RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG FIDEO: “Pam na fydda’ i’n cefnogi Warren Gatland a’i griw ddim mwy”

Cyhoeddwyd Chwefror 5, 2017 gan Blog Meddwl.

Tagiau: Craig ab Iago, Cymru, Rygbi, Undeb Rygbi Cymru, wayne gatland


Fydd Craig ab Iago ddim yn eistedd i lawr i wylio’r crysau cochion yn chwarae heddiw – a hynny, meddai, oherwydd bod Undeb Rygbi Cymru a’r chwaraewyr ddim yn poeni am ddangos i’r byd pwy ydi Cymru.

Fel un sydd wedi cefnogi Cymru ers 40 o flynyddoedd, fydd o ddim yn eistedd i lawr o flaen y teledu, cwrw yn ei law, i weiddi dros Alun Wyn Jones a’i dîm yn erbyn Yr Eidal.

“Wnes i weld dros yr ha’ dwytha’ sut mae tim cenedlaethol Cymru i fod,” meddai am garfan bel-droed Cymru ym mhencampwriaeth yr Ewros.

“Wnaeth yr hogia yna gynrychioli Cymru i gyd. Y Cymraeg, y di-Gymraeg, pob rhan o Gymru, y gogledd a’r de, pob oedran, bob cefndir a bob lliw.

“Ond i dîm rygbi Cymru… maen nhw’n obsessed efo’r Llewod, a dydi tim Cymru yn ddim byd ond stepping stone i’r Llewod. Sam Warburton yn dweud mai dyna uchafbwynt ei yrfa, a Wayne Gatland yn dweud ‘no greater honour’…”

Ac mae’r ffaith bod Tywysog William – “boi sydd wedi dwyn enw ein gwlad fel cyfenw” – yn

“Dydi fy nghalon i ddim ynddo fo ddim mwy,” meddai Craig ab Iago. “Sori.”

Gwyliwch ei flog yn fan hyn:

Lle mae Saxons Cymru?

Cyhoeddwyd Chwefror 20, 2015 gan Rygbi.

Tagiau: Rygbi, Undeb Rygbi Cymru


Illtud Dafydd
Illtud Dafydd sy’n pendroni pryd welwn ni ail dîm Cymru ar y llwyfan rhyngwladol …

Pan gyhoeddwyd nôl yn Awst 2014 bod cytundeb rhwng Undeb Rygbi Cymru a byrddau rheoli’r pedwar rhanbarth Cymreig (Pro Rugby Wales) ynglŷn ag ariannu’r timau a manylion eraill, cyhoeddwyd hefyd bod cynlluniau i ailsefydlu tîm ‘A’ Cymru, i ddechrau ym mis Ionawr 2015.

Er hynny does dim wedi dod o’r newyddion ac rydyn ni eto i weld yr ail dîm rhyngwladol Cymreig yma’n cael ei greu, er bod tîm Saxons Lloegr a Wolfhounds Iwerddon wedi wynebu ei gilydd ddiwedd mis Ionawr.

Y tebyg yw y bydd yn rhaid aros yn hirach i weld ail dîm Cymru yn chwarae am y tro cyntaf ers 2002.

Ond yn y cyfamser dw i wedi cael cipolwg i weld sut base’r tîm yn gallu edrych pe bai hi’n cael ei enwi nawr. Mae ambell i safle sy’n peri penbleth, felly dw i wedi cynnig eilydd i ambell chwaraewr.

15: Dan Evans – Cefnwr y Gweilch wedi ennill dau gap i Gymru yng Ngogledd America tra bod ein cefnwyr dewis cyntaf ar y pryd (Lee Byrne ac Leigh Halfpenny) ar daith y Llewod yn Ne Affrica. Tymor gwych cyn belled, ac ef sydd wedi rhedeg bellach nag unrhyw un arall yn y Pro12.

