Cynhwyshion
- 750g riwbob
- 1 llwy fwrdd siwgwr
- 2 lwy fwrdd sudd oren
- 150g blawd codi
- Pinsied o halen
- 75g menyn
- 75g siwgwr
Dull
- Torrwch y rhiwbob yn ddarnau tua 5cm a’u gosod mewn dysgl popty fas. Ychwanegwch y sudd oren a’r siwgwr a phobwch am rhyw 10 munud nes bydd y rhiwbob yn dechrau meddalu. Gallwch wneud hyn yn y meicrodon hefyd ar wres uchel am rhyw 2 funud.
- I wneud y crwmbwl, rhidyllwch y blawd a’r halen i powlen fawr. Gan ddefnyddio’ch bysedd, rhwbiwch y menyn i’r blawd nes bydd y gymysgedd yn edrych fel briwsion bara. Ychwanegwch y siwgwr a chymysgwch yn dda.
- Taenwch y gymysgedd dros y rhiwbob a’i bobi ar 170C/nwy 3 am tua 35 i 40 munud nes bydd yn lliw euraidd.