Bydd gŵyl fwyd môr Aberaeron yn un o naw sy'n derbyn arian
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd naw gŵyl fwyd a diod ar draws Cymru yn elwa o gymorth ariannol o hyd at £5,000.

Yn ôl Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, mae gwyliau bwyd yn “ddathliad o bopeth sy’n dda am fwyd a diod o Gymru.”

Dywedodd fod gwyliau bwyd yn datblygu’n draddodiad poblogaidd ar draws Cymru, a’u bod yn cydnabod eu rôl i’r economi leol gan ddenu ymwelwyr hefyd.

“Rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall gwyliau bwyd ei wneud i gryfhau a datblygu diwylliant bwyd bywiog yng Nghymru,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae gwyliau bwyd hefyd yn denu miloedd o bobl i ganol ein trefi a phentrefi, ac yn rhoi hwb derbyniol iawn i fusnesau lleol a’r economi wledig.”

 

Y gwyliau bwyd fydd yn elwa o’r cylch cyntaf o arian ydy gŵyl fwyd Y Bontfaen, Castellnewydd Emlyn, Arberth, Llangollen, Aberteifi, gŵyl fwyd yr haf a’r gaeaf yn Y Gelli Gandryll, gŵyl fwyd môr Aberaeron a Ffair Fwyd Nadolig y Fenni.