Dr Meredydd Evans Llun: Tudur Dylan
Caiff cyngerdd arbennig ei gynnal y penwythnos hwn er mwyn cofio’r diweddar Dr Meredydd Evans fu farw llynedd yn 95 mlwydd oed.

Bydd y cyngerdd coffa yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar ddydd Sul, Mai 1 fel rhan o’r Ŵyl Fai er mwyn dathlu’r traddodiad gwerin Cymraeg a’i gyfraniad tuag ati.

Trefnydd y cyngerdd, ar ran Ymddiriedolaeth William Salesbury yw Dafydd Iwan, a dywedodd  ei bod hi’n bleser trefnu’r fath ddigwyddiad.

Meddai: “Mae’n bleser i drefnu Cyngerdd Merêd ar ran Ymddiriedolaeth William Salesbury, ac edrychaf ymlaen at achlysur hwyliog i ddathlu’r hyn oedd mor agos at galon Mered a hynny yn y fro lle treuliodd ran helaeth o’i fywyd. Dwi’n siŵr y bydd yn achlysur i’w gofio.”

Cyfrol

Mae’r cyngerdd yn dilyn cyhoeddi cyfrol deyrnged iddo hefyd, ‘Merêd: Dyn ar Dân’, a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa.

Golygwyd y gyfrol gan Eluned Evans, merch Merêd, gyda chymorth Rocet Arwel Jones gyda chyfranwyr amrywiol yn cyfrannu gan gynnwys Heather Jones, Gareth Bonello, Siân James, Tecwyn Ifanc, a Patrobas – grŵp gwerin ifanc o Ben Llŷn.

Mae’r gyfrol yn trafod y cyfraniad aruthrol a wnaeth Merêd i ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru yn ogystal â sôn am y dyn ei hun.  Mae hi hefyd yn  cydnabod ei gyfraniad tuag at sefydlu S4C, athroniaeth, canu ysgafn Cymraeg, fel sylfaenydd y Papur Bro a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a’i ymchwil i ganu gwerin.

Meddai Rocet Arwel Jones: “Un o deyrngedau mwyaf y gyfrol hon yw’r un anysgrifenedig, sef bod awduron o bob degawd o oedran o’u hugeiniau i’w nawdegau wedi cyfrannu. Mae gan bob un eu maes eu hunain, eu harddull eu hunain ond pob un am gydnabod eu diolchgarwch i Merêd.”

Bydd y cyngerdd yn dechrau am 3 o’r gloch ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar Fai 1. Ni fydd angen prynu tocynnau o flaen llaw a bydd bwyd a diod ar gael.