RSS

Golwg360

MwyCau 

Trydarwyr Cymraeg – Y 50 Uchaf

Cyhoeddwyd Mawrth 21, 2016 gan Cymru.

Tagiau: trydarwyr, Twitter


Mae hi’n #benblwyddhapus arbennig i Twitter heddiw, wrth i’r wefan gymdeithasol ddathlu deng mlynedd ers ei lansio.

Bellach mae ganddi dros 330 miliwn o ddefnyddwyr actif ym mhob cwr o’r byd – gan gynnwys yma yng Nghymru, ble mae miloedd o bobol yn defnyddio’r Gymraeg arni yn ddyddiol.

Yn ôl gwefan indigenoustweets.com mae’n debyg mai’r Cymro cyntaf i drydar neges yn y Gymraeg ar y wefan oedd Mei Gwilym, datblygwr gwe o’r Felinheli.

Ond pwy yw’r Cymry Cymraeg sydd fwyaf amlwg ar y wefan erbyn hyn?

Mae @Golwg360 wedi mynd at i lunio rhestr o’r 50 trydarwr Cymraeg sydd â’r nifer uchaf o ddilynwyr (hynny yw, pobol sy’n defnyddio’r iaith o leiaf yn weddol gyson ar Twitter – felly ymddiheuriadau i’r rheiny fel Ioan Gruffudd, Shane Williams ac Aaron Ramsey!).

Cofiwch roi gwybod os ‘dych chi’n meddwl fod yna rywun arall ddylen ni fod wedi’u cynnwys!

Defnyddiwr                                 Nifer y dilynwyr

1.       Nigel Owens (@Nigelrefowens)  191,420


Nigel Owens - rhif un yn y byd dyfarnu a'r byd trydar yn y Gymraeg!
Dyfarnwr rygbi a chyd-gyflwynydd ar raglen Jonathan.

2.       Huw Stephens (@huwstephens)   137,865

Cyflwynydd Radio 1 ac C2 ar BBC Radio Cymru.

3.       Iwan Roberts (@iwanwroberts)  31,797

Sylwebydd pêl-droed a chyn-chwaraewr Cymru.

4.       Leanne Wood (@LeanneWood)   29,937

Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod Cynulliad.

5.       Sarra Elgan (@Sarraelgan)   25,552

Cyflwynwraig rygbi ar BT Sport a rhaglen Jonathan.

6.       Gareth Wyn Jones (@1GarethWynJones)    11,441

Ffermwr o Lanfairfechan ac awdur The Hill Farmer.

7.       Bethan Jenkins (@bethanjenkins)   9,262

Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru.

8.       Tudur Owen (@Tudur)    8,997


Mae Tudur Owen yn edrych yn falch iawn o fod yn wythfed ar y rhestr
Digrifwr a chyflwynydd ar BBC Radio Cymru.

9.       Rhun ap Iorwerth (@RhunapIorwerth)  8,143

Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn.

10.   Vaughan Roderick (@VaughanRoderick)  7,867

Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru.

11.   Dafydd Elis-Thomas (@ElisThomasD)  7,393

Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Nwyfor Merionnydd.

12.   Caryl Parry Jones (@carylparryjones)  7,070

Cantores, actores a chyflwynwraig.

13.   Owain Fôn Williams (@owainfon)  6,907


Mae'n bosib y bydd Owain Fôn yn uwch na 13eg erbyn mis Gorffennaf os ydi o wedi helpu Cymru i ennill yr Ewros!
Golwr i dimau pêl-droed Cymru ac Inverness.

14.   Elin Jones (@ElinCeredigion)  6,809

Aelod Cynulliad Plaid Cymru yng Ngheredigion.

15.   Owain Tudur Jones (@OwainTJones)   6,642

Cyn-bêldroediwr Cymru sydd bellach yn sylwebydd.

16.   Elin Fflur (@elinfflur)   6,454

Cantores a chyflwynwraig ar raglen Heno.

17.   Laura McAllister (@LauraMcAllister)  6,146

Cadeirydd Chwaraeon Cymru a darlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl.

18.   Jonathan Edwards (@JonathanPlaid)   6,032

Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

19.   Dyl Mei (@dylmei)  6,014

Casglwr recordiau a llais cyfarwydd ar Radio Cymru gyda Tudur Owen.

20.   Andrew ‘Tommo’ Thomas (@TOMMORADIO)   5,692


Mae Tommo ddau safle yn uwch na Shân Cothi ar y rhestr (yn anffodus i Dylan Jones doedd o ddim yn y 50 uchaf)
DJ a chyflwynydd ar BBC Radio Cymru.

21. Jill Evans (@JillEvansMEP)

22. Shan Cothi (@RealShanCothi)

23. Simon Thomas (@SimonThomasAC)

24. Georgia Ruth (@georgiaruth)

25. Garry Owen (@owen_garry)

26. Mabon ap Gwynfor (@mabonapgwynfor)

27. Dylan Ebenezer (@DylanEbz)

28. Carwyn Jones (@AMCarwyn)

29. Huw Marshall (@marshallmedia)

30. Hywel Williams (@HywelPlaidCymru)

31. Gareth Charles (@charlorugby)


Fe ddringodd Lowri Morgan i'r 37fed safle ar y rhestr
32. Mari Lovgreen (@MariLovgreen)

33. Daniel Glyn (@DanielGlyn)

34. Rhys Meirion (@RhysMeirion)

35.Helen Mary Jones (@HelenMaryCymru)

36. Rhuanedd Richards (@Rhuanedd)

37. Lowri Morgan (@_LowriMorgan)

38. Aled Hall (@AledHall)

39. Rhodri ap Dyfrig (@Nwdls)

40. Guto Bebb (@GutoBebb)

41. Dewi Llwyd (@Dewi_Llwyd)

42. Aled Roberts (@AledRobertsAM)

43. Ifan Jones Evans (@ifanevans)

44. Dewi Prysor (@DewiPrysor)

45. Hedd Gwynfor (@heddgwynfor)


"Oleia' dw i'n uwch na Rhys Mwyn!"
46. Yws Gwynedd (@ywsgwynedd)

47. Aneirin Karadog (@neikaradog)

48. Gareth Bonello (@ghbonello)

49. Rhys Mwyn (@therealrhysmwyn)

50. Rhydian Bowen Phillips (@RhydBowPhill)

Dathlu’r cyfraniad Cymraeg ar ben-blwydd Wicipedia

Cyhoeddwyd Ionawr 14, 2016 gan Jason Evans.

Tagiau: golygothon, Wicipedia, Wicipedia Cymraeg


Jason Evans
Jason Evans fydd yn cymryd rhan mewn Golygothon arbennig i ddathlu carreg filltir ‘gwefan Gymraeg fwyaf poblogaidd y byd’ …

Ar 15 Ionawr bydd Wicipedia yn dathlu ei 15fed pen-blwydd. 15 mlynedd yn unig ers creu’r erthygl gyntaf, Wicipedia yw’r gwyddoniadur mwyaf ar y blaned bellach ac mae’n un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd yn y byd.

