Fe fydd cynhyrchiad arbennig o ddrama Shakespeare, ‘Henry VI’ yn dechrau yng Nghanolfan y Mileniwm nos Lun.

Menywod yn unig sydd yn y cast ar gyfer cynhyrchiad Omidaze sy’n cynnwys seren ‘Casualty’, Suzanne Packer.

Bydd y sioe yn rhedeg o nos Lun i Chwefror 2o.

Drama yn seiliedig ar gyfnod Rhyfel y Rhosod yw hi, ac mae hi’n cylchdroi o amgylch anghydfod a bygythiadau.

Nod y cynhyrchiad yw tynnu sylw at anghydraddoldeb y diwydiant lle mai 30% yn unig o actorion sy’n fenywod, er bod 68% o gynulleidfaoedd theatr yn fenywod.

Hannah O’Leary fydd yn chwarae’r brif ran sy’n cynnwys elfen o berfformiad syrcas.

Dywedodd Suzanne Packer: “Po fwyaf y gall pobol deimlo’n gysurus gyda Shakespeare, y trysor cenedlaethol gorau oll.”

Hefyd yn y cast mae Sioned Jones, Louise Collins, Hannah O’Leary, Alice White, Polly Kilpatrick, Lizzie Winkler a Shala Nyx.

Daw’r cynhyrchiad i Gaerdydd yn dilyn cynhyrchiad llwyddiannus o Richard III y llynedd – a hwnnw’n gynhyrchiad gan fenywod i gyd hefyd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Canolfan y Mileniwm, Graeme Farrow: “Mae’n gyffrous am nifer o resymau, nid yn unig y mae’r cynhyrchiad yn codi ymwybyddiaeth o’r angen am ragor o fenywod yn y theatr, ond mae hefyd yn herio rhagdybiaethau am y ffordd y dylid perfformio Shakespeare a phwy y gall apelio atyn nhw.”