14: Hallam Amos – Yn rhan o’r brif garfan ond cyfle da iddo chwarae ar lefel uwch na jyst y Pro12 a Chwpan Her Ewrop. Opsiwn cicio o’r llawr ac yn y chwarae agored. Tair cais yn y gynghrair eleni ac ond wedi colli dwy gêm gynghrair.

13: Cory Allen – Wedi bod ar gyrion y brif garfan ers iddo ennill ei gap gyntaf yn 2013. Wedi bod yn dioddef o anaf yn ddiweddar, ond dangosodd rhywfaint o’i dalent gan dorri llinell amddiffynnol Munster nos Sadwrn diwethaf.

Chwaraewr ifanc arall sydd angen amser ar lefel rhwng rygbi domestig a rhyngwladol, yn enwedig wrth ystyried nad yw’r Gleision yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop. Un arall posib yw Ashley Beck.

12: Tyler Morgan – Derbyniodd gytundeb canolog gan Undeb Rygbi Cymru yn y flwyddyn newydd wedi tymor safonol i’r Dreigiau. Lyn Jones wedi rhoi digon o amser iddo ar y cae, ond mae dal yn ddigon ifanc i gynrychioli’r tîm dan 20. Un arall – Scott Williams.

11: Eli Walker – Aelod prin o’r garfan sydd heb ennill cap i’r tîm llawn, ond mae wedi bod yn perfformio ar safon uchel dros ben i’r Gweilch ers sawl blwyddyn. Ei gais bythgofiadwy yn erbyn Toulouse yn y Liberty sbel yn ôl yn esiampl wych. O bosib Aled Brew hefyd.

10: Rhys Patchell – Enillodd gapiau dros Gymru ar daith Siapan ddwy flynedd yn ôl ond wedi’i ddiystyru braidd gan dîm hyfforddi Warren Gatland. Mae dyfodiad Gareth Anscombe i Barc yr Arfau a charfan Cymru yn peri gofid.

Dylid cadw ffydd yn y maswr ifanc, mae ei waith caled oddi ar y cae yn haeddu mwy o gyfleon. Un arall posib yw Jason Tovey.

9: Gareth Davies – Wedi bod yn dioddef o anaf ers amser nawr, ond tu ôl i Rhodri Williams yn y rhestr ar gyfer y garfan lawn. Cyflym o gwmpas y ryc, ac fel pob tîm ‘A’ mae angen ambell i chwaraewr sy’n medru newid gêm mewn chwinciad.

8: Dan Baker - Ail gochyn y tîm, ac er ei anaf roedd ei chwarae ar ddechrau’r tymor heb ei ail. Mae Tyler Ardron i’w weld wedi dwyn crys y Gweilch oddi arno ond mae gallu Baker i dorri’r llinell fantais yn ail yn unig i Toby Faletau yng Nghymru. Rory Pitman yn un arall.

7: Nick Cudd - Cyn-flaenasgellwr tîm dan-20 Cymru wedi dangos ei safon yng nghrys y Dreigiau. Pe bai dim Sam Warburton na Justin Tipuric mi fase yn y garfan lawn. Tîm ‘A’ Cymru yn bodoli i ddatblygu chwaraewyr fel Cudd. Taclwr cryf ac yn ddigon parod i frwydro am y bêl ar y llawr. Un arall fyddai Josh Navidi.

6: James King - Ail reng mwy na blaenasgellwr ond edrychwch ar Macauley Cook ar y fainc. Roedd yn aelod o garfan yr hydref ac fe enillodd ei drydydd cap yn erbyn Fiji. Dal ar gyrion y brif garfan.

5: Ian Evans – Ers symud i Fryste does dim llawer o sôn amdano wedi bod, cyfraith Gatland yn rheoli dros y cyn-Walch.

Ddwy flynedd yn ôl fe deithiodd gyda’r Llewod i Awstralia ac fe chwaraeodd yn y golled i Dde Affrica dros yr haf. Oes gormod o wahaniaeth rhwng Pencampwriaeth Greene King Lloegr a rygbi rhyngwladol?

