Ian Jones, Prif Weithredwr S4C Llun: S4C
Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi ysgrifennu llythyr brys at yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd (EBU) yn dilyn adroddiadau fod baner Cymru wedi ei rhoi ar “restr waharddedig”  ar gyfer cystadleuaeth yr Eurovision eleni.

Mae S4C yn aelod darlledu o’r EBU. Mae’r llythyr yn mynegi pryderon am yr adroddiadau ynghylch y gwaharddiad, ac yn galw ar yr Undeb i ail ystyried y penderfyniad.

‘Sarhad a thriniaeth annheg’

Yn ei lythyr at Ingrid Deltenre, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Undeb Darlledu Ewropeaidd, mae Ian Jones yn esbonio fod yr adroddiadau wedi “esgor ar feirniadaeth lem” a’i fod yn cael ei ystyried gan nifer o bobl yng Nghymru fel “sarhad a thriniaeth annheg.”

Er ei fod yn cydnabod nad yw Cymru’n cystadlu yn y gystadleuaeth Eurovision, mae’n nodi’r hanes hir o Gymry sydd wedi ymwneud â’r gystadleuaeth gan gynnwys Joe Woolford o Ruthun sy’n cynrychioli Prydain gyda Jake Shakeshaft eleni, a bod un o aelodau’r grŵp oedd yn cynrychioli Armenia y llynedd yn dod o Gymru.

‘Anghyson’

Mae’n mynd ymlaen i awgrymu fod hepgor rhai baneri cenedlaethol cydnabyddedig, fel un Cymru, yn ymddangos yn “anghyson” gyda’r egwyddorion sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad a wnaed gan yr EBU y llynedd i nodi deg mlwyddiant Confensiwn UNESCO Amddiffyn a Hybu Amrywiaeth o Fynegiant Diwylliannol .

Mae hefyd yn dweud bod y penderfyniad yn “tanseilio” cefnogaeth yr EBU i waith S4C.

‘Eicon rhyngwladol’

Ac wrth bwysleisio pwysigrwydd y faner fel eicon rhyngwladol i Gymru, mae’n dweud: “Mae baner Cymru yn cael ei hedfan yn falch gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac o Swyddfa Cymru yn Whitehall, Llundain.

“Mae ein baner yn cael ei defnyddio i farchnata bwyd a diod ar draws y byd. Mae hi’n cael ei gwisgo gan ein timoedd cenedlaethol pan maent yn cystadlu – gan gynnwys ein tîm pêl-droed cenedlaethol eleni yn nhwrnamaint Euro2016. Mae hi’n cael ei gweld ar nifer o adeiladau cyhoeddus ar draws y byd ar ddydd gŵyl Ddewi, nawddsant Cymru. Mae’r canfyddiad sy’n deillio o eithrio baner Cymru yn creu argraff negyddol anhaeddiannol a diangen.”

Mae’r llythyr yn dod i ben gyda galwad ar yr EBU i “ail-ystyried y penderfyniad hwn ar frys gan adfer yr EBU i’r egwyddorion y mae e’n cysylltu ei hun.”

EBU – ‘rhydd o ddatganiadau gwleidyddol’

Yn ôl yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd, EBU, bwriad y polisi yw sicrhau bod y gystadleuaeth yn rhydd o “ddatganiadau gwleidyddol.”

O ganlyniad, ni fydd modd chwifio baner Cymru i gefnogi un o’r ddeuawd o Ruthun, Joe Woolford, sy’n cystadlu gyda Jake Shakeshaft ar ran y Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth.

Roedd llefarydd ar ran yr EBU wedi dweud mai eu bwriad yw sicrhau bod Eurovision “yn rhydd rhag datganiadau gwleidyddol, negeseuon masnachol heb eu hawdurdodi a negeseuon ymosodol, mewn perthynas â rheolau’r gystadleuaeth y mae’r 42 o ddarlledwyr sy’n cymryd rhan wedi cytuno arnyn nhw.”

Er hyn, ychwanegodd y llefarydd “nad yw’r polisi baneri ddim wedi’i anelu yn erbyn tiriogaethau neu sefydliadau penodol, ac yn sicr ddim yn cymharu nhw â’i gilydd, ond y bwriad yn unig yw sicrhau fod y darllediad yn rhydd o’r negeseuon sydd wedi’u crybwyll.”