Joy Beverley, canol, gyda'i chwiorydd Babs a Teddie
Mae Joy Beverley – un aelod o’r triawd y ‘Beverley Sisters’- wedi marw’n 91 oed.

Cafodd hi strôc yr wythnos diwethaf, ac fe fu farw ddydd Llun.

Dywedodd ei mab Vince bod ei fam yn “gymeriad bywiog iawn ond preifat” a bod y teulu’n “agos iawn”.

Roedd hi’n briod â’r pêl-droediwr Billy Wright, oedd yn gapten ar dîm Lloegr 90 o weithiau, ac fe fu farw yntau yn 1994.

Joy oedd yr hynaf o’r chwiorydd, oedd yn cynnwys yr efeilliaid Babs a Teddie.

Cafodd ei geni yn Bethnal Green, yn ferch i ddeuawd oedd yn perfformio mewn neuaddau cerddoriaeth.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymddangosodd y triawd mewn hysbyseb ar gyfer Ovaltine ac yn y pen draw, fe wnaethon nhw gyflwyno’u rhaglen deledu eu hunain, ‘Three Little Girls in View’ a ddaeth yn ddiweddarach yn ‘Those Beverley Sisters’.

Cawson nhw eu harwyddo gan gwmni Columbia Records yn 1951.

Ymhlith eu caneuon mwyaf llwyddiannus roedd ‘I Saw Mommy Kissing Santa Claus’, ‘Bye Bye Love’ ac ‘Always and Forever’.

Ymddangosodd y chwiorydd yn y Guinness Book of Records yn 2002 ac fe dderbynion nhw’r MBE am eu gwasanaeth i’r byd cerddorol.