Yr Ods
Ar Ddiwrnod Miwsig Cymraeg sy’n cael ei gynnal heddiw, mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi manylion noson arbennig a gynhelir yn y Pafiliwn eleni.

Mae prom Roc cyntaf yr Eisteddfod yn fwy o gig na chyngerdd – teyrnged gerddorol i’r Sîn Roc Gymraeg, gyda phrif artistiaid y sin Yr Ods, Sŵnami a Candelas yn perfformio yn y Pafiliwn ar nos Iau 4 Awst.

Gyda phafiliwn newydd sbon ar y Maes eleni, mae’r cynnwys yn ogystal â’r diwyg yn esblygu, a bydd yr adeilad yn cael ei drawsnewid am un noson yn unig wrth i’r tri band rannu llwyfan a pherfformio gyda chyfeiliant cerddorfa broffesiynol.

Huw Stephens, y DJ amlwg o Radio 1 fydd yn cyflwyno’r noson: “Rwy’n credu eu bod yn bwysig bod yr Eisteddfod yn parhau i geisio denu cynulleidfaoedd newydd.  Rydym yn arbennig o dda am ddathlu’r gorffennol, ond rwy’n credu bod rhaid dathlu’r hyn sy’n digwydd nawr hefyd.

“Yr Eisteddfod yw prif ddigwyddiad y calendar cerddorol Cymreig ers blynyddoedd, ac mae hon yn mynd i fod yn un o nosweithiau pwysicaf hanes yr Eisteddfod.  Dyma’r noson pan fydd y sin danddaearol yn ffrwydro ar lwyfan mwyaf eiconig Cymru.

“Pwy fyddai wedi gallu dychmygu y byddai’r sîn a gychwynnodd nôl yn yr 80au yn cyrraedd llwyfan y Pafiliwn – a hynny gyda chyfeiliant cerddorfaol?  Mae’r SRG yn bendant wedi cyrraedd!”

Bydd y Welsh Pops Orchestra yn cyfeilio ar y noson gydag Owain Llwyd yn arwain.

Bydd tocynnau ar gael o 1 Ebrill ymlaen, drwy fynd ar-lein, www.eisteddfod.cymru, neu drwy ffonio 0845 4090 800.