Bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn ymuno â channoedd o dyddynwyr am ddeuddydd o ddathlu moch, porc a phob agwedd ar fywyd cefn gwlad yn yr Ŵyl Wanwyn yn Llanelwedd y penwythnos nesa’.

Wrth i’r diwydiant porc arloesol dyfu yng Nghymru, mae gwefan www.Porc.Cymru yn gatalog o’r goreuon ymhlith ffermwyr moch ac eraill sy’n ymwneud â chig moch o bob cwr o’r wlad.

Mae hefyd yn cynnwys ryseitiau, blog, gwybodaeth am doriadau porc ac iechyd a maeth, ynghyd â chyfweliadau â llysgenhadon Porc.Cymru sy’n esbonio pam mae’r porc a gynhyrchir yng Nghymru mor arbennig.

Mae HCC hefyd yn gweithio ar y cyd â Chyswllt Ffermio i gynnal arddangosiadau ymarferol ar hwsmonaeth moch gyda’r Gymdeithas Foch Brydeinig a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.