Bydd cyngerdd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd nos Sul i gofio am y canwr Steve Strange, fu farw’n gynharach eleni.

Strange, oedd yn enedigol o Drecelyn, oedd prif leisydd y grŵp Visage yn yr 1980au.

Bu farw’n dilyn trawiad ar y galon yn Sharm el-Sheikh ym mis Chwefror.

Gyrfa

Visage oedd un o brif fandiau’r cyfnod New Romantics, ac fe ddaeth Steve Strange i amlygrwydd mewn clwb nos yn Llundain.

Aelodau gwreiddiol y band oedd Strange, Rusty Egan, Midge Ure a Billy Currie.

Bydd nifer o gantorion blaenllaw’r cyfnod yn dod ynghyd nos Sul i ail-greu cerddoriaeth yr 1980au, gan gynnwys Boy George, Kim Wilde, Jimmy Somerville a Howard Jones.

Hefyd yn ymddangos fydd yr arlunwraig Daphne Guinness a chyn-gystadleuydd yr X-Factor, Lloyd Daniels.

Bydd yr holl elw o’r noson yn mynd i Age Cymru, sy’n ceisio ehangu mynediad yr henoed i’r celfyddydau yng Nghymru.