Mae aelodau o grwpiau iaith a grwpiau darlledu wedi bod yn trafod ‘argyfwng darlledu Cymru’ mewn cyfarfod yng Nghaernarfon heno yn trafod dyfodol S4C.

Daw’r cyfarfod diwrnod yn unig ers i’r lywodraeth San Steffan gyhoeddi y bydd y sianel yn colli £1.7m o’i chyllid erbyn 2020.

Erbyn hyn, mae Llywodraeth Prydain yn rhoi llai na £7 miliwn tuag at S4C, gostyngiad o £93 miliwn o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl, ac mae’r rhan fwyaf o gyllid y sianel bellach yn dod oddi wrth y BBC.

Iestyn Garlick o Deledwyr Annibynnol Cymru (TAC), Siwan Haf o Cwmni Da, Andrew Walton o Gymdeithas yr Iaith, a David Wyn o Gynghrair Cymunedau Cymraeg oedd y prif gyfranwyr yn y drafodaeth yng Ngaleri Caernarfon.

Gallwch wylio rhan o’r drafodaeth, gan gynnwys cyfraniadau gan aelodau o’r gynulleidfa oedd yno, yn y clip isod: