RSS

Golwg360

MwyCau 

BLOG: Osgoi y gwir am oblygiadau Brexit

Cyhoeddwyd Mai 27, 2017 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: brexit, Theresa May


(llun: PA)
Huw Prys Jones yn dadlau bod pwnc pwysicaf yr etholiad yn cael ei anwybyddu

Mae’n anochel y bydd yr ymosodiad ym Manceinion yn newid rhywfaint ar natur ymgyrch yr etholiad.

Dydi hynny fodd bynnag ddim yn esgusodi methiant llwyr y gwrthbleidiau i fynd i’r afael â’r hyn ddylai fod yn bwnc pwysicaf yr etholiad.

A’r pwnc hwnnw yw’r ffordd y mae’r Blaid Dorïaidd bellach yn llwyr yng nghrafangau eithafwyr sy’n benderfynol o dorri unrhyw gysylltiadau rhwng Prydain a thir mawr Ewrop.

Mi allai’r etholiad eleni fod yn gyfle gwych i’r gwrthbleidiau edliw a thaflu bai am y llanast yr ydym ynddo.

Yn lle hynny, mae eu tawedogrwydd ar y mater yn debygol o arwain at benrhyddid i Theresa May gamddefnyddio mwy ar ei grym.

Ni ddylid bychanu difrifoldeb y sefyllfa. Mae’n amlwg fod y garfan wrth-Ewropeaidd wedi bod yn cynllwynio ers blynyddoedd am ffyrdd o gipio grym pe byddai’r refferendwm yn digwydd o’u plaid.

Maen nhw wedi sicrhau bod y dehongliad mwyaf eithafol bosibl o’r canlyniad yn cael ei dderbyn fel efengyl, ac yn benderfynol o fygu unrhyw ddehongliadau eraill mwy gonest.

Oni bai fod yna bobl sy’n barod i herio’u hagweddau a’u dehongliadau, maen nhw am fynd yn fwyfwy eithafol.  Rhowch chi fodfedd i’r bobl hyn ac mi gymeran nhw lathen. Ac mi allan nhw fod yn hyderus bod ganddyn nhw bapurau newydd fel y Sun a’r Daily Mail i bregethu eu gwenwyn ddiwrnod ar ôl diwrnod i’r hygoelus a’r anwybodus.

Methiant

Rydan ni i gyd yn talu’r pris am fethiant y gwleidyddion hynny sy’n gwybod yn iawn bod Brexit yn syniad gwael, i ddwyn anfri ar ddilysrwydd canlyniad y refferendwm.  Trwy dderbyn y celwyddau a’r rhagfarnau a oedd yn sail iddo, maen nhw wedi sigo ymhellach ffydd pobl mewn democratiaeth.

Y Blaid Lafur ydi’r mwyaf euog o’r gwrthbleidiau o bell ffordd, gyda Jeremy Corbyn fel petai’n cofleidio’r canlyniad o’r cychwyn. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn fwy goleuedig ac mae eu haddewid o ail refferendwm  yn sicr yn rhywbeth i’w groesawu. Er hynny, dydyn nhw ddim fel petaen nhw’n llwyddo i gyfleu neges gwbl ddiamwys o’u safbwyntiau.

Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi gwneud safiad clodwiw drwy bleidleisio yn erbyn Erthygl 50 ac wedi bod yn bur gyson eu safbwynt. Mae Dafydd Wigley hefyd, eu hunig arglwydd bellach, wedi bod yn dadlau’n huawdl dros yr egwyddor o ail refferendwm.

Yn anffodus fodd bynnag, mae arwyddion fod Plaid Cymru hefyd wedi simsanu yn ystod ymgyrch yr etholiad.

Dywed eu harweinydd Leanne Wood fod angen ‘parchu’ canlyniad y refferendwm a ‘symud ymlaen’ gan sôn am ‘gynllun ôl-Brexit cadarnhaol i Gymru’ (beth bynnag mae hynny yn ei olygu).

Ystyr ‘parchu’ canlyniad y refferendwm a ‘symud ymlaen’ ydi ildio’n ddigwestiwn i gelwyddau a rhagfarnau’r cenedlaetholwyr Seisnig fu’n arwain ymgyrch Brexit, a gwrthod gwneud safiad yn erbyn newyddion ffug y Daily Mail a’r Sun.

Go brin fod hyn yn dderbyniol i drwch cefnogwyr Plaid Cymru.

Meddyliwch yn ôl dair blynedd a chanlyniad refferendwm yr Alban, pryd roedd mwyafrif mwy yn erbyn annibyniaeth nag oedd o blaid Brexit y llynedd.

