Cafodd yr holl docynnau ar gyfer gŵyl Glastonbury eu gwerthu o fewn ychydig dros hanner awr fore Sul.

32 o funudau gymerodd hi i’r 120,000 o docynnau – gwerth £228 – gael eu gwerthu gan y trefnwyr, See Tickets.

Dydy’r trefnwyr ddim wedi cyhoeddi pwy fydd prif artistiaid y penwythnos eto, ond mae adroddiadau bod Adele a Coldplay ymhlith y ffefrynnau i ymddangos ar y prif lwyfan.

Mae’r Foo Fighters, a dynodd allan y llynedd wedi i’r prif leisydd Dave Grohl dorri ei goes, hefyd ymhlith y ceffylau blaen.

Mae’r prif drefnydd, Michael Eavis wedi cadarnhau bod y prif artistiaid wedi’u cadarnhau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.