Marchnad Ffermwyr Sgeti

Marchnad ffermwyr Sgeti yw’r diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc.


Marchnad ffermwyr Sgeti yw’r diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc.

Mae’n fore Sadwrn llwydaidd a digon diflas – y math o ddiwrnod sy’n codi chwant am ddisgled boeth o goffi a sgwrs gydag ambell wyneb cyfarwydd. Mae marchnad ffermwyr Sgeti yn cynnig yn union hynny, a’r cyfle i flasu a phrynu peth o gynnyrch gorau’r ardal leol. O gymharu ag awyrgylch ddigymeriad y rhan fwyaf o archfarchnadoedd, mae’r farchnad gyfeillgar hon, a gynhelir ar ddydd Sadwrn olaf pob mis yn ffreutur Ysgol Esgob Gore, yn chwa o awyr iach. Mae ganddi ddigon o gwsmeriaid lleol ffyddlon ac mae’n darparu gwasanaeth pwysig i’r gymuned leol, ac i unrhyw un sydd eisiau prynu’r cynnyrch lleol, ffres gorau posib.

“Rydw i’n credu ei bod yn bwysig ei wneud yn ddigwyddiad cymdeithasol,” meddai’r trefnydd Dave Williams. “Y syniad canolog tu ôl i’r farchnad yw cynaliadwyedd – sy’n golygu fod rhaid ystyried ffactorau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae’n helpu’r economi leol trwy gefnogi masnachwyr lleol; mae’n gwneud lles i’r amgylchedd trwy leihau milltiroedd bwyd; ac mae’n cyfoethogi’r gymuned trwy gynnwys grwpiau ac elusennau lleol.

Mae gennym Gymdeithas Trigolion Sgeti yn rhedeg stondin ailgylchu, Cymdeithas Rhieni Ysgol Esgob Gore yn gwneud y te a’r coffi a 44ain Sgowtiaid Abertawe yn gwerthu pice ar y maen. Roedd cynnwys grwpiau lleol yn syniad da gan eu bod yn llysgenhadon i’r farchnad.”

Mae Marchnad Ffermwyr Sgeti yn ddiogel yn nwylo Dave: ef sefydlodd farchnad ffermwyr arloesol Penclawdd, ac mae’r fformiwla lwyddiannus yno wedi cael ei defnyddio gan nifer o farchnadoedd newydd yn ardal Abertawe.

“Dechreuais redeg Penclawdd yn 2003 ac arweiniodd hynny at sawl marchnad arall – rwy’n credu eu bod wedi defnyddio Penclawdd yn rhyw fath o fodel. Ac eithrio Marchnad Ffermwyr Mymbls, sy’n farchnad awyr agored, doedd neb wedi gwneud rhywbeth tebyg o’r blaen. Erbyn hyn mae marchnadoedd yng Nghlydach, Penclawdd, Llangynydd a Phenllergaer.”

Bu Dave yn rhedeg marchnad Sgeti er 2007. “Rhoddodd y trefnydd y gorau iddi a gofynnodd y cynhyrchwyr imi a fyddai diddordeb gen i redeg hon. Symudodd y farchnad o’r eglwys i Ysgol Esgob Gore fis Hydref y llynedd ac mae pethau’n mynd yn dda – mae gennym lawer o gwsmeriaid rheolaidd.”

Mae’r gymuned leol yn elwa, ond mae’r farchnad yn anadl einioes hefyd i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol, y byddai llawer ohonynt yn methu cadw i fynd heb gwsmeriaid marchnadoedd cynnyrch lleol.

“Mae llawer o ffermwyr yn cael eu blingo gan yr archfarchnadoedd mawr,” meddai Dave. “Roedd y syniad o gael cynhyrchwyr yn gwerthu’n syth i’r cyhoedd heb neb yn y canol yn edrych yn un da. Pan ddechreuon ni ym Mhenclawdd yn 2003 roedden ni’n ddigon naïf i feddwl y gallem ni gael gafael ar bopeth o benrhyn Gŵyr, ond roedd cymaint o gynhyrchwyr wedi rhoi’r gorau iddi. Erbyn hyn, mae gennym gynhyrchwyr o radiws o 30 milltir. Pe baen ni wedi dechrau 15 mlynedd yn ôl efallai y bydden ni wedi gallu achub rhai busnesau.”

Diolch i gylchgrawn Swansea Life www.swansealife.co.uk

Dweud eich dweud