M
ae un o’r prosiectau iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod eleni yn ceisio annog pobol o bob cwr o Gymru i rannu geiriau ac ymadroddion tafodieithoedd amrywiol y wlad.

Yn ystod yr wythnos mae Mentrau Iaith Cymru a Menter Iaith Maldwyn yn gofyn i ymwelwyr yn y Brifwyl ddod i’w stondin ar y maes i rannu’r hynny sydd ganddyn nhw ar ffurf fideo, lluniau a chlipiau sain.

Mae’r Prosiect Tafodiaith yn cynnwys gweithdai celf lle bydd cyfle i greu eich gwaith celf eich hunain gydag artist, ac ychwanegu’r gweithiau hyn i greu cywaith o dafodiaith mewn papur bro anferth.

“Mae’r Gymraeg yn iaith gyfoethog iawn ac iddi ei thafodieithoedd unigryw sy’n perthyn i bob rhan o Gymru,” meddai Prif Swyddog Menter Iaith Maldwyn, Mererid Haf Roberts.

Dathlu’r amrywiaeth

Yn ôl trefnwyr y prosiect, bwriad y cynllun yw dathlu’r amrywiaeth eang sydd yn bodoli ymysg gwahanol dafodieithoedd y Gymraeg.

“Ryden ni’n teimlo’n gryf bod yr elfen o berchnogaeth dros y math o Gymraeg rydym yn ei siarad yn hynod bwysig i’w chynnal fel iaith naturiol, amrywiol a bywiog,” meddai Mererid Haf Roberts.

“Mae’r Prosiect Tafodiaith yn dathlu y Giêth Fêch a’r Wês Wês. Mae’n cynnig cyfle arbennig i ni gasglu geiriau tafodieithoedd gan unigolion o bob oed, o bob rhan o Gymru.

“Ryden ni eisiau fod pobol yn dathlu eu Cymraeg mewn ffordd hwyliog ar faes yr Eisteddfod a pha ffordd well o wneud hyn na chreu cywaith gweledol o amryfal leisiau’r Gymraeg.”