James Richards Llun: Cyngor Celfyddydau Cymru
Yr artist fideo James Richards sydd wedi’i ddewis i gynrychioli Cymru yng ngŵyl gelf Biennale Fenis rhwng 13 Mai a 26 Tachwedd 2017.

Er iddo gael ei enwebu am Wobr Turner yn 2014, dyma’r tro cyntaf i James Richards dderbyn comisiwn o bwys mewn biennale rhyngwladol a bydd y cyflwyniad yn cynnwys comisiwn i gynhyrchu cyfres o weithiau newydd, uchelgeisiol, gwreiddiol ac ar raddfa fawr.

Caerdydd a Turner

Cafodd James Richards ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd ac mae’n byw erbyn hyn ym Merlin.  Astudiodd gwrs sylfaen yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a threuliodd gyfnod preswyl yn Oriel G39 Caerdydd yn 2002 a chydweithiodd yn rheolaidd gyda Kim Fielding/Tactile Bosch.

Derbyniodd James Richards gymeradwyaeth ar gyfer ei arddangosfa yn Oriel Chisenhale yn 2011, ei enwebiad ar gyfer Gwobr Turner  2014 a’i arddangosfa bresennol yn y British Art Show 8.

Mae ganddo ddiddordeb  yn y posibilrwydd o ddod o hyd i’r personol yng nghanol anrhefn y cyfryngau torfol.  Mae’n cyfuno fideo, sain a delweddau llonydd i greu gosodiadau a digwyddiadau byw.

Chapter

Bydd y comisiwn yn gweld James Richards yn cydweithio gyda Chanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd i guradu’r cyflwyniad.

Bydd Chapter yn creu prosiect gyda’r artist, yn ei ddinas enedigol, Caerdydd a hefyd ar lwyfan rhyngwladol Fenis.

Dywedodd James Richards: “Mae’n fraint ac anrhydedd cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2017. Rwyf wedi fy synnu a’m gwefreiddio gan y fraint ac wedi fy nghyffroi i gael dechrau ar waith newydd ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn.”

Dywedodd Hannah Firth, Cyfarwyddwr y Celfyddydau Gweledol a Datblygiad y Rhaglen, Chapter, a churadur Cymru yn Fenis 2017: “James Richards yw un o artistiaid mwyaf gwreiddiol a chyffrous ei genhedlaeth ac rydym wrth ein bodd i gael gweithio gydag ef i gomisiynu swmp newydd o waith i’w gyflwyno yn Fenis.”

Dwy arddangosfa

Meddai Hannah Firth: “Rydym wedi paratoi dull cryf o ran cydweithio ac rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau yng Nghymru i greu’r arddangosfa gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac oriel bwysig artistiaid G39 a fydd yn cynnig rhaglen integredig ar gyfer datblygiad proffesiynol ac ymwneud â chyhoedd Cymru.

“Bydd cyfle i gynulleidfaoedd Cymru brofi dwy arddangosfa gysylltiol o waith James yn Chapter: sioe grŵp wedi’i threfnu gan yr artist sy’n cynnwys gweithiau gan artistiaid o Gymru a thramor, ac yna’r arddangosfa Cymru yn Fenis ei hun sy’n teithio i Gaerdydd yn gynnar yn 2018.”