Canolfan Pontio, Bangor
Fe fydd sinema 3D Pontio ym Mangor yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf heno wrth i’r ganolfan ddechrau ar ei rhaglen o berfformiadau.

Dangosiad o’r ffilm Steve Jobs, sydd wedi’i chyfarwyddo gan Danny Boyle – cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, fydd yn agor arlwy’r ganolfan o ffilmiau, dramâu a nosweithiau cerddorol.

Mae’r adeilad gwerth bron i £50 miliwn ar hen safle Theatr Gwynedd, a gafodd ei ddymchwel er mwyn codi’r ganolfan newydd.

Roedd disgwyl i’r ganolfan agor ym mis Medi 2014 ac amcangyfrif cost wreiddiol yr adeilad oedd £37 miliwn.

£49 miliwn oedd y ffigwr terfynol a daw £30 miliwn o’r pwrs cyhoeddus.

Arlwy mis Rhagfyr

Hefyd ym mis Rhagfyr, fe fydd gigs yng nghwmni Swnami, Yws Gwynedd ac Yr Eira, ynghyd â pherfformiadau gan Gôr y Penrhyn, Côr Meibion Llanelli, Meinir Wyn Roberts a Glain Dafydd.

Bydd Ysgol Tryfan hefyd yn llwyfannu sioe gerdd newydd, ‘Y Bancsi Bach’.