4: Andrew Coombs – Arwr Rodney Parade am sawl reswm. Mae’n chwarae gydag angerdd a chalon ar bob achlysur, mae’n ddibynadwy yn y leiniau ac yn ddigon parod i wneud y gwaith caib a rhaw. Tîm hyfforddi Gatland i’w weld yn ffafrio Jake Ball, yn enwedig wedi iddo arwyddo cytundeb canolog.

3: Scott Andrews – Daeth oddi ar y fainc yn y fuddugoliaeth dros yr Alban, yn dilyn anafiadau i Samson Lee ac yna Aaron Jarvis. Sawl perfformiad da i’r Gleision, er bod rhaid iddo gystadlu gydag Adam Jones am ei grys rhanbarthol.

2: Scott Baldwin – Gydag ymddeoliad Huw Bennett ac ymadawiad Richard Hibbard ef yw bachwr dewis cyntaf y Gweilch.

Fel sawl aelod o’r garfan fe enillodd gapiau ar daith Siapan yn 2013, ond prin iawn yw’r aelodau hynny sydd wedi ennill cap eleni. Gydag anaf Ken Owens mae wedi cael safle yn 23 y tîm llawn. Un arall i gadw llygad arno yw Ryan Elias.

1: Sam Hobbs – Erioed wedi ennill cap rhyngwladol er ei fod wedi cynrychioli timau Cymru dan-20 a dan-19, ac mae bellach yn 26 oed. Dim ond wedi colli un gêm gynghrair i dîm Gleision Caerdydd, a gyda Gethin Jenkins yn rhan o garfan Gatland, bydd ei amser chwarae ond yn parhau eleni. Un arall yw Rhys Gill.

Y Fainc

16: Emyr Phillips

17: Rhodri Jones

18: Wyn Jones

19: Macauley Cook

20: Lewis Evans

21: Lloyd Williams

22: Jason Tovey

23: Jordan Williams

Sêr profiadol Cymru’n dwyn y penawdau

Cyhoeddwyd Hydref 31, 2014 gan Rygbi.

Tagiau: Gareth Davies, tim rygbi Cymru, Undeb Rygbi Cymru


Tegid Siôn Richards
Tegid Siôn Richards sy’n pendroni a yw’r Undeb Rygbi’n canolbwyntio gormod ar chwaraewyr hŷn Cymru …

Yn ôl Gareth Davies, cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru, ceisio cadw chwaraewyr ifanc yng Nghymru yw’r flaenoriaeth.

Dywedodd URC fod angen diogelu a chadw’r chwaraewyr ifanc addawol yn rhanbarthau Cymru, ac maen nhw’n credu fod hyn yn bwysicach na cheisio denu’r sêr profiadol nôl i Gymru.

Ond yr wythnos hon fe gawsom y newyddion mai Dan Lydiate yw’r diweddaraf i ddychwelyd i Gymru.

Ar ôl treulio bron i flwyddyn a hanner yn Ffrainc, bydd Lydiate yn chwarae i un o glybiau Cymru ar ôl y gemau rhyngwladol.

Mae awgrymiadau bod ei gyd-Gymry yn Racing Metro – Mike Phillips, Jamie Roberts a Luke Charteris – yn gobeithio dychwelyd hefyd, felly pwy fydd nesaf?

Apêl dod gartref

Yn amlwg, mae arian yn un o’r prif atyniadau, ac yn rheswm pam nad yw clybiau Cymru’n gallu brwydro i gadw’r chwaraewyr yn erbyn mawrion Lloegr a Ffrainc.

Ond gyda Sam Warburton wedi arwyddo cytundeb cenedlaethol gydag URC ar ddechrau’r flwyddyn, mae dod ‘nôl i Gymru i chwarae rygbi yn syniad apelgar i’r chwaraewyr hyn bellach.

Mae hyn felly, yn peri i ni gwestiynu datganiad URC, a gofyn a ydyn nhw wir yn canolbwyntio ac yn rhoi sylw digonol ar y chwaraewyr ifanc, neu dim ond ceisio meithrin y chwaraewyr profiadol.

