Tîm Porro
Mae dau gogydd sy’n rhedeg bwyty yn Llandaf wedi derbyn buddsoddiad chwe ffigur gan Cyllid Cymru er mwyn agor ail fwyty yn y brifddinas.

Fe agorodd tîm Porro eu bwyty cynta’ yn Llandaf yn 2015. Bydd bwyty Porro ar Heol Wellfield yn y Rhath yn agor heddiw, diolch i’r buddsoddiad gan Cyllid Cymru. A’r gobaith yw y bydd yn creu naw o swyddi llawn amser newydd sbon.

Mae’r cogyddion, Tom Furlong a Gwyn Myring, yn angerddol am weini bwyd lleol sydd wedi’i ysbrydoli gan yr Eidal.

“Rydyn ni’n defnyddio cynhwysion ffres, lleol o Gymru ym mhob un o’n prydau, ac mae hyn yn cadw ein milltiroedd bwyd yn isel a’r ansawdd yn uchel,” meddai Gwyn Myring sy’n gogydd ac yn gyd-berchennog Porro.