Mae’r cynnydd yn y mathau o win sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru yn rhywbeth y mae’r Gymdeithas Gwinllannoedd Cymru yn awyddus i’w ddathlu.

Mae 42 o winoedd gan naw o winllannoedd ledled Cymru wedi bod yn cystadlu’n erbyn ei gilydd. Fe gafodd deg o winoedd wobr efydd; fe enillodd pump o winoedd y wobr arian gan y beirniaid; a gwin Kerry Vale Solaris 2014 gafodd ei enwi’n win gorau’r gystadleuaeth.

Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cynhrychu tua 100,000 o boteli o win y flwyddyn ac mae disgwyl i’r ffigwr ddyblu erbyn 2020.

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru, Robb Merchant:”Mae’r diddordeb mewn gwinoedd Cymru’n tyfu wrth i’w hansawdd wella.

“Mae’r gwobrau eleni wedi cael eu barnu yn ôl safonau rhyngwladol a gall y gwinllannoedd hynny sydd wedi enill fod yn falch iawn o’u llwyddiant.”