Fe fydd arddangosfa sy’n agor yn y senedd yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf yn dathlu gwaith arlunydd dawnus o Fôn a oedd â’r chysylltiad agos â’r lle.

Roedd Eirian Llwyd, a fu farw ar ôl salwch byr y llynedd, wedi gwneud enw iddi’i hun yn arbennig fel gwneuthwrwr printiadau gwreiddiol, ond fe fydd yr arddangosfa’n cynnwys detholiad helaeth o’r amrywiol fathau luniau a wnaeth dros gyfnod yn agos i 40 mlynedd.

Dywedodd ei gŵr, y cyn Ddirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones ei fod yn falch o weld y Cynulliad yn cynnal yr arddangosfa ac y bydd cyfle i weld enghreifftiau o’i gwaith na chafodd eu dangos yn gyhoeddus o’r blaen.

“Bydd yn dangos datblygiad Eirian fel artist o’i 20au hyd at  ei blynyddoedd olaf,” meddai.

“Er y gallai droi ei llaw at sawl ffurf, ymrodd ei hun i berffeithio’r grefft o baratoi printiadau gwreiddiol, gan ddefnyddio torluniau pren, torluniau leino, monoprintiau, lithograffau ac ysgythriadau.

“Cafodd ei hysbrydoli gan  gynhanes Ynys Môn, crefydd, diwylliant, tirwedd a datblygiadau modern. Defnyddiodd gerddi gan Gwyn Thomas, R.S. Thomas ac Iwan Llwyd fel sail i’w gwaith. Roedd hi hefyd yn frwd dros ddod â gweithiau gwneuthurwyr printiadau o Gymru  i gynulleidfa ehangach a sefydlodd  fenter gymdeithasol ‘y Lle Print Gwreiddiol’ i fynd a’u  gwaith ar draws Cymru ac i dir mawr Ewrop. ”

Bydd yr arddangosfa’n rhedeg o’r 5ed i’r 29ain o Hydref.