Allwch chi ddychmygu Alex Salmond a Nicola Sturgeon yn dadlau bod angen i bawb barchu’r canlyniad, a’i dderbyn fel y gair olaf, a chanolbwyntio ar y manteision a allai ddeillio o aros fel rhan o Brydain?

Problemau sylfaenol

Hyd y gwelaf i, mae sawl problem sylfaenol gyda’r datblygiad diweddaraf yn agwedd Plaid Cymru at Brexit.

I ddechrau, mae’n awgrymu’r camddealltwriaeth sylfaenol mai mater economaidd yn unig yw perthynas Cymru, Prydain ac Ewrop. Nid bygythiad economaidd yn unig ydi Brexit ond ymosodiad ar ein gwerthoedd, ein diwylliant a’n hunaniaeth. Un o gymhellion mwyaf sylfaenol cenedlaetholdeb Cymreig ydi gwrthsefyll y math o genedlaetholdeb Seisnig haerllug sy’n nodwedd mor hanfodol o arweinwyr Brexit.

Mae hefyd yn debygol o gyfrannu at wrthdaro rhwng agweddau aelodau Plaid Cymru ar lawr gwlad mewn ardaloedd fel Gwynedd a’r hyn fydd yn cael ei weld fel gor-awydd i apelio at bleidleiswyr yng nghymoedd ôl-ddiwydiannol y de.

Cwestiwn arall y bydd yn rhaid iddi ei wynebu hefyd fydd oblygiadau Brexit i’w hamcanion cyfansoddiadol. Mae’r freuddwyd o annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd yn ddigon anodd ei dychmygu pan fo Prydain yn dal yn aelod o’r Undeb. Os bydd y math o Brexit ynysig y mae Theresa May yn ei addo yn digwydd, mae’r nod yn symud i dir ffantasi pur. Pa obaith fyddai perswadio pobl Cymru i ffeirio undeb â Lloegr am undod â thir mawr Ewrop os ydi Plaid Cymru’n derbyn canlyniad y refferendwm llynedd fel adlewyrchiad dilys o’u dyheadau? Ac os nad annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, annibyniaeth yn lle? Go brin fod annibyniaeth lwyr yn opsiwn yn y byd sydd ohoni. Unig obaith am ddatblygiad cyfansoddiadol Cymru mewn byd ôl-Brexit felly fyddai fel rhyw fath o dalaith mewn Prydain ffederal.

Ai hyn tybed fydd canlyniad ‘cynllun ôl-Brexit cadarnhaol i Gymru’?

Ar y llaw arall, mae’n debygol iawn mai’r unig obaith i ddyfodol cenedlaetholdeb Cymreig fyddai methiant llwyr y Brydain newydd y mae’r Torïaid yn ceisio’i chreu. Os yw Plaid Cymru am fanteisio ar fethiant o’r fath yn y dyfodol, bydd yn rhaid iddi fod yn gwbl eofn a chyson ei gwawd a’i dirmyg o weledigaeth y cenedlaetholwyr Seisnig sy’n ein llywodraethu heddiw.

BLOG: Maen nhw’n dechrau dawnsio ar y dibyn


GO brin fod Nicola Sturgeon, Arweinydd yr SNP, wedi clywed am y dywediad Cymraeg “Os na fydd gryf, bydd gyfrwys”, a ddeilliodd heb os o brofiad gwlad fach yn byw yng nghysgod ei chymydog mawr am ganrifoedd.

Ond, a welwyd erioed enghraifft well o’r dywediad hwn ar waith yn y byd gwleidyddol wedi ei chyhoeddiad fore Llun y bydd ei Llywodraeth yn cynnal Refferendwm arall ar Annibyniaeth i’r Alban cyn 2019?

Roedd y Prif Weinidog Theresa May yn paratoi  i gyhoeddi Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon yn dilyn cwblhau’r broses drafod yn Nhy’r Cyffredin heno. Byddai wedi rhagweld bonllefau o gymeradwyaeth o’r wasg boblogaidd ac y byddai hynny oll yn rhoi gwynt yn ei hwyliau wrth baratoi ar gyfer y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropaidd.

Ond cafodd hynny oll ei danseilio’n ddiseremoni gan gyhoeddiad annisgwyl ac hynod gyfrwys Prif Weinidog Yr Alban, yn y datganiad urddasol a wnaed ganddi yn Bute House, Caeredin. Gyda chymaint yn tybio y byddai’n gwneud y cyhoeddiad hwn yng nghynhadledd yr SNP, roedd gwneud hynny yn rhinwedd ei rol fel Prif Weinidog yr Alban, yn hytrach nag arweinydd yr SNP yn symudiad meistrolgar ar ei rhan.

