Fe fydd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yn dweud wrth gynulleidfa yng Nghaerdydd heno fod annibyniaeth wleidyddol y gorfforaeth yn cael ei cholli’n raddol.

Tony Hall fydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol cyntaf i ddadlau dros reoleiddiad allanol llawn.

Fe fydd yn annerch Clwb Busnes Caerdydd heno gan ddadlau dros lai o ddylanwad gan wleidyddion, a mwy o lais i gynulleidfaoedd wrth benderfynu blaenoriaethau’r BBC yn y dyfodol.

Mae disgwyl iddo ddweud fod annibyniaeth y BBC wedi “gwanhau” oherwydd newidiadau i’r tirlun gwleidyddol yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Fe fydd hefyd yn dadlau dros gryfhau’r seiliau ar gyfer y Siarter nesaf, ac mae’n croesawu rheoleiddiad allanol a fydd yn adolygu perfformiad y BBC ac yn cyflwyno gwelliannau.

‘Synnu gan y newid mawr’

Mae disgwyl iddo sôn am ei gyfnod yn gweithio i’r BBC ar newyddion a materion cyfoes yn ystod y 1990au, pan oedd “arferion a thraddodiadau tawel” wedi’u diogelu.

Ond, “pan ddychwelais i’r BBC fel cyfarwyddwr cyffredinol, cefais fy synnu gan y newid mawr. Mae seiliau annibyniaeth y BBC wedi gwanhau. Mae’r traddodiadau a’r trefniadau anffurfiol a oedd wedi’u hamddiffyn bellach wedi treulio.”

Am hyn, fe fydd yn dadlau y dylai’r gorfforaeth gael ei thynnu allan o’r cylch etholiadol a symud y Siarter i gyfnod  o 11 mlynedd.

Mae’n esbonio fod Siarter 5 mlynedd yn “cwestiynu ein dyfodol yn ystod pob etholiad ac yn atal ein corfforaeth rhag cynllunio neu fuddsoddi mewn ffyrdd hirdymor a chynaliadwy.”

Fe fydd hefyd yn dadlau y dylai deiliaid trwydded gael mwy o lais mewn penderfyniadau, gan awgrymu pleidlais ar-lein i ffi’r drwydded.