Mae gwneuthurwyr Mars wedi adalw bariau siocled mewn 55 gwlad, gan gynnwys Prydain, ar ôl dod o hyd i blastig yn un o’u cynnyrch.

Dywedodd asiantaeth newyddion dpa yn yr Almaen, un o’r gwledydd sydd wedi cael ei effeithio, bod y broblem wedi deillio o eitemau gafodd eu cynhyrchu yn yr Iseldiroedd yn gynharach eleni.

Yn ôl llefarydd ar ran Mars yn yr Iseldiroedd, Roel Govers, mae’r adalw wedi effeithio ar 55 gwlad.

Mae awdurdod diogelwch bwyd yr Iseldiroedd wedi dweud eu bod wedi cael datganiad gan Mars oedd yn honni bod darn o blastig allai arwain at dagu wedi cael ei ddarganfod mewn cynnyrch.

Ymysg y siocledi sydd wedi cael eu heffeithio mae Mars, Milky Way, Snickers, Celebrations a Mini Mix.