Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd drama Chwalfa yn cael ei llwyfannu yng Nghanolfan Pontio ym Mangor – bron i flwyddyn a hanner ar ôl iddi orfod cael ei chanslo oherwydd yr oedi cyn agor y ganolfan.

Bydd Chwalfa, sydd wedi cael ei chynhyrchu mewn partneriaeth a Pontio a Chwmni’r Frân Wen, yn cael ei llwyfannu yn Theatr Bryn Terfel ym mis Chwefror 2016 fel rhan o raglen agoriadol Pontio.

Yn wreiddiol roedd sôn am agor Pontio yn 2012 ac roedd y Theatr Genedlaethol wedi cychwyn ymarfer ar gyfer y cynhyrchiad, Chwalfa, oedd i’w llwyfannu ym mis Hydref y llynedd.

Ar y pryd, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a chyfarwyddwr Chwalfa, Arwel Gruffydd, fod y newydd yn “siom fawr” ar ôl “misoedd o waith paratoi”.

Mae Canolfan Pontio wedi costio £45 miliwn – gyda £30 miliwn yn dod o’r pwrs cyhoeddus.

Mae Chwalfa yn addasiad gan Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes.

‘Gweld golau dydd’

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a chyfarwyddwr Chwalfa,

“Mae’n hynod gyffrous ein bod ni heddiw yn gallu cyhoeddi y byddwn ni’n llwyfannu Chwalfa flwyddyn nesaf.

“Mae’n bleser gennym allu cadarnhau y bydd ffrwyth llafur pawb fu’n gweithio mor galed ar y cynhyrchiad yma llynedd, yn cael gweld golau dydd yn y flwyddyn newydd.

“Dyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl i ail-afael yn y gwaith ac i gael llwyfannu’r stori eithriadol hon sydd mor berthnasol i’r ardal, ac yn bennod mor bwysig yn ein hanes fel cenedl.”

‘Heriau’

Ychwanegodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio: “Heddiw rydym yn gallu datgan gyda hyder y bydd cynhyrchiad uchelgeisiol Chwalfa gan Theatr Genedlaethol Cymru yn ganolbwynt i arlwy agoriadol Pontio er gwaethaf yr heriau a fu.

“Mae’n braf cael dechrau rhannu cynnwrf a bwrlwm ein harlwy gelfyddydol agoriadol gyda chi a pha well ffordd na thrwy gyhoeddi bod y sioe arwyddocaol hon yn cael gweld golau ddydd.

“Fel Canolfan, mae Pontio eisiau rhoi llais cryf i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, ac felly roedd yn flaenoriaeth i ni, ein partneriaid creadigol ac i Brifysgol Bangor fod y stori hon yn cymryd ei phriod le ar ein prif lwyfan.”

Bydd Chwalfa yn cael ei llwyfannu o 17 Chwefror i 27 Chwefror, gyda thocynnau yn mynd ar werth ym mis Hydref 2015.