Gyda degau o filiynau o erthyglau mewn bron i 300 o ieithoedd, mae miliynau o bobl yn troi at Wicipedia am bob math o wybodaeth, o fywgraffiadau o’u hoff sêr ffilm, i grefydd, gwleidyddiaeth a hanes hynafol.

Yn 2007 roedd gan y Wicipedia Cymraeg fil o erthyglau yn unig ond mae wedi tyfu’n gyflym ac erbyn hyn mae’n cynnwys yn agos at 70,000 o erthyglau gwreiddiol yn y Gymraeg.

Ffynonellau

Yr hyn sy’n gwneud y ffigurau yma yn fwy trawiadol yw’r ffaith bod erthyglau Wicipedia yn cael eu creu yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.

Heb y bobl hyn ni fyddai Wicipedia yn bodoli. Fel y Wicipediwr Preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, mae dyletswydd arnaf i annog pobl i gyfrannu at y gwyddoniadur ar-lein ac i annog y Llyfrgell Genedlaethol i rannu ei chyfoeth o wybodaeth a’i chasgliadau digidol, i helpu gwneud Wicipedia yn fwy ac yn well.

Nid yw cyfrannu at Wicipedia erioed wedi bod mor hawdd. Gyda’r Golygydd Gweladwy newydd, gall unrhyw un gyfrannu.

Y cyfan sydd angen er mwyn golygu Wicipedia yw cyfrifiadur, tabled neu ffôn smart a mynediad i ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy.

Er enghraifft, os ydych yn ysgrifennu neu’n ychwanegu at erthygl am chwaraewr rygbi proffesiynol gallech gael gwybodaeth o wefan swyddogol, papur newydd neu hunangofiant.

Yn syml, ychwanegwch y wybodaeth at yr erthygl ac yna dyfynnwch eich ffynhonnell.

Y dyn eira cyntaf

Gan fod Wicipedia mor enfawr, mae hefyd yn llwyfan perffaith i rannu hanes Cymru gyda’r byd. Ers dechrau fy nghyfnod preswyl fel Wicipediwr bron i flwyddyn yn ôl, mae’r Llyfrgell wedi rhannu mwy na phum mil o ddelweddau digidol o’i chasgliadau.

Trwy rannu’r rhain gyda Wicipedia mae’r Llyfrgell yn rhyddhau’r delweddau i’r parth cyhoeddus, felly maent ar gael i unrhyw un at unrhyw ddefnydd, yn rhad ac am ddim.

O’r ffotograffau cynharaf yng Nghymru i baentiadau tirlun a llawysgrifau canoloesol, mae’r delweddau yma eisoes wedi cael eu hychwanegu at filoedd o erthyglau Wicipedia mewn 100 o ieithoedd.

Mae erthyglau sy’n cynnwys delweddau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru bellach wedi cael eu gweld mwy na 21 miliwn o weithiau. Nawr, mae’r Llyfrgell yn gobeithio rhyddhau casgliad o 100,000 o ffotograffau yn ystod y misoedd nesaf.
Delwedd dyn eira – Mae’r ffotograff cyntaf yn y byd erioed o ddyn eira ymhlith y delweddau mae'r Llyfrgell wedi eu rhannu â Wicipedia

Gwefan Gymraeg fwya’r byd

Ond pam y dylem ni fod yn cyfrannu at Wicipedia? Wel, y ffordd orau i gadw erthyglau Wicipedia yn gywir ac yn gyfredol yw cael mwy o bobl i gyfrannu.

Os ydych yn pori trwy erthygl ac yn gweld camgymeriad, waeth pa mor fach, cofiwch fod gennych y pŵer i glicio ‘golygu’, a chywiro’r camgymeriad yn syth yn y fan a’r lle.

Fodd bynnag, yr wyf yn meddwl bod pwysigrwydd y Wicipedia Cymraeg yn ymestyn llawer  ymhellach.

Dyma’r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd yn y byd, ac mae’n rhoi mynediad i gyfoeth o wybodaeth am Gymru a’r byd trwy’r Gymraeg.

Yn ôl pob tebyg Wicipedia yw’r corff mwyaf o lenyddiaeth Gymraeg a grëwyd erioed, a’r cwbl wedi ei greu gan bobl gyffredin sy’n rhoi ychydig o’u hamser i helpu i ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr oes ddigidol.

Golygothon

Fel rhan o’m cyfnod preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol, rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau o’r enw ‘Golygothonau’, er mwyn i wirfoddolwyr ddod at ei gilydd i wella erthyglau Wicipedia ar bwnc penodol.

Rydym wedi cynnal digwyddiadau yng Ngwent, Caerdydd, Abertawe ac Aberystwyth, gan gynnwys golygathon Cwpan Rygbi’r Byd yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae’r digwyddiadau wedi eu hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb, ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, gyda chymorth arbenigol wrth law.

Ers mis Ionawr diwethaf  mae cannoedd o erthyglau newydd neu erthyglau gwell wedi cael eu hychwanegu at Wicipedia yn ystod y digwyddiadau hyn, ac rydym wedi ymdrin â nifer o bynciau gan gynnwys ffotograffwyr Cymreig, Cyfreithiau Hywel Dda, Rygbi a’r Rhyfel Byd Cyntaf.


Golygothon Rygbi – Golygyddion yn gweithio’n galed yn Stadiwm y Mileniwm
I ddathlu pen-blwydd Wicipedia bydd Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal Golygathon arbennig lle gall gwirfoddolwyr wella cynnwys Wicipedia am awduron o Gymru.

Felly os ydych chi yn Aberystwyth am 10.00yb ar 15 Ionawr ymunwch â ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gwrs cyflym ar olygu Wicipedia – a darn o gacen pen-blwydd!

Mae Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Pwy sy’n cofio’r rhaglenni plant yma?

Cyhoeddwyd Tachwedd 20, 2015 gan Cymru.

Tagiau: rhaglenni plant, S4/C


Sam Tân yn ei ogoniant gwreiddiol
Fe gafodd sawl un ohonom ni’r pleser o gael ein difyrru am oriau pan oedden ni’n ifanc gan rai o gartwnau a rhaglenni plant poblogaidd S4C.

Mae ambell un o’r cymeriadau rydan ni’n cofio dal ar y sgrin o hyd wrth gwrs, gan gynnwys Sam Tân a chriw Pontypandy, a Sali Mali a Jac y Jwc draw yn Pentre Bach.

Ond does dim byd cweit fel y gwreiddiol, fel maen nhw’n ei ddweud, ac mae hynny wastad yn wir pan gofiwn ni am raglenni’n plentyndod ni – dim Ben Dant, Dona Direidi a Cyw i ni, sori.