Er hyn, mae’n rhaid nodi roedd Adam Jones, ar ddechrau’r tymor, heb dîm. Er ei holl brofiad fel chwaraewr ar lefel rhyngwladol, doedd e ddim yn ymarfer ag unrhyw dîm ym myd rygbi tan i’r Gleision gynnig lle.

Dewis saff Gatland?

Mae Warren Gatland wedi lleisio’i farn wrth URC ar sefyllfa’r Cymry oddi Cartref, ac wedi gofyn iddynt gynnig y cytundebau deuol hyn i hyd at 12 o chwaraewyr er mwyn iddynt aros yng Nghymru.

Byddai Gatland yn hoffi cwblhau’r trafodaethau mewn amser i Gwpan Rygbi’r Byd flwyddyn nesaf yn Lloegr.

Gydag hyn mewn golwg, cafodd carfan tîm rygbi Cymru ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf. Allan o’r 34 a gafodd eu dewis, dim ond pum chwaraewr sydd yn 21 mlwydd oed neu’n iau.

Er yr holl bwyslais yr wythnos hon wrth Gareth Davies ac URC ar gadw’r chwaraewyr ifanc a cheisio’u meithrin hwy, ydi hyn yn gam yn ôl?

Erbyn heddiw, dim ond angen mynd i un o gemau’r rhanbarthau sydd eisiau i chi wneud er mwyn bod yn dyst i’r amrywiaeth o dalent ifanc sydd ar gael yng nghlybiau Cymru.

Wrth ystyried y dyfodol agos, a thwrnament Cwpan Rygbi’r Byd mewn llai na blwyddyn, a oes lle i ambell un o’r chwaraewyr addawol ifanc yng ngharfan Cymru eleni?

Methu cyfle gyda Morgan

O ystyried cyhoeddiad carfan Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref wythnos ddiwethaf, a’r datganiad gan gadeirydd URC yr wythnos hon, byddai rhai nawr yn awgrymu bod gormod o bwyslais ar gadw’r chwaraewyr hŷn.

Ydi’r flaenoriaeth gyda’r rhai sy’n serennu i Gymru ar hyn o bryd, a dim digon o bwyslais felly ar y chwaraewyr ifanc sydd yng Nghymru?

Gyda’r rhanbarthau’n awyddus i ymafael â’r chwaraewyr profiadol sydd yn gobeithio dychwelyd i Gymru drwy’r cytundebau deuol, mae hyn yn codi marc cwestiwn am ddyfodol y chwaraewyr ifanc.

Un dyn a ddisgleiriodd yn y gêm Probables v Possibles nôl ym mis Mai oedd Matthew Morgan, sydd bellach yn gyn-chwaraewr y Gweilch.

Mae e erbyn hyn wedi symud i chwarae i dîm Bryste, sydd nawr yn chwarae ym Mhencampwriaeth yr RFU sydd islaw Uwch Gynghrair Aviva Lloegr.

Seren ddisglair y dyfodol tybed, sydd wedi llithro drwy ddwylo Undeb Rygbi Cymru?

Efallai bod hi’n syniad i URC ymestyn y cytundebau deuol i’r chwaraewyr ifanc, a chael mwy o gytundebau tebyg ar draws rygbi Cymru, er mwyn eu meithrin hwy trwy’r rhanbarthau a’u datblygu i fod yn sêr y dyfodol.

Gallwch ddilyn Tegid ar Twitter ar @tegidsion13.

Y trafferthion yn taro’r tîm cenedlaethol

Cyhoeddwyd Mai 9, 2014 gan Rygbi.

Tagiau: Gêm dreial, Undeb Rygbi Cymru, y Rhanbarthau


Owain Gwynedd
Fydd gêm dreial yn fawr o gysur ar ddiwedd tymor siomedig ar bob lefel o rygbi Cymru, yn ôl Owain Gwynedd …

Mae penwythnos olaf y Pro12 wedi cyrraedd. Hynny yw i ranbarthau Cymru, gan nad oes yr un wedi bod digon da i orffen ymysg y pedwar uchaf a hawlio safle yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth.

