Adroddiadau o gemau pêl-droed lleol: Cynghrair Cambrian Tyres – Adran 1

12/1/19

 

Ail Dîm Machynlleth 1-9 Penparcau

Ymestynnodd tîm Penparcau ei fantais ar frig y gynghrair i 11 o bwyntiau ddydd Sadwrn, wrth drechu tîm wrth gefn Machynlleth o 9 gol i 1 yng Nghae Glas. Cipiodd Nathan Warren a Liam Jacques dair gôl yr un, hefo gweddill y goliau yn cael eu rhannu rhwng Ben Holt, Andrew Gittins a Michael Gornall. Cipiodd Mach gôl yn ôl yn hwyr hefo’r sgôr yn 9-0 diolch i’r chwaraewr newydd Michael Worsell. Hefo dim ond pum gem ar ôl, mae llwyddiant i weld ar y gorwel i Benparcau, tra bod Mach yn dal ar waelod y gynghrair.

 

Llanilar 4-4 Tregaron Turfs

Roedd hi’n gêm enfawr yn Llanilar wrth i’r trydydd yn y gynghrair groesawu’r ail. Tregaron Turfs oedd yr ymwelwyr i Fryn Castell, hefo’r ddau dîm yn ceisio cau’r bwlch uwch eu pennau. Ac am unwaith roedd y gêm wedi byw lan i’r cyffro o flaen llaw, wrth i’r ddau dîm frwydro am 90 munud llawn cyffro a drama. Gorffennodd y gêm yn 4-4, hefo goliau i Lanilar gan Guto Roberts, Ryan Edwards, Shon Morgans a Ryan Hopkins, a goliau Tregaron yn cael eu sgorio gan Mel Davies, Llŷr Davies, Ifan Jones a Rhun Garner. Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i sgorio gôl i ennill y gêm ond roedd pwynt yn sgôr teg ar ddiwedd y dydd – canlyniad a gafodd ei ddathlu ym Mhenparcau.

 

Padarn United 1-3 Tal-y-bont

Cipiodd Tal-y-bont fuddugoliaeth ym Mhadarn mewn gêm arall llawn drama er mwyn symud i fyny i’r pumed safle yn y gynghrair. Serennodd Osian Thomas i Dal-y-bont wrth iddo sgorio dau, yr un cyntaf yn ergyd wych o du allan y bocs, yn syth i gornel ucha’r rhwyd ar ôl dim ond 2 funud. Roedd elfen o lwc yn ail gôl Tal-y-bont, wrth i gic gornel gan Dylan Benjamin ffeindio’r rhwyd ar ôl camddealltwriaeth gan gôl-geidwad Padarn. Ond ychydig cyn yr egwyl cipiodd Padarn un yn ôl, hefo cic o’r smotyn yn cael ei rwydo gan Paul Keegan, cyn-chwaraewr Tal-y-bont. Aeth pethau’n waeth i Dal-y-bont yn yr ail hanner wrth iddynt golli Benjamin am garden goch ddadleuol, ac roedd rhaid iddynt amddiffyn yn dynn cyn i Thomas sgorio ei 14eg gôl o’r tymor yn y munudau olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth. Roedd hon yn fuddugoliaeth enfawr i dîm ifanc Tal-y-bont, lle’r oedd 4 o’r 11 a gychwynnodd o dan 16 oed. Yn ogystal â Thomas, cafodd Mike Fitzpatrick a Charlie Turner gêm wych hefyd i Dal-y-bont.

 

Bont 4-1 Ail Dîm Penrhyn-coch

Ym mhedwaredd gêm y gynghrair, Bont oedd yn fuddugol ar ôl iddynt groesawu ail dim Penrhyn-coch. Sgoriodd Dewi Sion Evans hat-tric ac aeth y gôl arall i Garin Evans. Roedd hi’n ddiwrnod siomedig arall i Benrhyn-coch yn dilyn y golled o gôl i ddim yn erbyn Bow Street yr wythnos diwethaf. Mae’r canlyniad yn golygu bod Bont yn aros yn y pedwerydd safle, gyda Phenrhyn-coch yn wythfed.