Dydd Gwener, Ionawr 13 2017
Yn Erbyn y Gwynt
Alun Gibbard yn sgwrsio ag Alun Wyn Bevan am ei gofiant newydd i Carwyn James.
Noson yng Nghwmni Cleif Harpwood
Bydd Cleif Harpwood, prif leisydd y grwp o'r 70au, Edward H. Dafis, yn cyflwyno rhai o glasuron y band mwyaf erioed y sîn roc Gymraeg mewn noson hwyliog yn llawn sgwrs a chân. Gyda chefnogaeth athrylith yr allweddellau - Geraint cynan. Hyrwyddir y noson hon ar y cyd rhwng Cymdeithas Gymraeg Llantrisant a Chanolfan Gartholwg. Darperir bar ar y nos.
‘Teilwng yw’r Oen’
Cylfwyniad cyfoes o waith yn seiliedig ar y Meseia, Handel. Trefniant Rhys Taylor gyda'r corau: Cardi-Gân, Corisma, Meibion y Mynydd ac unawdwyr gwadd: Deiniol Wyn Rees, Non Wyn Williams & Gwasanaeth Cerdd Ceredigion Service Cyfarwyddwr Cerdd: Rhys Taylor Cyfaddasiad roc o'r Meseia gan Tom Parker.
Oliver Gaiger a Meirion Ginsberg
Dyma sioe gyntaf o waith Oliver Gaiger o Aberteifi yn y gogledd, artist a aned yn Uganda ond sydd wedi byw mewn sawl lle o Papua Guinea Newydd i Gernyw cyn ymgartrefu yn Sir Aberteifi. Mae symbolau natur a dyn y gwledydd hynny ar ei waith.
Detholiad y Nadolig
Cyfle i weld detholiad o waith gan artistiaid Cymreig sy'n creu darnau at y Nadolig, gan gynnwys gwaith Ian Phillips, Luned Rhys Parri ac Elin Sian Blake.
Arddangosfa: ‘Hydref Du’
Dros yr hanner can mlynedd diwethaf mae pobl o bedwar ban byd wedi bod yn cofio trychineb Aberfan trwy lenyddiaeth, celf, cerddoriaeth a ffilm. Yn yr addangosfa hon byddwn yn edrych ar y drychineb ei hun a'r ymateb iddi, ac yn coffáu o'r newydd.
Arddangosfa Aberfan – Y Dyddiau Du
Cyfle i weld casgliad o ffotograffau gan I. C. Rapoport sy'n coffáu trychineb Aberfan ac yn cofnodi ymdrechion y trigolion i ddygymod â bywyd wedi'r drychineb.
Arddangosfa Antur ar Bob Tudalen
Arddangosfa fydd yn edrych ar antur mewn llenyddiaeth Gymraeg ac Eingl-Gymreig o ddechreuadau cynnar llenyddiaeth hyd at heddiw. Trwy edrych ar ac arddangos gwaith amrywiaeth o awduron gobeithiwn ysgogi atgofion melys o straeon plentyndod ac annog ymwelwyr i fynd ar...