Mae golwg360 wedi bod yn hel atgofion am rai o hen glasuron y gorffennol sydd bellach ar gael i’w gwylio ar y We, fydd yn sicr yn gyfarwydd i rai sydd ychydig yn rhy hen i wylio rhaglenni plant heddiw bellach!

Faint o’r rhain ydych chi’n eu cofio? Pa rai oedd eich ffefrynnau chi? Ac oes gennych chi atgofion am glasuron eraill yr hoffech chi eu rhannu? Mae croeso i chi adael sylw…

Sam Tân

Y dyn tân hynod boblogaidd o Bontypandy yn dal i fynd, ond pwy sydd eisiau gwylio’r fersiwn newydd CGI pan allwch chi ail-fyw’r gwreiddiol – a mwynhau cymeriadau efo enwau fel Bella Lasagne ac Elvis Cridlington?

Caffi Sali Mali

Un arall o’r hen ffefrynnau sy’n dal i fynd, ond rhain oedd y gwreiddiol a’r gorau ynte. Tybed ble mae Nicw Nacw arni erbyn nawr?

Tomos y Tanc

Un arall o’r tiwniau mwyaf cofiadwy, wrth i Tomos a’i ffrindiau wibio rownd ynys Sodor ac osgoi drygioni’r tryciau drwg.

ABC

Heb help Lisa a Meilir a’r singalongs efo pypedau, does wybod pryd fydden ni erioed wedi dysgu sut i gyfri a beth oedd llythrennau’r wyddor.

Slici a Slac

Dau dditectif o dwcan a’u malwen yn mynd allan i achub y byd rhag yr hwyaid drwg, ac yn fwyaf cofiadwy am y theme tune epig yna.

Pobl Tresgidie

Mae pawb yn gwybod wrth gwrs nad ydi sianel deledu plant yn gyflawn heb raglen gyda lot o sgidiau’n byw mewn pentref lliwgar ac yn siarad â’i gilydd.

Wil Cwac Cwac

Roedd Llyf Mawr y Plant yn gonglfaen i ddifyrrwch plentyndod cenedlaethau o blant Cymru, felly dim syndod bod cymeriadau fel Wil Cwac Cwac ac Ifan Twrci Tenau wedi profi’n llwyddiant ar y sgrin fach hefyd.

Y Sgerbyde

Mewn ‘stafell dywyll ddu, mewn swyddfa dywyll ddu, mewn pencadlys teledu tywyll du, fe benderfynodd rhywun gomisiynu cartŵn am ddau sgerbwd a’u ci.

Deri Deg

Un retro arall, efo anturiaethau Concyr, Sycamorwydden, Derwen a Robin y Post yn y goedwig.

Tecwyn y Tractor

Hoff dractor y genedl, gan gynnwys Bryn Fôn. Tecwyn bib bîîîb!

Superted

Dai Tecsas oedd dyn mwyaf dieflig a pheryglus y byd ar un tro. Heb os. Lwcus bod ein hoff dedi hud a’i ffrind Smotyn yno i achub y dydd.

Jini Mê

Byddwch yn onest, pwy oedd ddim eisiau bod fel y cool kid on the block Jini Mê Jôns?

Rala Rwdins

Un arall o’r llyfrau plant ddaeth yn ffefryn ar y sgrin, roedd pawb wrth eu bodd ag anturiaethau Rwdlan, Dewin Dwl a’r criw yng Ngwlad y Rwla.

Syr Wynff a Plwmsan

Doedd dim byd fel slapstic y ddau glown yma – trychineb rownd pob cornel ac o leiaf un darten gwstard yn yr wyneb bob tro.

Gallwch hel atgofion melys, a gadael sylwadau blin am y rhaglenni rydan ni wedi’u methu, isod…

Cymru 1-0 Gwlad Belg – Fideos o’r noson wefreiddiol

Cyhoeddwyd Mehefin 15, 2015 gan Pêl-droed.

Tagiau: Gwlad Belg, tîm pêl-droed Cymru


Torf y gêm rhwng Cymru a Gwlad Belg wrth i'r anthemau gael eu canu
Mae hi eisoes wedi cael ei disgrifio fel y “noson fwyaf yn hanes pêl-droed Cymru” gan un o’r chwaraewyr, ac fe fu’r cefnogwyr yn dathlu’n hwyr i’r nos ar ôl y fuddugoliaeth anhygoel o 1-0 dros Wlad Belg nos Wener.

Roedd Gareth Bale, a sgoriodd unig gôl y gêm wrth ennill ei 50fed cap dros ei wlad, yn llawn clod i gefnogwyr Cymru ar ôl y gêm gan eu disgrifio fel y rhai “gorau yn y byd”.

Un o’r prif bynciau trafod ar ôl y gêm, ymysg cefnogwyr Cymru a Gwlad Belg ar strydoedd Caerdydd yn ogystal ag ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd yr awyrgylch wefreiddiol yn y stadiwm y noson honno.

Fydd yr un fideo yn gwneud cyfiawnder lawn â’r sŵn byddarol oedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener, ond pa ffordd well o werthfawrogi canlyniad sydd wedi rhoi Cymru o fewn cyrraedd i Ewro 2016 nag atgoffa’n hunain o’r wefr y noson honno?

Dyma ddetholiad o glipiau o’r canu yn ystod y gêm, a’r dathliadau ar y diwedd.

Y sŵn yn dechrau codi cyn y gêm wrth i hoff gân newydd cefnogwyr Cymru, Zombie Nation, gael ei chwarae:

Y 33,000 o gefnogwyr yn canu’r anthem cyn y gêm:

Ac un cefnogwr wedi tynnu’i ffôn allan jyst cyn yr eiliad dyngedfennol:

Pan ddechreuodd y dorf gan Hen Wlad Fy Nhadau ar ôl 70 munud, roedd y sŵn hyd yn oed yn fyddarol drwy’r teledu:

Ac eto, gyda chyfeiliant y Barry Horns, ar ôl 87 munud:

Y Canton ar bigau’r drain yn aros am y chwib olaf … ac wedyn dyna fo!

Y tîm yn dod at ei gilydd yn y diwedd cyn parhau i ddathlu ar y cae, a’r cefnogwyr yn cadw sŵn o hyd:

Cefnogwyr Cymru a Gwlad Belg yn clapio’i gilydd ar y diwedd:

“CYMRU is going to make it to France” – roedd yr awyrgylch hyd yn oed wedi gadael ei farc ar y cyfryngau o Wlad Belg oedd yno:

Gwobr £25 am #HunlunSteddfod a #VineSteddfod

Cyhoeddwyd Mai 25, 2015 gan Cymru.

Tagiau: Eisteddfod yr Urdd Caerffili 2015, hunlun, Vine


Hunlun buddugol Eisteddfod yr Urdd llynedd (llun: Sara Watkins)
Fe fydd Caerffili a’r cyffiniau yn fwrlwm o gyffro eisteddfodol wrth i’r Urdd ymweld â maes Llancaicach Fawr yr wythnos hon.