Mae adeg yma’r tymor yn amlwg yn gyfle i dimau adlewyrchu ar ei pherfformiadau ac yn bwysicach oll ym mhle maen nhw wedi gorffen yn y tabl.

Cyn y rownd olaf o gemau fel hyn mae’r rhanbarthau yn sefyll:

5ed – Gweilch, 61 pwynt

6ed – Scarlets, 51 pwynt

7fed – Gleision, 41 pwynt

10fed – Dreigiau, 31 pwynt

Wrth ystyried mai Munster sydd ar frig y tabl efo 78 pwynt mae’r bwlch rhwng ein rhanbarthau a’r brig yn enfawr. Yn syml iawn mae rhywun yn gallu dadansoddi bod tymor pob rhanbarth wedi bod yn siomedig.

Heb fynd trwy’r canlyniadau efo crib man i bob rhanbarth, un tîm sydd wedi bod yn ddraenen yn eu hochr nhw i gyd, ac yn pwysleisio ffaeleddau’r rhanbarthau, ydi Zebre, yn enwedig yn Parma.

Mi wnaeth pob rhanbarth heblaw’r Dreigiau, sydd yn syndod yn ei hun (a chofiwch mai gêm gyfartal un unig gawson nhw), wedi colli i’r Eidalwyr. Tîm a gollodd pob gêm yn y Pro12 llynedd.

Fe fydd rhaid meddwl yn hir ac yn galed sut a pham bod tîm o’r Eidal wedi gallu gwella cymaint, a bod pob un o’n rhanbarthau ni wedi mynd am yn ôl.

Gall rhywun ddadlau bod Y Dreigiau wedi dechrau’r tymor yn dda ond mi wnaeth y bybl yna fyrstio yn aruthrol yn dilyn y flwyddyn newydd – unwaith eto nhw ydi’r tîm gwanaf o Gymru.

Felly pam ein bod ni mor wael?

Does dim un rheswm, ond cyfuniad sydd yn estyn hyd braich:

  • Sgil effeithiau Taith Y Llewod
  • Anghydfod rhwng y rhanbarthau a’r URC
  • Chwaraewyr gora’ yn chwarae dramor
  • Hyfforddiant y rhanbarthau ar adegau ddim digon da (yn ôl rhai chwaraewyr)
  • Dyfnder talent yng Nghymru, wel, ddim yn ddwfn o gwbl
  • Chwaraewyr heb berfformio / ddim mor dda ag y maen nhw’n meddwl eu bod nhw

… ac yn y blaen.

Y gwirionedd yw tydi o heb fod ddigon da ac am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn mae’r effeithiau wedi taro’r tîm rhyngwladol, Undeb Rygbi Cymru a’r cefnogwyr yn y wir fan lle mae o’n brifo.

Dwi ddim ond yn gallu gobeithio bod y clychau wedi canu ac yn parhau i atseinio mor uchel yng nghlustiau pawb sydd yn gyfrifol am ein gêm bod angen i gyd weithio ar y lefel rhanbarthol a rhyngwladol i fod yn llwyddiannus ar bob lefel.

Y gobaith yw bod y cefnogwyr yn cael trafod y rygbi a mwynhad y gêm yn fwy na siarad am y cecru gwleidyddol oddi arno.

Mi oedd gemau’r penwythnos yma a phenwythnos ‘Millenium Magic’ ychydig wythnosau yn ôl wedi cael eu hadeiladu fel treialon answyddogol i’r chwaraewyr i blesio hyfforddwyr Cymru ac i ennill lle yn y garfan i herio De Affrica yn yr haf.

Hynny ydi nes i URC gyhoeddi bod yna dreialon swyddogol am fod cyn y daith beth bynnag. Y cyntaf o’i fath ers 14 mlynedd – dyddiau Graham Henry.

