Y ffilm ‘Set Fire to the Stars’ – sy’n olrhain hanes bywyd y bardd o Abertawe, Dylan Thomas – sy’n arwain yr enwebiadau ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru.

Eleni yw’r bedwaredd flwyddyn ar hugain i’r gwobrau gael eu cynnal, ac fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Neuadd Dewi Sant ar Fedi 27 yn ystod noson fydd yn cael ei harwain gan y cyflwynydd radio Huw Stephens.

Mae ‘Set Fire to the Stars’ wedi’i henwebu mewn saith categori, sef Ffilm / Ffilm Deledu, Cerddoriaeth Wreiddiol ar gyfer Gruff Rhys, Colur a Gwallt, Ffotograffiaeth a Goleuo, Awdur, Dylunio Gwisgoedd a Dylunio Cynhyrchu.

Y Gwyll/Hinterland

Mae chwe enwebiad i ‘Da Vinci’s Demons’ a phump yr un i ‘Doctor Who’, ‘Y Gwyll/Hinterland’ a ‘Jack to a King’ am Glwb Pêl-droed Abertawe.

Yn y categori Actor, mae enwebiadau i Peter Capaldi (Doctor Who), Rhys Ifans am ei ran yn ‘Dan y Wenallt’ a Richard Harrington – am yr ail flwyddyn o’r bron – am ei rôl fel DCI Mathias yn ‘Y Gwyll/Hinterland’.

Mali Harries (Y Gwyll/Hinterland), Rhian Morgan (Gwaith/Cartref) a Jenna Coleman (Doctor Who) sydd wedi’u henwebu yn y categori Actores.

Yn y categori Drama Deledu, mae enwebiadau i enillydd 2014, ‘Y Gwyll/Hinterland’, ‘Under Milk Wood’ ac ‘Y Streic a Fi’, drama deledu gyntaf y bardd a’r awdur Gwyneth Lewis, sydd hefyd wedi’i henwebu yng nghategori Awdur ynghyd ag awdur ‘Set Fire to the Stars’, Roger Williams.

Rhod Gilbert  a Michael Sheen

Yn y categori Rhaglen Ddogfen Unigol, mae enwebiadau i ‘Michael Sheen’s Valleys Rebellion’, ‘Jamie Baulch: Looking for my Birth Mum’ a ‘Malcolm Allen: Cyfle Arall’.

‘RAF Fighter Pilot: Rhod Gilbert’s Work Experience’, ‘Adam Price a Streic y Glowyr’ a ‘Great Welsh Writers: Danny Abse’ sy’n derbyn enwebiadau yn y categori Ffeithiol.

Mae Rhod Gilbert a Michael Sheen wedi’u henwebu yng nghategori’r cyflwynydd ynghyd ag Owen Sheers am y rhaglen ‘Dylan Thomas: A Poet’s Guide’.

Y ffilmiau sy’n dod i’r brig yng nghategori Ffilm/Ffilm Deledu yw ‘Jack to a King: The Swansea Story’, ‘Set Fire to the Stars’ ac ‘A Poet in New York’.

Y tri sydd wedi dod i’r brig yn y categori Torri Drwodd mae Christian Britten (Fog of Sex: Stories from the Frontline of Student Sex Work), Claire Sturges (Sexwork, Love and Mr Right) ac Owen Dafis (Gohebwyr: Owen Dafis).

Gwobr Siân Phillips

Bydd enillydd Gwobr Siân Phillips yn cael ei gyhoeddi yn ystod y Parti Enwebeion ar Fedi 17, tra bydd enillydd y Cyfraniad Arbennig i Deledu yn cael ei gyhoeddi ar y noson.

‘Blwyddyn eithriadol’

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Bu’n flwyddyn eithriadol ar gyfer pobl ddawnus sy’n gweithio ym myd teledu a ffilmiau yng Nghymru.

“Rydym wedi gweld amrywiaeth ragorol o raglenni ac unigolion wedi’u cynrychioli ar draws pob categori – yn y ddwy iaith, ac o’r rhai sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd i’r rhai profiadol iawn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid a’n noddwyr ar noson wych arall o ddathlu.”

Dywedodd Huw Stephens: “Mae’r Gwobrau Academi Brydeinig yng Nghymru yn ddathliad o’r holl waith caled sydd yn mynd i mewn i greu rhaglenni a ffilmiau arbennig.

“Dwi wrth fy modd fy mod i’n cynnal y seremoni’r flwyddyn yma, ar 27 Medi, a dwi’n edrych ymlaen at ddarganfod pwy yw’r enillwyr ar y noson gyda phawb arall.”