Ac yn ogystal â’r cystadlu ar y llwyfan, fe fydd y cystadlu’n digwydd unwaith eto ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i her #HunlunSteddfod Golwg360 ddychwelyd.

Fe fydd gwobr o £25 am yr hunlun gorau o faes Eisteddfod yr Urdd sydd wedi defnyddio’r hashnod, a’r enillydd yn cael ei ddewis ar ddiwedd yr wythnos.

Pwyntiau bonws, gyda llaw, os lwyddwch chi i fachu hunlun efo un o’r selebs ar y maes!

Nid dyna’r unig her sydd gennym ni i chi chwaith – byddwn ni hefyd yn rhoi £25 i’r person sydd wedi creu’r Vine gorau o’r maes, gan ddefnyddio hashnod #VineSteddfod.

Felly byddwch yn barod efo’ch ffonau symudol, ac fe wnawn ni gyhoeddi’r goreuon i gyd ar ddiwedd yr wythnos.

Deg Uchaf – Blogiau Poblogaidd y Flwyddyn

Cyhoeddwyd Rhagfyr 23, 2014 gan Cymru.

Tagiau: deg uchaf golwg360


Bu digon o fwrlwm unwaith eto ar flogiau golwg360 eleni wrth i’n cyfranwyr ni drafod ystod eang o bynciau llosg ym meysydd gwleidyddiaeth, chwaraeon, celfyddydau, cerddoriaeth a mwy.

Felly wrth i’r flwyddyn gyrraedd at ei therfyn, dyma chi’n rhestr ni o’r deg blog mwyaf poblogaidd ar y wefan eleni.

1. Blog Byw Refferendwm yr Alban

Roedd amryw o flogiau byw ar golwg360 eleni gafodd tipyn o sylw, ond dim yn fwy na’r blog byw o ganlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Wrth i ganlyniad pleidlais yr Albanwyr fwydo drwyddo Ifan Morgan Jones, Dylan Iorwerth ac Iolo Cheung oedd yno i ddod a’r canlyniadau a’r ymateb diweddaraf i chi o Gaeredin a thu hwnt.

2. Vaughan Roderick a phropaganda Russia Today

Roedd blog gan Hefin Jones yn trafod ymateb y cyfryngau rhyngwladol i’r tensiynau rhwng Rwsia a’r Wcráin eleni yn un hynod o boblogaidd.

Ynddi fe aeth ati i ddadlau ei bod hi’n rhagrithiol bod cyfryngau Prydain ac America yn cyhuddo darlledwyr Rwsia o gyflwyno propaganda tra ar yr un pryd yn gwneud hynny eu hunain – ac mewn ail flog fe aeth ati i drafod rhagor o esiamplau mewn rhyfeloedd eraill.

3. Adolygiad Blodeuwedd

    Roedd drama Blodeuwedd yn un o’r cynyrchiadau mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg eleni, ac fe fu blogwraig celfyddydau golwg360 Megan Morgans draw i’w hadolygu i ni,

    Boddhaol oedd y gair a ddefnyddiodd Megan i ddisgrifio’r cynhyrchiad, gyda’r actores Rhian Blythe yn chwarae ei rhan yn wych yn ei barn hi, ond perfformiad Rhys Bidder ychydig yn llai trawiadol.

    4. Cofio’r Athro D. Ellis Evans

    Cafwyd teyrnged hyfryd yn gynharach eleni gan Dr Meinir Pritchard i’r Athro D. Ellis Evans, a fu farw ym mis Medi llynedd.

    Yn ystod gyrfa academaidd ddisglair fe gafodd Ellis Evans ei benodi i Gadair Gelteg Coleg yr Iesu yn Rhydychen, ac fe gynhaliwyd teyrnged olaf iddo yn y coleg hwnnw i’w gofio.

    5. Cymru yw’r Lloegr newydd?

    Blog rygbi sydd nesaf ar ein rhestr, gydag Ifan Morgan Jones yn holi ai tîm Cymru oedd ‘Lloegr’ newydd y byd rygbi.

    Ar ôl gêm danllyd rhwng Cymru ac Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a Mike Phillips yn ei chanol hi, pendroni oedd Ifan ai Cymru oedd y tîm yr oedd pawb bellach eisiau maeddu.

    6. Huw yn adrodd hanes

    Cafodd Ysgol Gymraeg Llundain ymwelydd arbennig ym mis Ebrill pan alwodd y newyddiadurwr Huw Edwards draw wrth ffilmio rhan o’i gyfres newydd Creu Cymru Fodern.

    Sara-Elen Scalise fu’n blogio i golwg360 am yr ymweliad, gan sôn hefyd am delynores ifanc o’r ysgol oedd wedi ennill lle yng Ngherddorfa Ieuenctid Prydain.

    7. Y Cymro ym Mrasil

    Bu blogiwr pêl-droed golwg360, Rhys Hartley, yn ddigon ffodus i gael mynd i Frasil dros yr haf i wylio Cwpan y Byd, gan sgwennu am ei brofiadau tra roedd e yno.

    Rhwng yr holl hedfan, teithio a mwynhau ymysg cefnogwyr y gwahanol wledydd oedd yno mae’n syndod ei fod wedi cael amser i flogio, ond roedden nhw’n ddigon i’n gwneud ni’n genfigennus beth bynnag!

    8. Iselder – chwalu’r tawelwch byddarol

    At bwnc llawer mwy dwys awn ni gyda’r nesaf ar ein rhestr, wrth i Malan Wilkinson rannu ei phrofiadau personol hi o ddioddef gydag iselder.

    Fe gyfrannodd hi hefyd at raglen Iselder: Un Cam Ar Y Tro ar S4C, gan ddweud yn ei blog mai “bwgan hyll” oedd iselder a’i bod eisiau chwalu’r stigma o gwmpas afiechyd meddwl.

    9. Noson Mr Phormula yn Aberystwyth

    At flog cerddoriaeth golwg360, ac i Aberystwyth ble bu Mared Llywelyn mewn noson hip-hop yn nhafarn yr Angel i weld Mr Phormula yn perfformio.

    Er ei bod hi’n cyfaddef nad oedd hi fel arfer yn ffan fawr o’r math yna o gerddoriaeth, mae’n amlwg ei bod hi a’i ffrindiau wedi gadael ar ddiwedd y noson ar ôl mwynhau’r gig yn fawr.

    10. Dychmygwch Gaza

    Fe ddaeth un o flogiau mwyaf difyr y flwyddyn gan Mererid Mair Williams, wrth iddi drafod sefyllfa Gaza yn ystod y gwrthdaro ag Israel dros yr haf.