Dwi wrth fy modd yn gwylio’r probables v possibles yn Seland Newydd a fedrai ddim ond gobeithio bod ein fersiwn ni am fod yn debyg.

Cyfle i weld pa dalent ifanc sydd ar gyrion y garfan ac yn cael eu hystyried am y daith. Yna gallu profi eu hunain wyneb yn wyneb efo’r person sydd yn hawlio’r crys coch yn barod.

Yn dilyn tymor llwm o leiaf mae rhywbeth i edrych ymlaen ato tua’r diwedd.

Gemau’r penwythnos:

Dreigiau v Treviso

Gweilch v Connacht

Scarlets v Gleision

Cam cynta’n unig ydi’r Cytundeb yma

Cyhoeddwyd Ebrill 12, 2014 gan Rygbi.

Tagiau: Cwpan Pencampwyr Ewrop, David Moffett, Undeb Rygbi Cymru


Owain Gwynedd
Mae rhagor o gwestiynau i’w hateb er gwaethaf y cytundeb dros gystadleuaeth Ewropeaidd, yn ôl Owain Gwynedd …

O’r diwedd mae anghydfod dyfodol rygbi Ewrop wedi ei ddatrys. Mae Cwpan Rygbi Pencampwyr Ewrop yn disodli’r Cwpan Heineken ac am gychwyn tymor nesa’.

Roedd o’n ymddangos fel y gyfrinach waethaf sydd wedi bodoli, gan fod pawb yn gwybod strwythur y gystadleuaeth yn barod, strwythur sydd yn cynnwys 20 tîm:

  • 6 tîm o Uwch Gynghrair Aviva yn Lloegr
  • 6 tîm o’r Top 14 yn Ffrainc.
  • 7 tîm o’r Pro 12 – y tîm sydd yn gorffen uchaf o bob gwlad ac wedyn y ddau sydd yn gorffen uchaf yn y tabl allan o’r gweddill. Mae’r ddau dîm yma cael fod o unrhyw wlad. Ar hyn o bryd Y Gweilch a’r Scarlets o Gymru fydd yn cymryd rhan
  • 1 tîm trwy gemau ail gyfle

Mae rhywun yn gobeithio y bydd y penderfyniad yma’n sicrhau dyfodol ariannol ein rhanbarthau, ac yna yn annatod yn cadw ein chwaraewyr gora’ yng Nghymru.

Mi fydd y cyfuniad o’r dalent gora’ ar y cae a chystadleuaeth wirioneddol am safleoedd yn y gynghrair yn gallu ysgogi ac annog mwy o gefnogwyr i gefnogi eu rhanbarth.

Camgymeriad y rhanbarthau

Ydi’r uchod am ddatrys problemau rygbi Cymru fel y gobeithiwyd? Ddim eto, oherwydd bod David Moffett dal yn ceisio cael ei ethol fel Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.

Dyma’r boi wnaeth gyflwyno rygbi rhanbarthol i Gymru ac yn fy marn i wneud bach o smonach o bethau.

I mi mae rhanbarthau yn derm daearyddol sydd yn cynrychioli grŵp o bobl o fewn y diriogaeth yna.

Os hynny, sut oedd troi a chyfuno ambell i glwb i mewn i ‘super-clubs’ yn creu rhanbarth?

Newport Dragons

Llanelli Scarlets

Cardiff Blues

Neath Swansea Ospreys

Yn fy marn i dylsa’r rhanbarthau yma fod wedi bod yn hollol ddiduedd i unrhyw glwb, gan gynrychioli Cymru gyfan. Mae bod yn ddiduedd yn golygu enw a lliwiau a oedd heb gyswllt e.e. Morgannwg (y Gleision presennol)  mewn gwyrdd a gwyn.

Mae hwn yn hen ddadl ond yn un pwysig i’w gofio cyn meddwl am ethol David Moffett. Tydi o ddim yn rhywun sydd yn gwneud pethau mae pobl yn cytuno efo – weithiau am y gora’, ond weithiau mae o’n cael pethau yn anghywir.

