Mae cwmni bwyd o ogledd Cymru wedi dechrau gwerthu’r bara garlleg cyntaf sydd wedi ei gynhyrchu o garlleg Cymreig.

Fe gymrodd hi ddwy flynedd i’r teulu Hooton o Frynsiencyn, Ynys Môn ddatblygu’r dorth Anglesey Garlic o dan y brand Go Garlic ac mae’r bara bellach ar werth mewn siopau fferm ar draws Gogledd Cymru.

Mae’n defnyddio math cyfrinachol o arlleg a dyfir yn lleol gan Hooton’s, ynghyd â’r enwog Halen Môn.

Cred James Hooton mai ei dorth faget garlleg yw’r cyntaf yng Nghymru i gael ei chynhyrchu ar gyfer archfarchnadoedd mawr a gwasanaethau bwyd torfol.

“Rydym wedi bod yn ffermio yn ardal Brynsiencyn ers dechrau’r 1960au gan dyfu garlleg ers tua deg mlynedd i gyflenwi ein dwy siop fferm, Hooton’s Homegrown, Brynsiencyn a Chanolfan Arddio Fron Goch, Llanfaglan, Caernarfon,” meddai.

“Ein bagét yw’r cynnyrch cyntaf i ni ei lansio dan y brand Go Garlic. Bara garlleg yw’r dewis amlwg fel man cychwyn gan mai dyma ddaw i’ch meddwl ar unwaith wrth ystyried ein hoffter o arlleg. Mae’n ffefryn gan bobol o bob oed.”

Datblygu

Wedi lansio’r bara garlleg, mae’r tîm yn awr yn gweithio ar rysáit marmalêd blas garlleg a nionyn ac mae cynlluniau i gynhyrchu rhagor o’u tatws stwns a thatws rhost garlleg llwyddiannus sydd eisoes ar werth mewn dognau bach yn siopau fferm y cwmni.

Hyd y gŵyr James, garlleg cartref teulu Hooton yw’r unig arlleg sy’n cael ei dyfu ar sail masnachol yng Nghymru.

Mae’r bwlb garlleg cymaint â chwe modfedd ar draws – llawer mwy na maint arferol y garlleg tramor sydd ar werth yn y siopau.