    Gofynnodd hi i ddarllenwyr y blog ddychmygu petai Pen Llŷn fel Gaza, gyda’r boblogaeth wedi eu hamgylchynu, methu gadael, a bomiau yn disgyn ar eu cartrefi a’u hysbytai – delwedd digon trawiadol.

      Ugain Uchaf – Trydarwyr Dylanwadol Cymru

      Cyhoeddwyd Rhagfyr 17, 2014 gan Cymru.

      Tagiau: Twitter


      Iolo Cheung sydd yn edrych ar bwy ydi’r Cymry dylanwadol ar Twitter …

      Os ydach chi unrhyw beth fel fi, anaml ewch chi drwy’r diwrnod heb gael cip ar Twitter i weld beth sy’n mynd ‘mlaen yn y byd ac am beth mae pobl yn sgwrsio.

      Mae mwy a mwy o bobl yn ymuno â’r wefan gymdeithasol bob dydd, a llawer yn ei ddefnyddio i drafod a lleisio barn am bynciau llosg y dydd – gan gynnwys ni’r Cymry.

      Ond gyda chymaint o negeseuon trydar yn cael eu postio pob dydd, pa rai sydd yn wir yn llwyddo i ddal eich sylw?

      Rydan ni wedi mynd ati i geisio ffurfio rhestr ugain uchaf o’r trydarwyr mwyaf dylanwadol yn y Gymraeg – ac fel y gwelwch chi, dyw hi ddim yn dasg hawdd.

      Mesur dylanwad

      Y cwestiwn mwyaf sylfaenol i’w ystyried wrth geisio llunio rhestr fel hon yw sut yn union mae modd mesur dylanwad rhywun ar Twitter.

      Mi allai fod yn gyfuniad o bethau yn y bôn – nifer y dilynwyr sydd gennych chi, pa mor aml ‘dych chi’n trydar, pwy sydd yn eich dilyn chi, pwy sy’n ail-drydar eich negeseuon chi – mae’n rhestr hirfaith.

      Fe allai rhywun hefyd fod yn ddylanwadol iawn o fewn cylch cyfyng y bobl, neu yn weddol ddylanwadol i gynulleidfa ehangach.

      Rydan ni wedi cyfyngu’r rhestr yma i Gymry ar Twitter sydd yn trydar rhywfaint yn y Gymraeg – felly ymddiheuriadau i’r di-Gymraeg (fel Tom Jones) a’r Cymry Cymraeg sydd yn trydar ar y cyfan yn Saesneg (fel George North), mi gewch chi restr arall rywbryd eto!

      Gan mai edrych ar yr unigolion mwyaf dylanwadol ydan ni gyda’r rhestr yma, rydan ni hefyd yn anwybyddu cyfrifon Twitter sefydliadau – pethau fel S4C, cyfrifon BBC Cymru, yr Eisteddfod a Golwg360.

      Dilynwyr

      Mae nifer y dilynwyr sydd gan bobl ar Twitter yn lle amlwg i ddechrau, a diolch i wefan indigenoustweets.com mae modd gweld rhestr sydd wedi ei gasglu o bob cyfrif Twitter sydd yn trydar yn yr iaith Gymraeg.

      Er mwyn iddyn nhw ffitio’r disgrifiad o rywun sydd yn trydar rhywfaint yn y Gymraeg, mi wnaethon ni hefyd ddiystyru’r rheiny sydd yn trydar llai na 10% o’u negeseuon yn yr iaith, yn ôl Indigenous Tweets – felly eto, sori i Huw Stephens, Nigel Owens ac Iwan Roberts!

      Y deg uchaf o ran dilynwyr felly ydi Glyn Wise, Leanne Wood, Bethan Jenkins, Tudur Owen, Gareth Wyn Jones, Vaughan Roderick, Caryl Parry Jones, Rhun ap Iorwerth, Dafydd Elis Thomas, a Mabon ap Gwynfor.

      Fel y gwelwch chi mae’n rhestr llawn enwau adnabyddus i’r Cymry o fyd gwleidyddiaeth ac adloniant yn enwedig.

      Ond fel rydan ni wedi crybwyll eisoes, dydi nifer y dilynwyr yn ei hun ddim o reidrwydd yn golygu eu bod nhw’n ddylanwadol – oes gan y bobl yma unrhyw beth o bwys i’w ddweud?

      Ffrwti

      Yn ogystal ag Indigenous Tweets, mae gwefan Ffrwti hefyd yn adeiladu rhestr o Gymry Cymraeg sy’n trydar – ac maen nhw’n rhoi sgôr i bob un yn seiliedig ar feini prawf fel nifer eu trydariadau Cymraeg, nifer eu dilynwyr, a’r cyfrifon maen nhw’n dilyn.

      Fel yr esboniodd Rhodri ap Dyfrig o Ffrwti i mi, dydi o ddim yn sgôr sydd yn mesur ‘dylanwad’ fel y cyfryw, ond mae’n ddefnyddiol eto pan mae’n dod at geisio adnabod pwy ydi’r Cymry mwyaf bywiog  ac adnabyddus ar Twitter.

      Dyma chi’r deg uchaf yn seiliedig ar eu sgôr Ffrwti (sylwch ei fod o’n reit wahanol i un y dilynwyr) – Simon Brooks, Garry Owen, Elin Fflur, Dewi Llwyd, Bethan Gwanas, Rhodri ap Dyfrig, Dylan Jones, Sian Eleri Roberts, Iola Wyn, a Guto Dafydd.

      Sgôr dylanwad

      Yn wahanol i Indigenous Tweets a Ffrwti, mae ‘na rai gwefannau sydd YN honni eu bod nhw’n gallu rhoi sgôr ‘dylanwad’ i gyfrifon wrth ddadansoddi pwy sydd yn eu dilyn a pha fath o ymateb sydd yna i’w negeseuon nhw.

      Felly fe wnaethon ni gymryd y 25 uchaf ar restrau Indigenous Tweets a Ffrwti, a gweld beth oedd eu sgôr nhw ar ddwy wefan gwahanol, Klout a Followerwonk.

      Roedd y rhan fwyaf o’r rheiny gyda sgôr uchel ar y ddwy wefan hynny yn wleidyddion Plaid Cymru, gyda llawer o ddilynwyr ond hefyd llawer o bobl (y rhan fwyaf yn gefnogwyr dw i’n siŵr!) yn ail-drydar eu negeseuon hefyd.

      Dylanwadol efallai, ond elfen o fod yn pregethu i’r praidd hefyd mwyaf tebyg.

      Roedd rhai o’r lleill oedd yn uchel ar y rhestrau yma eto yn cynnwys enwau cyfarwydd fel Gareth Wyn Jones, Vaughan Roderick, Elin Fflur, Huw Marshall, Caryl Parry Jones.

      Un mesur perthnasol iawn wrth fesur ‘dylanwad’ rhywun ydi faint o weithiau mae eu negeseuon yn cael eu haildrydar ar gyfartaledd – arwydd da bod gan rywun rywbeth difyr i’w ddweud, a ddim jyst yn mwydro!