Maniffesto Moffett

Un peth sydd yn sicr am y Kiwi ydi’i fod o’n gwybod sut i ysgogi sgwrs ac mae o’n werth darllen ei Maniffesto Cymraeg – ia Cymraeg – iaith tydi Undeb Rygbi Cymru erioed wedi ymdrechu ei ddefnyddio.

Mae yna nifer o bwyntiau teilwng yn cael eu gwneud. Ambell un ella dim ond yno i swnio’n dda ac i ddal ein sylw, ond mae o’n ymgeisydd sydd yn cynnig opsiynau ac atebion gwahanol i’r arfer.

Un pwynt sydd yn haeddu sylw cyflym yw’r cytundebau deuol (dual contracts) mae o wedi crybwyll fel y ffordd fodern o gytundebu chwaraewyr. I mi mae hyn yn gwneud synnwyr – synnwyr cyffredin pur.

Fe ddylsa chwaraewr rhyngwladol fod hefo cytundeb gan URC am y cyfnod mae o’n chwarae i Gymru, a chytundeb gan ei ranbarth am y cyfnod mae o’n chwarae i’r rhanbarth. Pam ddylsa rhanbarth orfod talu cyflog i chwaraewr rhyngwladol pan mae o prin yn chwarae iddyn nhw?

Problem Sam ac Adam

Wrth ystyried y pwynt teilwng yma mae rhywun yn dechrau poeni bod URC ar hyn o bryd yn dilyn y llwybr anghywir, llwybr sydd eisoes wedi’i throedio gan Undeb Rygbi Iwerddon a Seland Newydd ddeg mlynedd yn ôl, sef cynnig cytundebau canolog i chwaraewyr. Math o gytundeb hen ffasiwn sydd ddim am weithio yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae Sam Warburton wedi arwyddo ei un o ac yn ôl pob sôn mae’r Gweilch yn hynod o anhapus bod Adam Jones ar fin arwyddo un.

Os ydi rhanbarthau Cymru’n cadw at eu gair fydd Sam nac Adam yn chwarae i’w rhanbarthau gan nad ydynt yn cydnabod y math yma o gytundeb – penderfyniad a wnaeth y rhanbarthau i gyd flynyddoedd yn ôl.

Heb gytundebau canolog ni fydd y rhanbarthau’n medru cyllidebu a chytundebu i gadw’r dalent gora’ yng Nghymru, ac fe fydd mwy o chwaraewyr yn gadael. Y patrwm presennol yn parhau.

Felly, be ydi’r ateb? Cytundebau deuol.

Hyd yn oed os nad ydi David Moffett yn cael ei ethol fel Cadeirydd dwi’n gobeithio y bydd o’n rhan o’r Undeb yn rhywle, er mwyn ysgogi sgwrs a pheidio fod yn ‘yes man’.  Rhywun sydd am wthio’r ffiniau a thrio bod yn flaengar.

Gatland geidwadol

Cyhoeddwyd Ionawr 17, 2014 gan Rygbi.

Tagiau: Undeb Rygbi Cymru


Y ddeuawd ddisgleiriaf ar y blaned rygbi
Na, dyw hyfforddwr Cymru ddim wedi troi’n wleidyddol – ei ddewisiadau yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad sy’n cael sylw Illtud Dafydd …

Ar ôl darllen twît (unieithog) Saesneg Undeb Rygbi Cymru yn dweud fod Gatland am enwi’i garfan Chwe Gwlad yr wythnos hon, fe baratois fy hun ar gyfer ‘bach o ymchwil a chwilota i ba grwt ifanc y byddai Gatland yn enwi, a pha aelod amhrofiadol o garfannau rhanbarthol Cymru y byddai yn ei gynnwys – ond doedd dim angen poeni.

