Gill’s Plaice

Siop bysgod arbenigol yw’r cynhyrchwr diweddaraf i gael ein sylw.


Gill's Plaice (Llun o wefan Fforch i Fforc)

Siop bysgod arbenigol yw’r cynhyrchwr diweddaraf i gael ein sylw.

Mae Gill’s Plaice yn siop bysgod arbenigol yn Aberdyfi, yn gwerthu pysgod a ddaliwyd ym Mae Ceredigion. Ers cymryd y busnes sefydledig drosodd yn 2007, mae Gill’s Plaice nid yn unig yn cyflenwi’r cyhoedd a chwmnïau arlwyo ond hefyd dafarnau a gwestai lleol. “Mae rhai o’r bwytai gorau yng Ngwynedd yn cael eu pysgod gennym ni!”, meddai’r perchennog.

Yn ôl Gill, “Mae tîm Gill’s Plaice yn cael eu hyfforddi’n llawn i ddewis a phrynu ein holl bysgod i sicrhau nad ydynt ond yn gwerthu’r gorau. Rydyn ni’n arbenigwyr ar drin, diberfeddu, diesgyrnu, ffiledu, arddangos a marchnata ein pysgod.”

Ni yw’r unig siop bysgod yn yr ardal sydd wedi’i thrwyddedu i werthu pysgod ffres o’r cei bob dydd, sy’n golygu bod ein cwsmeriaid yn gallu prynu cranc, berdys, cimwch, draenog môr, macrell hyrddyn, lleden arw, lleden a morgi yn syth o’r cychod pysgota.”

Mae’r siop bysgod hefyd yn cynnig gwasanaeth o ddrws i ddrws o’u stondin symudol, gan ddod â physgod ffres i ddrysau cwsmeriaid ar hyd a lled Gwynedd a gogledd Ceredigion. Mae’r siop bysgod i’w gweld ym marchnad ffermwyr Aberystwyth ar ail a phedwerydd dydd Sadwrn y mis.
Mae Gill hefyd yn mynd â’i medrau trin pysgod ar y ffordd ac mae’n cynnig sgyrsiau ac arddangosiadau ar bysgota a thrin pysgod i ysgolion a cholegau lleol a chyfarfodydd WI. Mae wrthi hefyd yn paratoi taflen ryseitiau er mwyn dysgu plant sut i wneud bysedd pysgod go iawn.

Dweud eich dweud