      Yn ogystal â rhai o’r enwau cyfarwydd uchod, roedd Tudur Owen a Gruffudd Antur hefyd yn uchel ar y rhestr hon.

      … felly, yr Ugain Uchaf

      Wrth gwrs, does dim pwynt dibynnu’n llwyr ar sgoriau a ffigyrau i benderfynu pwy ydi’r Cymry Cymraeg mwyaf dylanwadol ar Twitter.

      Felly fe aethon ni yma yn golwg360 ati i geisio defnyddio rhywfaint o synnwyr cyffredin a barn ein hunain i ffurfio’r rhestr hefyd – dyma’r Ugain Uchaf.

      1. Dyl Mei  (@dylmei)

      2. Vaughan Roderick (@VaughanRoderick)

      3. Tudur Owen (@Tudur)

      4. Leanne Wood (@LeanneWood)

      5. Gareth Wyn Jones  (@1GarethWynJones)

      6. Glyn Wise (@GlynWise)

      7. Mabon ap Gwynfor (@mabonapgwynfor)

      8. Simon Brooks (@SeimonBrooks)

      9. Jonathan Edwards (@JonathanPlaid)

      10. Garry Owen (@owen_garry)

      11. Huw Marshall (@Marshallmedia)

      12. Dylan Ebenezer (@DylanEbz)

      13. Rhun ap Iorwerth (@RhunapIorwerth)

      14. Elin Fflur (@elinfflur)

      15. Gareth Iwan (@GarethIwan)

      16. Jill Evans (@JillEvansMEP)

      17. Iola Wyn (@IolaWen)

      18. Rhodri ap Dyfrig (@Nwdls)

      19. Bethan Jenkins (@bethanjenkins)

      20. Lisa Gwilym (@LisaGwilym)

      Beth yw’ch barn chi? Pwy yw’r bobl mwyaf dylanwadol yn y Gymraeg ar Twitter ar hyn o bryd? Oes yna enwau amlwg rydan ni wedi methu? Gadewch sylw – neu wrth gwrs, trydarwch ni ar @golwg360.

      Gemau Cymraeg yn ddibynnol ar nawdd

      Cyhoeddwyd Rhagfyr 9, 2014 gan Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

      Tagiau: Enaid Coll, fideo wyth


      Daf Prys
      Daf Prys sydd yn credu bod ffordd well o ariannu gemau na dibynnu ar arian llywodraeth …

      Diddorol oedd nodi syniadau Rhys Mwyn yn yr Herald Cymraeg yr wythnos dwetha’ am ddefnydd o’r Gymraeg mewn gemau cyfrifiadurol llwyddiannus.

      Fe awgrymodd e y byddai’n wych tase fersiynau Cymraeg o gemau mawr fel Call Of Duty a Grand Theft Auto yn bodoli, ac mai dyna’r her nesaf i ddiwylliant Cymraeg.

      Os chi’n dilyn y blog yma dw i wedi trafod y peth o’r blaen, ac mae’n werth mynd nôl at beth oedd gen i’w ddweud.

      Yn anffodus, wrth drafod cwmnïau megis Electronic Arts neu Activision, cwmnïau sy’n gyfrifol am gynhyrchu gemau megis FIFA a Call of Duty, mae’n rhaid cadw mewn golwg taw busnesau ydynt.

      Peth hawdd i ysgrifennu ond anoddach i grynhoi – mwy neu lai, diwedd y gan yw’r geiniog.

      Dim elw

      Diddordeb cyntaf y busnesau yma yw creu elw, ac mae timau mawr yn gweithio ar y ffordd orau o wneud hynny.

      Y ffaith syml i ni yng Nghymru yw nad oes digon o niferoedd gennym yma sy’n siarad Cymraeg i fod o ddiddordeb i gwmnïau rhyngwladol sy’n gaeth i’w cyfranddalwyr. Nid yw’r hafaliadau o’n plaid.

      Yr unig ffordd dwi’n gweld unrhyw beth tebyg yn digwydd os yw’r corff llywodraethol perthnasol yn fodlon gosod swm i un ochr ac yn gwahodd y cwmnïau i’w ddefnyddio ar gyfer lleoli’r gêm yn Gymraeg.

      Dibynnu ar nawdd

      Mae dwy gêm wedi dod allan yn ddiweddar yn y Gymraeg, ac mi wnaeth y ddwy gêm dderbyn nawdd gan S4C a Llywodraeth Cymru i leoleiddio.

      Master Reboot/Enaid Coll oedd un a Dirgelwch y Marcwis: Trysor Cudd oedd y llall, yn ogystal â Brwydr y Bwystfil gan Dojo Arcade.

      Gan ddefnyddio Wales Interactive (gwneuthurwyr Enaid Coll) fel esiampl, eu model nhw oedd creu’r gêm yn Saesneg, wedyn ail-wneud y peth yn y Gymraeg.

      Mae Wales Interactive wedi rhyddhau gêm arall yn ddiweddar sef Soul Axiom, ond d’yn nhw ddim wedi derbyn nawdd i leoli’r gêm ac felly nid oes fersiwn Cymraeg. Dyma yw gwirionedd y mater.

      Model arall

      Felly’r cwestiwn yw, ai dyma’r model orau i ni ddisgwyl gweld gemau yn y Gymraeg i ymddangos yn y dyfodol?

      Fy ateb i yw na, ac mae’r ffordd yma o feddwl i weld dipyn bach ben i waered os ydyn ni am weld datblygiadau a thwf y Gymraeg yn y sector yma.

      Y model byswn i’n ei gynnig yw’r un ‘da ni wedi ei weld yn ddiweddar gan gêm Never Alone – gallwch wylio adolygiad Fideo Wyth fan hyn:

      Yn yr enghraifft hon mae pobloedd frodorol o Alaska wedi penderfynu creu deunydd eu hunain gyda chymorth gan ddatblygwyr a chyhoeddwyr allanol.

      Yn y gêm mae eu diwylliant hwythau yn cael ei osod law yn llaw â gweithred y gêm. Iaith y gêm yw eu hiaith eu hunain, gyda dewisiadau o ba iaith i gael ar gyfer isdeitlau.

      Dyma sut dw i’n gweld dyfodol yr iaith Gymraeg mewn gemau cyfrifiadurol, nid ar gyfer ni’r Cymry yn unig, ond ar gyfer pobloedd pob diwylliant.

      Ble mae’r amrywiaeth yng nghymeriadau Marvel a DC?

      Cyhoeddwyd Tachwedd 11, 2014 gan Y Blog Digidol.

