Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi gwerthu pob un o’r 1300 tocyn oedd wedi eu rhoi iddyn nhw ar gyfer eu gêm ddarbi fawr yn erbyn Bangor nos Sadwrn.

Mi fydd y gêm Gwpan Cymru yn cael ei chwarae yn Stadiwm VSM Dinas Bangor am 7:30 nos Sadwrn, ac mae’r cyffro’n cynyddu wrth i ddau dîm mwya’ Gwynedd herio’i gilydd yn y bedwaredd rownd.

Efo Bangor yn cystadlu yng Nghynghrair Huws Gray Alliance y tymor hwn, a Chaernarfon yn Uwch Gynghrair Cymru, dyma’r tro cynta’ i’r hen elynion herio ei gilydd eleni, ac mae cefnogwyr Caernarfon yn amlwg yn edrych ymlaen at y gêm.

“Gawson ni 1300 o docynnau ac mae pob un wedi eu gwerthu” meddai llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Caernarfon wrth Bro360.

‘Edrach ymlaen’

“Mae’r cefnogwyr yn edrach ymlaen at y gêm fawr ac yn llawn hyder a ffydd yn Sean (Eardley, rheolwr Caernarfon) a’r garfan.”

Er fod Bangor yn chwarae yn ail reng pyramid pêl-droed Cymru ar hyn o bryd, mae’r tîm yn perfformio’n dda ac yn siŵr o gynnig her i’r Cofis.

Roedden nhw’n fuddugol o 4-1 yn erbyn Hotspur Caergybi dros y penwythnos – eu trydedd buddugoliaeth ar ôl ei gilydd yn y gynghrair ac mae hynny’n eu rhoi nhw’n ail yn y tabl ar ôl Airbus UK sydd ar y brig.

Mae Caernarfon ar y llaw arall yn dod at y gêm yn ffresh wedi penwythnos rhydd, a nhwtha wedi ennill eu dwy gêm cyn hynny yn erbyn Caerfyrddin ac Y Bala.

Mae rhai o docynnau Bangor ar gyfer y gêm ar ôl ac ar gael i’w prynu gan y clwb. Mi fydd y gêm hefyd yn cael ei darlledu’n fyw gan Sgorio ar S4C.