Elfed Roberts
Mae Sir Drefaldwyn yn barod i groesawu pawb i’r Eisteddfod ac mae’r trefniadau wedi mynd yn “ardderchog”, yn ôl Prif Weithredwr y Brifwyl.

Nos Wener fe agorwyd yr Eisteddfod yn swyddogol gan berfformiad Cwmni Theatr Maldwyn o Gwydion, gyda phob tocyn yn y Pafiliwn wedi’i werthu.

Mae’r ŵyl wedi dychwelyd i ardal Meifod am y tro cyntaf ers 2003, ac yn ôl prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol mae’r paratoadau wedi cael eu gwneud y gorau allan nhw.

“Mae hi hyd yn oed wedi stopio bwrw!” meddai Elfed Roberts wrth Golwg360.

“Mae popeth ‘sa ni ‘di gallu’i wneud wedi cael ei wneud, mae’r bartneriaeth rhwng y cyngor a’r Eisteddfod a’r awdurdodau fel yr heddlu a’r gwasanaethau brys wedi bod yn ardderchog.”

Maes carfanau’n llawn

Heddiw mae’r ymwelwyr cyntaf yn cyrraedd y maes wrth i’r stondinau agor a’r cystadlu ddechrau.

Mae pob un o’r 860 safle ar y maes carfannau eisoes wedi cael eu llenwi hefyd, ac yn ôl Elfed Roberts mae’r ŵyl wedi ceisio ychwanegu rhywfaint at y datblygiadau a welwyd ar y maes yn Llanelli llynedd.

“Rydan ni’n gobeithio y bydd pobl yn heidio yma, mae’r maes yn edrych yn anhygoel,” meddai prif weithredwr y Brifwyl.

“Mae ‘na fwy o ddatblygu wedi digwydd ers llynedd, mae’r maes yn edrych yn dda. Mae’n lliwgar yma, mae’n groesawgar, ac mae andros o lot o weithgareddau wedi cael eu trefnu ar gyfer yr ymwelwyr, felly jyst pobl ‘da ni eisiau rŵan!

“[Mae’n] llawn dop, mae pob safle ar y maes carafanau wedi mynd ac erbyn bore dydd Gwener roedd y rhan fwyaf wedi cyrraedd – roedd tomen yma erbyn amser cinio dydd Iau.”