Yn y gorffennol mae Gatland wedi rhoi cyfle i fechgyn ifanc, di-gap megis Hallam Amos, Cory Allen a Tom Prydie ond ar gyfer twrnament y Chwe Gwlad – eleni, nid oes un cap newydd i fod. Oni bai am Emyr Phillips mae’r garfan i gyd wedi wynebu un o’r deg tîm cryfaf yn ôl rhestr dethol y Bwrdd Rhyngwladol o leiaf unwaith.

Er nad yw Phillips, Rhys Webb, Aaron Shingler, Rhodri Williams neu Andrew Coombs wedi ennill dros 10 cap yr un maent yn llawn haeddu’r alwad i’r gad yn dilyn perfformiadau safonol dros ei ranbarthau.

Gyda charfan o 32 mae’n garfan dynn gyda sawl unigolyn yn y broses o wella o anafiadau, a bydd y garfan yn siŵr o ymestyn o weld mai ond un canolwr iach sydd gan Gatland ar hyn o bryd mas o Jamie Roberts, Jonathan Davies a Scott Williams.

Yn ystod y gynhadledd i’r wasg dywedodd Gatland fod yna bosibilrwydd o ychwanegu un neu ddau enw i’r garfan, gan ddweud ei fod ef a gweddill ei dîm hyfforddi yn awyddus i rai chwaraewyr aros gyda’u rhanbarthau.

Gan edrych ar safleoedd penodol, credaf fod Gatland am gadw golwg ar asgellwyr fel Amos a Hanno Dirksen, y canolwr Richard Smith, neu arbrofi gyda George North yn y canol.

Un arall o bosib fydd y blaenasgellwr ifanc Sam Lewis, sydd yn fy nhyb i, er ei fod wedi bod yn gwisgo’r crys rhif chwech anarferol dros y Gweilch, wedi bod yn un o chwaraewyr gorau’r rhanbarth ers sawl mis nawr.

Mae’n garfan geidwadol, brofiadol a bwriadol ond bydd digon o grafu pen a chroesi bysedd gan obeithio y bydd o leiaf un o Jamie Roberts neu Jonathan Davies a Sam Warburton hefyd yn holliach ar gyfer Chwefror y 1af a’r gêm gyntaf yn erbyn Yr Eidal. Y mis bach yn cychwyn deufis anferth.

Esiampl Byrne a Brew

Fel ôl-nodyn mae gweld Lee Byrne ac Aled Brew yn dychwelyd i chwarae rygbi rhanbarthol yng Nghymru gyda’r Dreigiau yn esiampl berffaith o sut a phryd y dylai ein chwaraewyr dreulio eu hamser yn chwarae ar gaeau tramor, boed hynny yn Ffrainc neu Loegr.

Mae’r ddau yn dychwelyd i orffen eu gyrfaoedd dan law Lyn a Kingsley Jones wedi tair blynedd yn y Top 14, tair blynedd o gyrraedd rownd derfynol Cwpan Ewrop, o chwarae 26 rownd o rygbi caled ac mewn carfannau llawn sêr rygbi’r byd!

Fy ngobaith i yw y bydd y ddau’n dilyn esiampl Stephen Jones gan rannu eu profiadau gyda chwaraewyr ifancaf y garfan, fel y gwnaeth gyda Rhys Priestland ac Aled Thomas. Myfyrwyr Brew ac Byrne fydd olwyr fel Amos a Ross Wardle.

Un dyn fydd ddim yno i groesawu Byrne a Brew i  Rodney Parade, yn ôl WalesOnline, fydd Dan Evans, sydd ar ei ffordd lawr yr M4 i Stadiwm Liberty i gystadlu gyda Richard Fussell am y crys rhif 15.

Fe wadodd hyfforddwr olwyr y Gweilch Gruff Rees hyn ddydd Mercher, ond cyfaddefodd ei fod yn ffan o Evans a’i fod wedi’i hyfforddi yn y gorffennol o dan strwythur timau ieuenctid Cymru.

Gallwch ddarllen mwy gan Illtud ar ei flog, neu ei ddilyn ar Twitter ar @illtuddafydd.