Mae gan ddau gwmni bwyd a diod o Gymru achos dathlu ar ôl ennill rhai o’r prif gystadlaethau yn Oscars y byd bwyd, Gwobrau’r Great Taste, eleni.


Ben a Steph Culpin o gwmni Apple County Cider
Dyfarnwyd tair seren, sef y statws uchaf posib, a gwobr y Fforc Aur o Gymru i gwmni teuluol Apple County Cider o Sir Fynwy am eu seidr pefriog.

Ac fe gyflwynwyd Gwobr Treftadaeth Nigel Barden i’r cwmni o Gaersws, Hilltop Honey, am eu Mêl Teim Crai – sydd eisoes wedi ennill tair seren gan y Great Taste.

Roedd y beirniaid o’r farn bod Caws Caerffili, sy’n cael ei gynhyrchu gan Fwydydd Cymreig Bodnant, yn haeddu tair seren hefyd.

Canmoliaeth arbennig

Cafodd y pâr priod Ben a Steph Culpin sy’n rhedeg Apple County Cider lwyddiant yn y gwobrau’r llynedd hefyd:

“Mae ennill gwobr y Fforc Aur o Gymru am yr ail flwyddyn yn olynol yn anghredadwy, ac yn benllanw i’n holl waith caled dros y blynyddoedd.

Sefydlwyd Hilltop Honey yn 2011 pan ddechreuodd Scott Davies gadw gwenyn yng ngardd gefn tŷ ei rieni yn y Drenewydd. Bellach mae’r cwmni’n cyflogi naw staff llawn amser ac yn gwerthu mêl crai i siopau fel Sainsbury’s.