Daeth dros 3,500 o bobol i’r Fflint ddydd Sadwrn, i ddathlu’r ffaith fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ymweld â’r sir ym mis Mai y flwyddyn nesa’.

Roedd yr Ŵyl Gyhoeddi yn gyfle i blant, pobol ifanc, athrawon, rhieni a phobol leol ddangos eu cefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd, fydd yn ymwelad â’r ardal rhwng 30 Mai – 4 Mehefin 2016.

Gorymdeithiodd y criw, dan arweiniad band samba lleol, o Ysgol Uwchradd y Fflint i’r castell.  Yno roedd dau lwyfan gyda cherddoriaeth fyw, sesiynau pêl-droed, golff gwirion, stondinau, wal graffiti, sioe un dyn Glyndŵr a gweithdai syrcas.

Yn ôl Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Roedd y gefnogaeth a gawsom dydd Sadwrn yn galonogol iawn ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer yr Eisteddfod y flwyddyn nesa’.

“Rydym yn ddiolchgar am gymorth y cynghorau tref a chymuned lleol ynghyd â chyngor Sir y Fflint am eu cefnogaeth a’u presenoldeb yn yr ŵyl gyhoeddi.”