Samira Mohamed Ali
Mae ffilm a gafodd ei chynhyrchu gan gwmni o Abertawe wedi ennill dwy wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Gogledd Cymru.

Daeth ffilm cwmni Tanabi, ‘By Any Name’ – addasiad o nofel Katherine John – i’r brig yng nghategori’r Ffilm Hir Orau a gafodd ei chynhyrchu yng Nghymru.

Aeth y wobr am yr Actores Orau i un o brif actorion y ffilm, Samira Mohamed Ali, sy’n chwarae rhan y prif gymeriad benywaidd, y seicolegydd Dr Elizabeth Sander.

Mae Dr Sander yn cael ei herwgipio gan John West, sy’n cael ei chwarae gan yr actor a’r arbenigwr ar ornestau ymladd o Lundain, Cengiz Dervis.

Samira Mohamed Ali

Gan fod rôl Samira yn un corfforol a heriol, bu’n rhaid iddi dderbyn hyfforddiant personol dwys cyn dechrau ffilmio.

Dywedodd Samira: “Rydw i wrth fy modd gyda’r wobr yma. Mae cael y cyfle i weithio yng Nghymru, yn enwedig yn Abertawe a Brycheiniog, wedi bod yn gyffrous dros ben, gan fod y rhan fwyaf o’m gwaith wedi bod dramor hyd yn hyn.

“Mi wnes i fwynhau chwarae gyferbyn â Cengiz gan ei fod yn actor mor dda ond roedd saethu’r ffilm mewn 16 diwrnod yn dipyn o gamp!”

Ers gorffen ffilmio ‘By Any Name’ yn 2014, mae Samira wedi treulio amser yn ffilmio ar gyfer y diwydiant Bollywood yn India.

Mae ei llwyddiant hithau a’r cynhyrchiad ar y cyfan yn adeiladu ar lwyddiant Katherine John, sydd wedi’i henwi’n un o brif awduron penodol Amazon, ac mae hi wedi dod i amlygrwydd ar-lein ar draws yr Unol Daleithiau, De America ac Ewrop.

Dywedodd yr awdures: “Rydw i wedi gwirioni’n lân bod ‘By Any Name’ wedi ennill y gwobrau hyn gan feirniaid rhyngwladol yn ei Gŵyl gyntaf un.

“Mae holl dîm Tanabi’n broffesiynol dros ben, ac yn benderfynol o gael popeth yn iawn.

“Dw i wedi sgwennu’r sgript gyda chymorth y cyfarwyddwr, Euros Jones-Evans ac roedd yn bleser cydweithio gydag Euros, yr actorion a’r criw i gyd. Dw i’n edrych ymlaen at weld y ffilm ar y sgrin fawr yn fuan”.

Y Cyfarwyddwr

Ychwanegodd Euros Jones-Evans: “Rydyn ni’n falch iawn bod ein ffilm hir gyntaf wedi ennill y gwobrau hyn. Cawsom gefnogaeth anhygoel gan y tîm i gyd, gan gynnwys Coleg Gŵyr, Abertawe, Cyngor Abertawe a Heddlu De Cymru.

“Gyda’r ôl-gynhyrchu, cawsom y fraint o gydweithio gyda chyfansoddwyr enwog fel Crispin Merrell a Gordon Young i gwblhau’r gerddoriaeth a’r sain.

“Mae’r ffaith ein bod wedi ein lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas yn bwysig wrth i ni baratoi ar gyfer ein ffilm hir nesaf o ran cael y gymuned leol i gymryd rhan yn ein prosiectau.

“Mae hyn yn rhan annatod o’n strategaeth  pum mlynedd  fel cwmni i ddod â buddsoddiadau i mewn i Gymru, a chreu swyddi sgiliau arbennig, cynaliadwy yn yr ardal ym myd y cyfryngau”.

Beth nesaf i’r ffilm?

Yn dilyn ei llwyddiant, bydd ‘By Any Name’ yn cael ei marchnata ymhellach gan Marie Adler, Prif Weithredwr cwmni ffilmiau yn Hollywood.

Bydd y ffilm yn cael ei marchnata mewn gwyliau yn Berlin, Hong Kong a Cannes.

‘By Any Name’ fydd un o’r ffilmiau cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli rhwng Mai 9-13.

Mae modd dilyn hynt a helynt y ffilm ar Twitter By Any Name, Tanabi Films neu ar Facebook.