      Tagiau: Aled Illtud, DC, ffilmiau comig, Marvel


      Y frwydr rhwng Marvel a DC (llun: YouTube)
      Aled Illtud sydd yn asesu brwydr y ffilmiau comig, ac yn holi ble mae’r merched a’r lleiafrifoedd ethnig …

      Mae’r rhyfel rhwng Marvel a DC wrthi’n cychwyn, gyda’r ddau gwmni wedi rhyddhau rhestr o bob un o’u ffilmiau nhw tan 2020. Ac mae yna lawer o drafod amdano fan hyn!

      Fi’n siŵr bydd trafodaethau dyfnach am y ‘rhyfel’ yma pan mae Phase 3 a chychwyniad swyddogol y bydysawd ffilmiau DC yn dechrau yn 2015-16.

      Mae Marvel wedi  bod wrthi’n creu ffilmiau o safon uchel o fewn bydysawd a rennir ers 2008, gyda DC yn trio dal lan gyda chychwyniad meddal yn 2013.

      Digon i ddod

      Mae’n amlwg bod y ddau gwmni ar ras i gynhyrchu ffilmiau erbyn hyn, ac mae bach o gystadleuaeth yn dda i’r ddwy ochr.

      Ond gyda Marvel yn tynnu dyddiad Captain America: Civil War yn agosach fel ymateb i ddyddiad rhyddau Batman V Superman: Dawn of Justice, mae’n amser gofyn y cwestiwn: A ydyn ni’n cyrraedd penllanw pan mae’n dod at  nifer y ffilmiau sy’n seiliedig ar lyfrau comics?

      Mae Marvel a DC yn rhyddhau o leiaf dwy ffilm bob blwyddyn, mae Sony yn rhyddhau dwy ffilm Spider-Man rhwng  nawr a 2018, a Fox yn rhyddhau pump yn yr un amser.

      I grynhoi, mas o gewri’r llyfrau comics, rhwng nawr a 2020 mi fydd 28 ffilm yn cael eu rhyddhau. Waw!

      Does byth wedi bod amser gwell i fod yn nyrd llyfrau comics, ac mae’n amser cyffrous yn y byd ffilmiau yn gyffredinol hefyd.

      Ble mae’r amrywiaeth?

      Efallai beth sy’n siomedig yw, mas o’r 28 ffilm, dim ond pedair ffilm fydd yn cynnwys menyw neu berson croenddu fel y prif gymeriad.

      Gan feddwl taw Marvel oedd y cyntaf i gychwyn y ras yma, mae’n rhyfedd meddwl taw DC fydd yn cynhyrchu’r ffilm gyntaf sy’n serennu menyw.

      Mi fydd Gal Gadot yn achub y byd fel Wonder Woman ym Mehefin 2017, blwyddyn cyn i Captain Marvel ymddangos.

      O ran cymeriadau croenddu mae Marvel wedi cael ychydig o actorion arbennig,  yn enwedig Anthony Mackie oedd yn chware rôl The Falcon yn Captain America: Winter Soldier, ac mae Don Cheadle yn arbennig fel The Iron Patriot yn Iron Man 2 ac Iron Man 3.

      Marvel sy’n ennill y ras i gael prif gymeriad croenddu trwy Chadwick Boseman, sy’n chwarae’r Black Panther yn 2017, gyda DC dair blynedd tu ôl gyda Cyborg yn cael ei rhyddhau yn 2020.

      Mae’n gwestiwn pwysig i godi, ac i feddwl bod pwyslais gan y ddau gwmni bod eu bydysawdau’n enfawr, mae’n rhyfedd bod nifer fawr iawn o’r prif gymeriadau yn ddynion gwyn, a dim sôn am gymeriad o Asia neu’r Dwyrain Canol eto (Gwnewch ffilm am Gilgamesh neu Sabra nawr!).

      Rôl fodelau

      Gan feddwl yn y llyfrau comics bod Thor wedi bod yn froga, a nawr yn fenyw, a bod rhestr hynod o eang o wahanol rywiau a lliwiau, mae’n od meddwl bod cymaint o gymeriadau o un golofn gul yn cael eu defnyddio yn y ffilmiau.

      Fel dyn croenwyn rydw i wedi cael fy sbwylio am arwyr ar-sgrin sydd fel fi, ond mae’n amser ehangu’r amrywiaeth yma!

      Mae’n bryd cyflwyno cymeriadau fel Miles Morales ac Artemis i eirfa’r genhedlaeth ifanc yma.

      Ac mae’n hen bryd i fydysawdau sinematig y llyfrau comics brofi i’r gynulleidfa’r un peth maen nhw wedi bod yn gwneud am ddegawdau ar brint; gall unrhyw un fod yn arwr.

      Adolygiad: Destiny, PS4

      Cyhoeddwyd Hydref 7, 2014 gan Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

      Tagiau: Blog Digidol, Destiny, fideo wyth


      Daf Prys
      Daf Prys fu’n clocio’r oriau ar gêm newydd Destiny, ond oedd e werth ei amser?

      Glywoch chi ‘run yna am y bachgen oedd yn galw ‘blaidd’? Dydd ar ôl dydd ar ôl dydd, ‘blaidd!’ ‘blaidd!’ ‘blaidd!’ ‘blaidd!’.

      Wel mae Bungie wedi bod yn gwneud hwn, drwy ei marchnata, am Destiny. Ers ei gyflwyniad i’r byd yn Ebrill 2010, mae Bungie (y datblygwyr) ac Activision (y cyhoeddwyr) wedi bod yn llithro bach o Destiny fewn i goffi pawb.

      Ond yn lle cael ei anwybyddu fel bachgen y blaidd druan, mae niferoedd anhygoel wedi prynu’r gêm. A beth sy’n syfrdanol am hwn?

      Y ffaith fod dim un adolygiad llawn wedi ymddangos erbyn dyddiad agoriadol y gêm. A dyna fo wir, dyna stori gêm ddiweddaraf Bungie. Marchnata mawr, gêm fach.

      Mae adolygu’r peth yn anodd gan fod y gêm wir ond yn dod yn fyw wedi ei gwblhau. Peth od i sgwennu, ond mae ‘na rhywbeth digon od am Destiny hefyd. Ac am enw ‘wmff’ ynde, Dessstinnyyyyy, efo jazz hands.

      Adolygiad Fideo Wyth Daf Prys o Destiny:

      Halo eto?

      Hoffwn wedi bod yna yng nghyfarfod cyntaf Bungie ar ôl gwerthu Halo i Microsoft.

      ‘Iawn de, unrhyw syniadau?’

      ‘Gallwn ni neud Halo, ond esgus fod e’n MMO?’

      ‘Ar ‘i phen myn diain, ar ‘i phen – rhywun cal bois Activision ar y ffôn!’

      Hawdd i fi neud hwyl am ben sut mae’n edrych wrth gwrs, ond dyna’n union sut mae’r sefyllfa i’w weld, Halo arall ond efo chroen dipyn bach yn wahanol.