Ar yr olwg gyntaf felly, mae’n ymddangos fod Sturgeon wedi cyflawni stroc go iawn fan hyn trwy achub y blaen ar Theresa May,  ac yn wir wedi gwanio sefyllfa Prif Weinidog Prydain yn ddifrifol.

Wedi’r cwbwl, roedd Theresa May wedi’i hargyhoeddi ei hun nad oedd Nicola Sturgeon o ddifrif am gynnal ail refferendwm ac mai bygythiadau gwag oedd ei rhybuddion am y posibiliad hwnnw. Oherwydd y dybiaeth honno, teimlodd nad oedd rhaid iddi gyfaddawdu o gwbl gyda galwadau yr SNP i geisio sicrhau lle arbennig i’r Alban yn y Farchnad Sengl fel rhan o ddêl Brexit Prydain.

Mae’r hyn a ddigwyddodd wedyn yn adlewyrchu’n wael iawn ar grebwyll gwleidyddol Theresa May. O gofio bod hyn yn dilyn yn sgil y penderfyniad i gosbi’r hunan-gyflogedig yn y gyllideb wythnos ddiwethaf a thorri addewid sylfaenol ym maniffesto y Torïaid- y cwestiwn amlwg sy’n codi rwan ydi, a yw May allan o’i dyfnder yn Brif Weinidog?

Fydd hyn ddim yn syndod o gwbwl i’r rhai sydd yn gwylio ei pherfformiadau prennaidd ac aneffeithiol yng nghwestiynau’r Prif Weinidog pob dydd Mercher. Does dim o’r sglein a’r rhwyddineb ar ei draed a oedd yn nodweddu David Cameron yn perthyn iddi o gwbwl, a Jeremy Corbyn er mor anobeithiol ydi’r creadur hwnnw fel cyfathrebwr yn cael y llaw uchaf arni yno yn amlach na pheidio.

Yn fwy difrifol, mae datganiad Nicola Sturgeon yn golygu y bydd llaw negydu Llywodraeth Prydain yn llawer iawn gwannach wrth baratoi i drafod gyda’r Undeb Ewropeaidd rwan. Yn gyntaf wrth gwrs bydd dim modd i’r Prif Weinidog ddatgan ei bod yn siarad ar ran Prydain “Unedig” wrth ddechrau trafod.

Yn ail, roedd hawliau i bysgota oddi ar arfordir yr Alban a chyfoeth olew a nwy Yr Alban yn rhan allweddol o  gynllun negydu y Llywodraeth wrth geisio taro bargen gydag Ewrop. Mae’r tships bargeinio hynny wedi eu cipio’n ddramatig oddi ar y bwrdd bellach. Roedd mandarins yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi penderfynu i yrru bargen galed iawn gyda Llywodraeth Phrydain.

Bellach, mi fyddan nhw am droi’r sgriws hyd yn oed yn dynnach. Dydi o ddim yn amhosib y byddan nhw hefyd yn ceisio hwyluso dadl Yr Alban y dylent etifeddu aelodaeth Undeb Ewropaidd yn ddi-dor wrth i Lywodraeth Prydain adael yn 2019.

Mae’n bosib y gall Theresa May geisio ad-ennill peth o’i hygrededd wleidyddol wrth benderfynu na chaiff Yr Alban gynnal ei refferendwm tan fod Brexit wedi ei gwblhau. Ond hyd yn oed pe bai hynny’n digwydd, mae’n anodd peidio dod i’r casgliad ei bod hi’n nesau’n beryglus at y dibyn bellach.

Does ryfedd fod Michael Gove a Boris Johnson ill dau wedi cynyddu eu proffiliau unigol yn sylweddol dros yr wythnosau diwethaf. Tybed yn wir oedd y ddau wedi rhagweld o’r cychwyn mai traed moch fyddai’n digwydd gyda Brexit ac y byddai’n well i’r ddau ohonynt gadw eu powdr yn sych am y tro?

Ond mae’n ddawns ddigon peryglus i Nichola Sturgeon hithau. Hyd yn oed pe bai hi’n cael ei dymuniad i gynnal refferendwm yn ystod y cyfnod y mae’r negydu yn mynd rhagddo hefo’r Undeb Ewropeaidd, gan y byddai sylw Llywodraeth Prydain wedi ei rannu rhwng dau elyn, mae pob refferendwm yn loteri llwyr mewn gwirionedd.

