Bara brith Llun: Visit Wales
Mae Pencampwriaeth Bara Brith y Byd wedi cael ei lansio heddiw gyda chyfle i bobydd y dorth fwyaf blasus ennill £100 a chyflenwad blwyddyn o greision.

Cwmni creision Jones o Gymru a Ffair Nadolig Llandudno sy’n cynnal y gystadleuaeth ar y cyd, ac mae gan bobyddion tan fis Tachwedd i berffeithio’u bara brith, cyn y dyddiad cau ar yr 17eg.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i bobol o bob cwr o’r byd ac mae’r trefnwyr yn dweud eu bod eisoes wedi cael rhywun o Siapan yn mynegi diddordeb.

“Dydi hyn ddim yn syndod mewn gwirionedd pan rydach chi’n meddwl pa mor boblogaidd yw Bara Brith, mae’n un o drysorau bwyd Cymru,” meddai Geraint Hughes o Jones o Gymru.

‘Gwerthu i’r cyhoedd’ 

Yn ogystal â’r wobr ariannol, bydd Canolfan Fwyd Bodnant yn pobi’r bara brith buddugol i’w werthu yno at y Nadolig.

Eglurodd Geraint Hughes: “Nid yn unig bydd yr enillydd yn cipio’r teitl anrhydeddus o Bencampwr Pobi Bara Brith y Byd, sydd gyda llaw yn llawer mwy o gamp na ennill y ‘Great British Bake Off!’ – bydd o neu hi yn cael y cyfle o weld ei bara brith nhw’n bersonol yn cael ei gynhyrchu gan grefftwyr pobi Bodnant i’w werthu i’r cyhoedd.”

Bydd angen i bobyddion sydd am gystadlu gofrestru o flaen llaw erbyn hanner nos, nos Sadwrn 12 Tachwedd, drwy e-bostio blas@madryn.co.uk neu ffonio 01758 701380.