Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau wrth golwg360 bod yr heddlu yn ymchwilio i ddarn o waith “afiach” gafodd ei gyflwyno ar gyfer un o wobrau’r Brifwyl eleni.

Dywedodd Elfed Roberts bod rhai elfennau o’r nofel gafodd ei chyflwyno ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen, gwerth £5,000, yn mynd yn “groes i gyfraith gwlad”, a’i fod yn pryderu y gallai arwain at droseddu.

Cafodd y gwaith ei ddiarddel o’r gystadleuaeth am nad oedd y ffurflen ymgeisio wedi’i chwblhau yn iawn – ond nid cyn i’r beirniaid dderbyn copïau o’r nofel a dechrau ei darllen.

Yn ôl adroddiad yn Y Cymro roedd y gwaith o natur bornograffig ac anifeilaidd, ond fe wrthododd yr Eisteddfod gadarnhau’r manylion hynny.

Ffurflenni anghyflawn

Cafodd y nofel dan sylw ei hanfon i swyddfa’r Eisteddfod yn yr Wyddgrug gyda’r gwaith papur yn anghyflawn, ac felly fe fu’n rhaid agor yr amlen dan sêl er mwyn cysylltu â’r ymgeisydd i ofyn am gwblhau’r ffurflen yn gywir a chael copi caled o’r gwaith.

Pan ddywedodd y Swyddfa Bost nad oedd y cyfeiriad a roddwyd gan yr ymgeisydd yn bodoli fe benderfynodd yr Eisteddfod wahardd y gwaith o’r gystadleuaeth.

“Mi roedden ni eisoes wedi penderfynu felly nad oedd y gwaith yn cael ei ystyried ar gyfer y gystadleuaeth, oherwydd bod y cystadleuydd heb gydymffurfio â’r amodau,” meddai Prif Weithredwr y Brifwyl.

Pryder am droseddu

Ond ar ôl gweld cynnwys y gwaith dywedodd Elfed Roberts ei fod wedi poeni y gallai’r unigolyn a’i sgwennodd droseddu, a dyna pryd cyfeiriwyd y mater i Heddlu Gogledd Cymru.

“Wedyn dyma ni’n edrych i mewn ‘chydig bach mwy a gweld pa fath o waith oedd o. Mi roedd hynny wedi peri ychydig o ofid i mi, a dyma ni’n cysylltu â chyfreithiwr yr Eisteddfod a gofyn am ei farn o,” meddai Elfed Roberts.

“Yn ei dyb o, roedd y gwaith yn peri gofid gan fod ‘na elfennau ohono fo oedd yn mynd yn groes i gyfraith gwlad, a chyngor y cyfreithiwr oedd ar bob cyfrif i gysylltu â’r heddlu.

“Roedd o’n rhywbeth oedd yn pigo cydwybod ychydig bach, felly roeddwn i’n meddwl jyst rhag ofn i’r person yma geisio cario allan yr hyn yr oedd o neu hi’n awgrymu yn y gwaith, roeddwn i’n meddwl mai’r peth doethaf fyddai rhoi’r cyfan yn nwylo’r heddlu.”

‘Methu darllen’

Roedd y beirniaid – Dewi Prysor, Angharad Price a Robat Arwyn – eisoes wedi derbyn copi o’r nofel er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o feirniadu’r gystadleuaeth, a hynny cyn i unrhyw un “sylweddoli beth oedd y cynnwys”.

Yn ôl Y Cymro roedd o leiaf un o’r beirniaid wedi methu â darllen ond ychydig o dudalennau o’r gwaith, mor ffiaidd oedd ei chynnwys.

Doedd Elfed Roberts methu cadarnhau hynny, er iddo ddweud na fuasai’n “synnu” petai hynny’n wir o wybod am gynnwys y nofel.

“Mae’r gwaith yn sicr yn afiach ac yn groes i rai o’r cyfreithiau maen nhw [yr heddlu] wedi sôn amdano’n barod. Fyswn i ddim yn licio gweld neb yn gorfod darllen y math yma o waith,” meddai’r Prif Weithredwr.

Gwaharddiad?

Er mai cael ei wahardd am resymau yn ymwneud â’r gwaith papur wnaeth y nofelydd, awgrymodd Elfed Roberts y gallai’r Eisteddfod fod wedi’i ddiarddel ar sail y cynnwys amhriodol hefyd.

“Tydi’r Steddfod ddim yn y busnes o weithredu fel sensor, ond os oes ‘na rywbeth sy’n cael ei gyflwyno sy’n enllibus neu sy’n torri cyfraith gwlad yna dw i’n meddwl bod ‘na wedyn gyfrifoldeb i drafod y mater yn bellach gyda’n cyfreithwyr ni ac awdurdodau eraill fel yr heddlu,” meddai.

“Mi roedd ’na bethau yn y gwaith yma oedd yn peri pryder … ac yn groes i ddeddfau a chyfreithiau”.

Mae “lle i gredu” fod yr unigolyn dan sylw wedi cystadlu yn un o gystadlaethau’r Eisteddfod yn 2007 gyda darn oedd hefyd yn cynnwys gwaith anweddus.

Ac fe gyfaddefodd Elfed Roberts y gallai’r Eisteddfod gymryd camau i wahardd yr unigolyn rhag cyflwyno ceisiadau i gystadlaethau’r Brifwyl yn y dyfodol.

“Mi fydd ’na drafod ar hwn rywdro yn un o bwyllgorau’r Steddfod, ac os oes angen cymryd camau pellach fe fyddwn ni’n trafod hynny,” meddai.

“Ond ar hyn o bryd ‘da ni’n weddol fodlon ein bod ni wedi gwneud beth fyddai pob person call yn ei wneud a throsglwyddo’r mater i’r awdurdodau priodol.”

Ymchwiliad yn parhau

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio i’r mater.

“Gallaf gadarnhau ein bod yn parhau i ymchwilio i atgyfeiriad a wnaed i ni ym mis Mawrth eleni gan yr Eisteddfod Genedlaethol,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Iestyn Davies.

“Mae’r gŵyn a gafwyd yn ymwneud â chynnwys darn a gyflwynwyd ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen. Barnwyd fod y gwaith dan sylw o natur dramgwyddus ac anweddus ac mae’n cael ei ymchwilio iddo fel trosedd dan y Ddeddf Cyfathrebiadau Anweddus.

“Gan mai i Swyddfa’r Eisteddfod yn yr Wyddgrug yr anfonwyd y gwaith, Heddlu Gogledd Cymru sy’n arwain yr ymchwiliad.”