Guto Bebb
Er bod holl bleidiau gwleidyddol Bae Caerdydd ac ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Lywodraeth Prydain i beidio â chwtogi ei chyfraniad i goffrau S4C, mae Guto Bebb yn mynnu mae ef a’i gyd-Aelodau Seneddol Torïaidd sy’n gyfrifol am y tro pedol.

Ond nid yw AS Aberconwy yn disgwyl unrhyw ddiolch am gael “y maen i’r wal” wedi i Lywodraeth Prydain gyhoeddir wythnos ddiwethaf na fyddan nhw’n tocio £400,000 oddi ar eu cyfraniad o £6.7 miliwn i goffrau’r Sianel Gymraeg.

Pan gyhoeddwyd Adolygiad Gwariant Llywodraeth Prydain fis Tachwedd y llynedd, daeth y bwriad i docio 26% o arian S4C i’r amlwg, a bu cwyno mawr bod y Torïaid yn cefnu ar addewid maniffesto.

Ar y pryd roedd Guto Bebb yn llafar iawn ar y mater ac fe ddywedodd wrth golwg360 bod y toriad yn “gam gwag” ac yn “ddim lles i’r blaid yng Nghymru”, ac roedd yn addo pwyso am dro pedol.

Ers hynny mae’n dweud bod Aelodau Seneddol Torïaidd Cymru wedi bod wrthi’n ddyfal yn cwrdd â’r Prif Weinidog, y Canghellor a’r Ysgrifennydd Diwylliant er mwyn pwyso am adfer yr arian, a hefyd am adolygiad annibynnol o S4C fydd yn digwydd yn 2017.

Tra bu cwynion lu i swyddfa AS Aberconwy adeg cyhoeddi’r cwtogi, dim ond un sydd wedi cysylltu ers y tro pedol i ddiolch  bod yr arian i S4C yn aros yr un fath – Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.

“Dw i’n meddwl fod o’n dweud cyfrolau,” meddai Guto Bebb.

“Os fysa hon wedi bod yn fater o Blaid Cymru yn cael y maen i’r wal, neu Rhun ap Iorwerth neu Adam Price yn cael y maen i’r wal, mi fasa yna gyfrolau yn cael eu sgwennu yn y Wasg Gymreig.

“Ac mi fasa yna farddoniaeth ar Talwrn y Beirdd yn sôn am gyfraniad gwych yr unigolion hynny.

“Ond does yna ddim bodlonrwydd yn y Gymru Gymraeg i gydnabod ei bod hi’n bwysig cael unigolion sydd yn dadlau’r achos o fewn y Llywodraeth.

“A’r gwir ydy, fysa ni ddim wedi llwyddo’r tro yma, nag ychwaith yn 2010 i achub y sefyllfa o ran S4C, oni bai bod yna leisiau Cymreig cryf o fewn y Blaid Geidwadol.”

Mwy am gyfarfod Guto Bebb gyda’r Canghellor George Osborne yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.