(Llun parth cyhoeddus)
Fe ddaeth cefnogaeth i’r alwad yng Nghymru am dreth siwgr, gyda dwy elusen fawr yn dweud y gallai hynny atal 3.7 miliwn o achosion o ordewrdra difrifol yng ngwledydd Prydain tros ddeng mlynedd.

Mae Ymchwil Canser UK a Fforwm Iechyd UK wedi galw ar Lywodraeth Prydain i osod treth o 20% ar ddiodydd llawn siwgr gan ddweud y byddai hynny hefyd yn arbed £10 miliwn y flwyddyn.

Fe fyddai lefelau gordewdra ymhlith plant yn gostwng 5% erbyn 2015, meddai’r elusennau.

Yr alwad yng Nghymru

Yng Nghymru, mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu tros dreth siwgr ac, mewn dadl yn y Cynulliad ym mis Rhagfyr, fe gawson nhw gefnogaeth Llywodraeth Cymru a mwyafrif yr aelodau.

Roedd y cynnig yn galw ar y Llywodraeth i ddefnyddio’i grymoedd trethu newydd i “osod lefi” ar ddiodydd llawn siwgr.

Yng Nghymru yn 2011, roedd 35% o blant dan 16 yn rhy dew ac 19% yn diodde’ o ordewdra difrifol – y lefelau ucha’ yng ngwledydd Prydain.

‘Effaith anferth’

“Mae effaith estynedig  treth fechan ar ddiodydd siwgwraidd yn anferth,” meddai Alison Cox, cyfarwyddwraig ymchwil atal canser Ymchwil Canser UK, sydd hefyd yn galw am waharddiad ar hysbysebion bwyd sothach ar y teledu cyn naw y nos.

“Mae gan y Llywodraeth gyfle i helpu lleihau faint o siwgr sy’n cael ei fwyta gan oedolion a phlant a rhoi cyfle i genedlaethau’r dyfodol gael cyfle am fywydau iachach.”