Anna Kashfi
Mae’r actores Anna Kashfi o Gaerdydd, oedd yn gyn-wraig i Marlon Brando, wedi marw’n 80 oed.

Cafodd ei geni’n Joan O’Callaghan yn India yn 1934, ond symudodd y teulu i Gaerdydd yn 1947.

Roedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Leiandy San Joseph, cyn mynd yn weinyddes ac yn weithwraig mewn siop cigydd.

Symudodd hi’n ddiweddarach i Lundain i weithio fel model, ac yna i Hollywood lle ymddangosodd hi mewn ffilmiau megis ‘The Mountain’ gyda Spencer Tracey, ‘Battle Hymn’ gyda Rock Hudson, ‘Cowboy’ gyda Jack Lemmon a ‘Night of the Quarter Moon’.

Roedd hi’n honni ei bod hi o dras Indiaidd trwy ei thad biolegol, ond roedd ei rhieni’n gwadu hynny.

Roedd hi’n briod â’r seren Hollywood Marlon Brando rhwng 1957 a 1959, ond roedd eu perthynas yn un danllyd.

Roedd ganddyn nhw un mab, Christian, ond fe fu farw yn 2008 yn 49 oed.

Roedd disgwyl iddi ymweld â Chaerdydd yn yr hydref, ac mae ei marwolaeth yn cael ei disgrifio fel un annisgwyl.