dangos mewn 13 o farchnadoedd teledu sy’n cynnwys dinasoedd Kansas, Seattle, Oregon, Milwaukee, Buffalo Efrog Newydd a Boston.

Mae’r ddrama drosedd eisoes ar gael ar Netflix yn America, ac mae’r gyfres wedi cael ei gwerthu ar draws y byd erbyn hyn. Yn eu plith mae sawl gwlad Ewropeaidd – Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Norwy, Y Ffindir, Gwlad Belg, Slofenia, Ffrainc a Denmarc.

Ar hyn o bryd, mae cast a chriw Y Gwyll yn ffilmio’r drydedd gyfres yn ardal Aberystwyth, a bydd y gyfres newydd yn cael ei dangos yn gyntaf ar S4C ym mis Hydref.

‘Codi proffil’

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Rwy’n hynod falch o lwyddiant Y Gwyll/Hinterland ac mae’n gyffrous clywed y bydd cynulleidfa eang yn yr UDA yn gallu mwynhau’r gyfres wych ar deledu gwasanaeth cyhoeddus.

“Mae poblogrwydd Y Gwyll yn tyfu o hyd, ac mae llwyddiant y gwaith wrth gael ei allforio dramor yn bwysig i S4C ac i Gymru – gan godi proffil y wlad a’n diwydiannau creadigol. Mae’n dangos sut mae buddsoddi yn y diwydiannau yma’n dwyn sylw rhyngwladol i Gymru, ac yn arwain at gyfleoedd a datblygiadau pellach sydd hefyd er budd yr economi.”