RSS

Golwg360

MwyCau 

Dydd Sadwrn, Mawrth 11 2017

Teithiau Tywys

11:00yb | Celf | Caernarfon, Bangor

Cyfres o deithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Twrw

8:00yh | Gigs | Caerdydd

Noson yng nghwmni Candelas, Chroma, Cpt. Smith

Gŵyl Adrodd Stori Aberystwyth

12:00yh | Celf | Aberystwyth, Tregaron

Mae Gŵyl Adrodd Stori Aberystwyth yn dychwelyd gyda phenwythnos o straeon, ffilmiau, arddangosfeydd, anerchiadau a cherddoriaeth a ysbrydolwyd gan Brosiect Y Mabinogi 2015.

Arddangosfa Ffotograffiaeth: Dr Pete Davies

9:30yb | Celf | Aberystwyth, Tregaron

Arddangosfa ôl-syllol o bwys o ffotograffau yn rhychwantu 60 mlynedd, ynghyd â gwaith newydd sy’n amlygu diddordeb oes y ffotograffydd mewn agweddau penodol o’r byd o’n cwmpas. Llwydda i ddal ar gamera yn berffaith yr eiliadau a’r amgylchoedd cyffredin hynny yn ôl pob golwg a fyddai fel arall yn osgoi sylw heb gael eu gweld gan lygad sympathetig. *** Mynediad am ddim. ***

Arddangosfa: O Glawr i Glawr

9:30yb | Llen | Aberystwyth, Tregaron

Byddwn yn olrhain hanes y llyfr ar ei daith o’r Aifft i’r e-lyfr, gan edrych ar fathau o lyfrau, y broses o greu llyfrau, a llyfrau fel darnau o gelf ynddynt eu hunain. *** Mynediad am ddim. ***

YFORY

5:00yh | Theatr

Creisis personol, creisis gwleidyddol. Erbyn yfory bydd y byd wedi newid… Theatr Bara Caws yn cyflwyno YFORY, drama newydd gan Siôn Eirian. Cast: Aled Bidder, Rhodri Evan, Caryl Morgan, Dewi Rhys Williams Cyfarwyddo: Betsan Llwyd "Wy’n gwbod bo ti’n diall. Pam ma’ rhaid fi neud hyn…” Creisis personol, creisis gwleidyddol, erbyn yfory bydd y byd wedi newid… Ym myd gwleidyddiaeth gall argyfwng annisgwyl fod yn gyfle i drio rhywbeth gwahanol na ellid ei ystyried dan amgylchiadau arferol, ac yn dilyn lecsiwn 2016 mae’n greisis yn y Cynulliad. Mae Gwyn Davies, arweinydd newydd Plaid Cymru, a’i bartner hudolus, Ellie, am fanteisio ar chwalfa’r hen drefn. Ond un noson dyngedfennol, daw dau ymwelydd i’r fflat yn y Bae, a’r ddau’n fygythiad annisgwyl i ddyfodol gwleidyddol a phersonol Gwyn ac Ellie.

Sgriblo

11:00yb | Llen | Caernarfon, Bangor

Sesiynau ysgrifennu misol ar gyfer plant 7 – 11 oed dan ofal Sian Northey. Nod y sesiynau yw annog plant i fwynhau ysgrifennu creadigol heb bwysau cwricwlwm nag athro! Cynhelir sesiynau’r tymor: 18.02.17 / 25.03.17 / 29.04.17 Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru.

Chwedlau’r Seintiau

9:30yb | Arall | Aberystwyth, Tregaron

Arddangosfa o lawysgrifau canoloesol a modern cynnar sy'n ffynhonnell y llenyddiaeth 'Cwlt y Seintiau yng Nghymru' sydd wedi bod yn destun ymchwil dros y pedair blynedd ddiwethaf yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ac wedi canolbwyntio ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg yn ymwneud â marwygu'r seintiau.

Detholiad y Nadolig

10:00yb | Celf

Cyfle i weld detholiad o waith gan artistiaid Cymreig sy'n creu darnau at y Nadolig, gan gynnwys gwaith Ian Phillips, Luned Rhys Parri ac Elin Sian Blake.