Mae yna hefyd berig mawr o “voter fatigue” o gofio’r holl etholiadau/refferenda sydd wedi eu cynnal yn Yr Alban ers 2014, ac y caiff yr SNP ei beio am lusgo pobl i bleidleisio unwaith eto.

Ac os oes rhaid iddi ildio i ddymuniad May i gynnal y refferendwm yn dilyn cwblhau Brexit, does dim sicrwydd o gwbl y byddai gan yr SNP fwyafrif i allu galw annibyniaeth yn y Senedd yn Holyrood erbyn 2020.  Byddai’r SNP wedi bod mewn grym am 13 o flynyddoedd erbyn hynny, a’r etholwyr efallai wedi cael digon arnynt.

Ond efallai mai’r elfen anoddaf un i Nichola Sturgeon yw sefyllfa’r Undeb Ewropaidd ei hun dros y blynyddoedd nesaf. A fydd y ddadl ddiamwys fod Yr Alban wedi dewis aros yn yr Undeb Ewropaidd yn y refferendwm y llynedd yn wahanol i Loegr yn cario cymaint o bwysau mewn sefyllfa lle y gallai bodolaeth yr Undeb honno ei hun fod mewn perig?

Yr wythnos hon, mae etholiad cyffredinol yn yr Iseldiroedd, ac mae’n debyg iawn y bydd pleidiau sydd am adael yr Undeb yn gwneud yn dda iawn. Y mis nesaf, mae etholwyr Ffrainc yn cael dweud eu dweud, ac unwaith eto y mae yna deimladau cryfion yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd ac awydd am weld sofraniaeth gwadwriaeth Ffrainc yn cael ei ail-sefydlu yno.

A fydd y prosiect Ewropeaidd yn cael ei chwalu neu o leiaf yn cael ei ail- ddychmygu’n sylweddol iawn dros y 18 mis nesaf? A fyddai hynny yn cyfiawnhau’r penderfyniad a wnaeth Lloegr a Chymru i adael y llynedd, ac yn tanseilio dadl yr SNP am aros mewn UE sydd ddim yn bodoli mwyach?

Os mai NA fydd hi eto yn yr ail refferendwm, dyna ddiwedd ar yrfa Nichola Sturgeon. A dyna berig fydd diwedd y freuddwyd o annibyniaeth i’r Alban hefyd.  Mewn amgylchiadau felly, mae’n anorfod y byddai Llywodraeth Llundain yn deddfu yn erbyn cynnal unrhyw pleidlais arall ar refferendwm am genhedlaeth arall o leiaf. Mae’n fwy na thebyg hefyd y byddent yn dewis tynnu llawer o bwerau o Holyrood a’u hail-sefydlu yn San Steffan.

O gofio hyn, mae yna risgiau anferthol yn wynebu Nichola Sturgeon mewn galw refferendwm yn y sefyllfa gyfnewidiol iawn sydd ohoni ar hyn o bryd. Ond tybed ydi hi eisoes yn meddwl am ddull arall, rhagor na chynnal refferendwm ymrannus ac ansicr arall? Hynny ydi, galw Etholiad Cyffredinol yn Holyrood rhywbryd yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda’r SNP yn sefyll ar docyn o  ddatgan annibyniaeth pe baent yn ennill mwyafrif arall.

Efallai y bydd yna bethau yn digwydd dros y misoedd nesaf allai gyfiawnhau hynny-  megis Llywodraeth Prydain yn ymddwyn yn eu dull trahaus arferol tuag at Yr Alban. Trwy ddulliau confensiynol fel hyn y mae’r rhan fwyaf o wledydd wedi ennill eu hannibyniaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf, a dim ond dyrnaid o wledydd sydd wedi gwneud hynny trwy refferendwm mewn gwirionedd.

Ac wrth gwrs, byddai’n haws i’r SNP sicrhau eu bod yn llwyddiannus y tro hwn trwy ddilyn y trywydd hwn.

“Events dear boy, events” oedd ateb Harold Wilson i gwestiwn ynghylch beth oedd y broblem fwyaf a wynebai unrhyw wleidydd.  Wrth i Theresa May a Nichola Sturgeon ddawnsio ill dwy ar ben y dibyn gwleidyddol dros y misoedd nesaf, diau y caiff hyn ei wireddu eto fyth yn hanes y ddwy arweinydd a fydd yn brwydro am einioes wleidyddol y naill a’r llall yn y frwydr fawr sydd i ddod. Mae’n anodd dychmygu sefyllfa lle na fydd un o’r ddwy yn plymio dros y dibyn hwnnw maes o law.