      A pham lai, wir, mi oedd Halo yn anferthol. Ond mae ‘na gymaint o Halo yn Destiny, syniadaeth o filwr arwrol i achub y ddynol ryw, cyfaill bach robotaidd, gelyn aml-ranc efo AI sy’n dweud wrthyn nhw wneud un peth, cuddio tu ôl carreg. Mae hyd yn oed naid ‘floaty’.

      Ond falle fi wedi neidio’n rhy bell ymlaen fan hyn, falle fod ‘na rhai ohonoch chi heb brofi Destiny, falle fod ‘na rhai heb brofi Halo!

      Wel i grynhoi, gêm saethu yw Destiny, a chithau’n gweld trwy lygaid eich cymeriad wrth grwydro amgylchedd y gêm, ond eich bod yn rhannu’r byd efo gemyddion eraill achos taw go iawn, MMO yw Destiny.

      Dyfodol dychmygol

      Dyma’r sefyllfa, yn y dyfodol mae’r ddynol ryw wedi datblygu i fodoli ar blanedau di-ri yn ein system solar fach ni, wedi troi’r blaned Gwener i fod yn fyd jyngl, gorsafoedd ymchwil ar ein lleuad, dinasoedd ar Fawrth.

      A beth yw esboniad ein hesblygiad? Ymdrech a dyfal barhad? Canrifoedd o ymchwil ac ariannu prosiectau arall fydol? Na. Dim o gwbl. Cwrdd ag alien a fe’n sibrwd y cyfrinachau yn ein clustiau.

      Dim alien arferol, siâp pêl arno, a hwnnw’n bel anferthol milltiroedd ar draws. Bydd John Charles dal wedi clirio’r peth … yn anffodus dyw’r parti ddim yn parhau, mae ‘na idiom dda am Roegwyr ac anrhegion, ac mae’r ddynol ryw yn cael ei wthio nôl at ddarn bychan o’r Ddaear, achos mae gan yr alien yma, The Traveller i roi ei enw cywir, ambell elyn.

      Stori wan

      A phan dw i’n dweud ambell elyn dw i’n golygu mwy neu lai pawb arall sy’n byw yn y Milky Way. Pob planed ni’n teithio iddo yn ystod y gêm mae ‘na rhywun efo ‘bach o bîff’.

      Dy’n nhw ddim yn hapus o gwbl. Pam? Dim syniad. Be mae’r boi ‘ma wedi neud bod pawb mor grac? Does dim llawer o sôn am hwnna. Does dim llawer o sôn am ddim byd efo’r stori; pwy yw’r gelynion? Beth maen nhw’n neud? Lle mae’r Traveller wedi dod ohono? Dal, dim syniad. Dim o gwbl.

      Ac mae’r sgwennu, yn gyffredinol, yn sâl. Felly ymladd mae person yn neud yn Destiny. Llawer iawn o ymladd… waldio boi fan hyn, grenade fan draw, reifflen bach i dîn rhyw foi fan yna.

      Mwy neu lai yn ddi-stop. Mae’r profiad yn un llym. Mynd nôl dro ar ôl tro i’r un llefydd, aildroedio’r un amgylchedd, gan taw ardaloedd bychan iawn sy’n ymddangos ar y planedau yma. Mae fel google earth ond yn dangos Aberdaugwesyn.

      Wedi dweud hwnna i gyd ‘dwi wedi chwarae (yn ôl bungie.net) 62 awr o’r gêm hyd yn hyn. Felly’r cwestiwn yw, sut? Sut mae person yn dod o hyd i’w hun mewn sefyllfa ble mae stori ac ardal gêm yn ddigynnwrf, ond wedi treulio dros ddeuddydd yn ei fyd?

      Dau beth sydd wedi fy nal, gweithred gêm lyfn (o mor llyfn – fel croen hyfryd Mari Lovgreen) ac elfennau RPG.

      Y stwff da

      Y peth cyntaf ‘na, gweithred gêm. Dychmygwch garamel ar haenen o fahogani, yn gorffwys ar goesau Iolo Williams sy’n ymlacio ar wely o bantherod. Smwwwwwwwwdddddddddddd. Llyyyyyyyyyyyyyfn. Perffaith, jyst perffaith.

      Teimlad y cymeriad yn eich llaw, dwyster a dawns a’i ymddygiad wedi’i wireddu mewn modd synhwyrus a synhwyrol. Ac mae’r ddealltwriaeth yna’n unfryd, os oes iaith ‘gamepad’ ynddoch chi yna mi fyddwch yn gwybod yn union beth i neud yn y gêm, o’r eiliad cyntaf un. Mae’r weithred yn llifo’ch gwythiennau.

      Ac os taw’r weithred gêm lyfn sy’n dal eich sylw yn yr eiliadau agoriadol yr ail beth yna, yr elfennau RPG sy’n eich cloi i’r gêm.

      Does dim byd syfrdanol am y system datblygu cymeriad; mae i’w gweld mewn gemau di-ri: profiad, dod o hyd i eitemau ac arian, defnyddio elfennau i wella eich eitemau ayyb, ond mae’n system ddigon cadarn, sydd yn ei dro mewn deuawd efo’r profiad gêm wych.

      Gludwch hwn i’r syndod o chwarae gêm saethu person-cyntaf a dw i’n amau fod e mor syml â hynny. Mae’n gweithio i Halo, ac mae’n gweithio i World of Warcraft.

      Gwerth y 62 awr?

      Mae camau gwag yn sicr, er enghraifft mae’r gêm yn eich gosod fel rhyw fath o arwr unigryw i achub ein bodolaeth.

      Da ni’n gyfarwydd â syniadaeth llyfr Joseph Campbell The Hero with a Thousand Faces, a pam fod bod yn unigryw o fewn stori ehangach yn bwysig i unrhyw fytholeg, ond wrth grwydro bydoedd Destiny chi’n gweld eich cyd-chwaraewyr yn trotian pasio gan dorri unrhyw ddealltwriaeth eich bod yn orchfygol dros bawb a phopeth.

      Os mae hwn yn rhan o’r profiad yna pam ddim deall ei effaith a siapio’r stori o’i gwmpas.

      Ond mae llawer o hwyl i’w canfod wrth ddod ar draws chwaraewyr eraill, er enghraifft mae Elidir Jones wedi bod yn ymuno efo fi am ambell dro, ac mewn sawl ffordd yn torri fy mhwynt cynharach taw ond paffio yw Destiny.

      Wel mae o, ond hefyd, medrwch ddawnsio. Llawer o ddawnsio (gwelwch y fideo), a chreu sefyllfaoedd digon diddorol efo gemyddion eraill y byd boed yn yr hwb cymdeithasol neu yn crwydro’r ardaloedd eraill.

      Na’i adael chi ar un nodyn. 62 awr. Digon o brawf i mi fod gêm daclus dros ben fan hyn, a bod dyfodol disglair eto i Bungie.