Ultracomidia yn cipio aur

Deli Aber ac Arberth yn blasu mwy o lwyddiant


Ultracomida (Llun gan Kiran Ridley)
Mae delicatessen sydd â changhennau yn Aberystwyth ac Arberth wedi cipio’r wobr aur yng Ngwobrau Gwir Flas eleni am y Deli/Siop Arbenigol orau.

Llwyddodd y siop a bwyty Ultracomida, sy’n arbenigo mewn danteithion o Sbaen a chynnyrch lleol o Gymru, ac er gwaethaf cystadleuaeth gref o bob rhan o Gymru yn yr ‘Oscars’ bwyd Cymreig blynyddol.

Gwaith caled

“Rydyn ni mor falch i ennill y wobr gan ei bod yn cydnabod yr agwedd angerddol sydd gennym tuag at fwyd a diod o Gymru yn ogystal ag o Sbaen” meddai Cyfarwyddwr Ultracomida, Shumana Palit

“Mae pawb sy’n rhan o Ultracomida wedi gweithio’n galed iawn dros y flwyddyn ddiwethaf i gynnal safonau uchel.”


Cyfarwyddwr Ultracomida, Shumana Palit a Paul Grimwood yn dal y wobr yn seremoni Cymru Gwir Flas
“Ein nod yn y pendraw yw annog ein cwsmeriaid i rannu ein hangerdd ni tuag at fwyd a diod, a diolch i’w cefnogaeth barhaus nhw yr ydyn ni’n dal i lwyddo.”

Ni ellir prynu llawer o’r cynnyrch hyn yn unrhyw le arall yng ngwledydd Prydain ac fe’u defnyddir hefyd ym mwytai Ultracomida sy’n rhannu safleoedd â’r siopau.

Cyfraniad gwerthfawr

Roedd y wobr Deli/Siop Arbenigol orau yn disgyn i’r categori ‘Pobl a Lleoedd yn y gwobrau, sy’n gategori pwysig yn ôl y Dirprwy Weinidog dros Amaeth, Bwyd a Physgodfeydd.

“Mae categorïau ‘Pobl a Lleoedd’ yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i’r sectorau bwyd, diod, lletygarwch ac adwerthu gan unigolion a busnesau“ meddai Alun Davies

“Mae ymdrechion pawb sy’n coginio, gwerthu a hyrwyddo bwyd a diod o safon o Gymru – a’r amgylchedd y cânt eu cynhyrchu ynddo – yn rhan bwysig o ethos brand Gwir Flas.”

Mae Ultracomida’n gyfarwydd iawn â llwyddiant, gan iddynt gael eu cydnabod y siop annibynnol orau yng Nghymru gan yr Observer Food Magazine, yn Fusnes y Flwyddyn Ceredigion ac yn Siop Orau Gwir Flas yn 2006 a 2008.

Roedd Gwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru yn cael eu cynnal am y ddegfed flwyddyn eleni a cafwyd dros 1000 o gynigion gan 66 o gwmnïau ar draws yr 16 categori.

Dweud eich dweud