Wedi blynyddoedd yn wag, bydd stiwdios Dragon ym Mhencoed yn cael eu defnyddio unwaith eto ar ôl i Fox 21 gyhoeddi y bydd yn ffilmio’i gyfres deledu ddiweddara’ yno.

Mae Fox 21 eisoes wedi dechrau defnyddio’r stiwdios i ffilmio The Bastard Executioner a’r gobaith yw y bydd mwy o waith teledu a ffilm yn dod o America yno.

Mae’r penderfyniad yn “newyddion gwych i ddiwydiant ffilm a theledu Cymru” meddai Llywodraeth Cymru.

Dywed y Llywodraeth eu bod wedi cydweithio gyda chwmni ariannol Price Waterhouse Coopers i gael prydles ar y stiwdios, sydd wedi bod yn nwylo’r gweinyddwyr ers 2008.

Yn ôl y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, mae’r datblygiad yn rhan o uchelgais y Llywodraeth i “sefydlu Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer cynyrchiadau drama teledu a ffilm o’r radd flaena’.”

Cefndir

Cwmni Dragon International oedd wedi adeiladu’r stiwdios gan addo creu 2,000 o swyddi ond fe aethon nhw i’r wal yn 2008 gyda £15 miliwn o ddyledion.

Y cyfarwyddwr ffilmiau, yr Arglwydd Richard Attenborough, oedd cadeirydd y fenter ar y pryd.

Mae cwmnïau eraill o’r Unol Daleithiau wedi bod yn ffilmio cyfresi Da Vinci’s Demons yn Abertawe ac mae cwmni Pinewood wedi agor stiwdios yng Nghaerdydd.