Mae tŷ gwerth miliynau o bunnau yn Llundain, oedd yn berchen i gantores pop o Nefyn, wedi dymchwel.

Fe wnaeth y tŷ yn Barnes ddymchwel bore ddoe wrth i adeiladwyr weithio ar y safle. Mae’n debyg bod yr adeiladwyr yn gweithio ar estyniad i’r seler ar y pryd.

Mae gan yr eiddo Sioraidd chwe ystafell wely, pedwar ystafell ymolchi a thair ystafell dderbyn. Cafodd ei werthu ym mis Mai 2014 am £ 3.5m, yn ôl y wefan eiddo Zoopla.

Daeth Duffy i amlygrwydd y byd pop Prydeinig yn 2008 gyda’r sengl ‘Mercy’ ac fe werthodd ei halbwm cyntaf, Rockferry,  tua phedair miliwn dros y byd ac ennill gwobr Grammy.

Ond roedd yn adnabyddus yng Nghymru ers 2004 pan wnaeth hi ddod yn agos at ennill y sioe dalent WawFfactor ar S4C.