Cwrw chwerw o fragdy bach yng Nhgasnewydd sydd wedi ei ddewis yn gwrw gorau gwledydd Prydain.

Bragdy Tiny Rebel a enillodd brif wobr y gymdeithas gwrw go iawn, CAMRA, am ei gwrw, Cwtch.

Yn ôl sylfaenydd y bragdy, Bradley Cummings, mae’r cwrw yn gyfuniad o’r “hen a’r newydd”, yn gwrw traddodiadol gyda hopys ychwanegol.

Y cefndir

Dechreuodd y cwmni o Gasnewydd yn 2008 ble bu Bradley Cummings yn bragu cwrw cartref bob penwythnos.

Cafodd Tiny Rebel ei lansio’n swyddogol yn Chwefror 2012 ac ymhen blwyddyn, roedd yn ennill gwobrwyon.

Cafodd y wobr ei chyflwyno yng Ngwyl Gwrw CAMRA yn Llundain.