Canolfan Owain Glyndŵr, ym Machynlleth lle bydd un o'r sioeau'n cael eu cynnal
Mewn gŵyl newydd sbon a fydd yn dod â “chyffro’r gorffennol yn fyw i blant ym mhob cwr o’r wlad”, fe fydd Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn teithio o amgylch Cymru trwy gydol mis Medi yn cynnal sioeau un dyn ac un ferch.

Sioeau dwyieithog fydd y rhain a fydd yn cynnwys cymeriadau hanesyddol fel Buddug y Frenhines Geltaidd, Harri Tudur ac Owain Glyndŵr.

Yn ôl Eleri Twynog, sylfaenydd y cwmni theatr i blant, Mewn Cymeriad / In Character: “Mae hanes Cymru yn frith o gymeriadau hanesyddol carismatig ac mae’r wŷl newydd hon yn gyfle gwych i’w cyflwyno i genhedlaeth newydd trwy gyfrwng sioeau bywiog sy’n cydio yn y dychymyg, ac yn galluogi’r plant i gymryd rhan.”

Cynhelir y sioeau ar draws y wlad mewn canolfannau a lleoliadau hanesyddol fel Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth; Wybrnant, sef man geni’r Esgob William Morgan; Tŷ Newton, Llandeilo; Cestyll Rhuddlan, Aberteifi, Fflint, Cydweli a Rhaglan. Cynhelir sioe hefyd yn y fferm Oes yr Haearn newydd yn Sain Ffagan, sef Bryn Eryr.

‘Profiad arbennig’

Y rheswm ei bod yn wŷl symudol yn ôl Eleri Twynog yw oherwydd “bydd yr holl sioeau i’w gweld mewn lleoliadau sy’n berthnasol i straeon y cymeriadau, fydd yn rhoi dimensiwn ychwanegol i’r perfformiadau, ynghyd â rhoi profiad arbennig i’r plant.”

Bydd y sioeau hyn ar gael i ysgolion yn ystod dyddiau’r wythnos a chynhelir rhai sioeau ar y penwythnos ar gyfer y cyhoedd. Mae’r wŷl ei hun yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Cadw, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Canolfan Owain Glyndŵr, Castell Aberteifi, Cymdeithas y Beibl, Mentrau Iaith Penfro, Fflint a Dinbych, Amgueddfa Dinbych y Pysgod ac Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd.

‘Ymwybodol o hanes’

Cydnabu Eleri Twynog gydweithrediad y partneriaid hyn am “gofleidio’r syniad” ac mae’n dra diolchgar bod “cymaint o ysgolion wedi croesawu’r cyfle i fod yn rhan o’r ŵyl.”

Y nod yn y pendraw, meddai, “fydd datblygu’r ŵyl i fod yn ddigwyddiad blynyddol fel bod cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant yn dod yn fwy ymwybodol o’u hanes a’u treftadaeth.”

Bydd yr Wŷl yn cychwyn gyda’r sioe Cymraeg Harri Tudur – Arwr Cymru neu Frawdwr? yng Nghastell Aberteifi ar ddydd Gwener, 4 Medi am 10 y bore, yng nghwmni Ysgol Gynradd Aberteifi.