Marchnad lwyddiannus Glanyrafon, Caerdydd
Bydd marchnad ffermwyr newydd yn cael ei lansio yng nghanol Caerdydd wythnos nesaf gan ddod â chynnyrch lleol i ganol y ddinas am y tro cyntaf.

Mae’r farchnad newydd, a drefnir gan Gymdeithas Marchnad Ffermwyr Glanyrafon, yn cael ei chynnal am y tro cyntaf dydd Iau, 4 Awst a hynny yng Nghornel y Castell.

Fe fydd yn cael ei chynnal bob dydd Iau ar ôl hynny rhwng 11:00 a 3:00, yn y lle cyntaf ar gyfnod prawf o 12 wythnos.

Cadeirydd Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glanyrafon yw Steve Garrett, ac mae’n falch iawn o leoliad y farchnad ddiweddaraf yn y brifddinas. 

Lleoliad da i ddenu siopwyr

“Mae cael lleoliad mor amlwg ynghanol y ddinas yn golygu y gallwn ddenu nifer o gwsmeriaid, gan gynnwys siopwyr o Heol y Santes Fair a’r Stryd Fawr yn ogystal â gweithwyr o’r swyddfeydd sy’n amgylchynu’r lleoliad.”

“Gall gweithwyr swyddfa alw heibio yn eu hawr ginio a phrynu danteithion hyfryd a bwydydd sylfaenol ar gyfer eu prydau nos” ychwanegodd.

“Bydd bod mor agos at y Castell yn golygu hefyd y gall yr holl ymwelwyr rhyngwladol yn yr ardal fwynhau blas o Gymru yn rhan o’u hymweliad.”

Dilyn llwyddiant marchnadoedd eraill

Marchnad y Castell yw’r bedwaredd i’w sefydlu gan Gymdeithas Marchnad Glanyrafon yn dilyn llwyddiant y farchnad wreiddiol yng Nglanyrafon, a’r marchnadoedd wardiau a sefydlwyd yn y Rhath, Rhiwbeina a Gogledd Llandaf.

Bydd y farchnad gyntaf hefyd yn cynnwys arddangosiadau coginio, sesiynau blasu a gweithgareddau bwyd eraill.

“Bydd lleoli marchnad ynghanol y brifddinas yn dod â chynnyrch lleol yn syth at y siopwyr, gweithwyr swyddfa ac ymwelwyr” meddai Medi Jones-Jackson o ymgyrch Fforch-i-Fforc. 

“Mae’n gwneud cynnyrch lleol yn hygyrch a chyfleus.”