RSS

Golwg360

MwyCau 

DADANSODDIAD: Donald Trump oedd yr unig un wnaeth ddarogan yn gywir


Am wahaniaeth mewn pedair awr ar hugain. Echnos roedd ymgyrch Hillary Clinton yn hyderus ei bod hi ar fin cipio’r arlywyddiaeth.

Mewn rali o flaen 34,000 o bobol yn Philadelphia, roedd hoelion wyth y blaid Democrataidd yno, ynghyd â Jon Bon Jovi, Bruce Springsteen, yr Obamas a’r Clintons a’r dorf yn optomistaidd bod yr Unol Dalieithau ar fin ethol menyw i’r Tŷ Gwyn. Neithiwr, roedd y freuddwyd honno’n ddeilchion.

Rhagfynegais gydag awdurdod fan hyn yr wythnos ddiwetha’ y byddai Clinton yn ennill. Pam? Oherwydd roedd y polau piniwn yn ffarfiol iddi a’i llwybr i gyrraedd y 270 pleidlais yn y coleg etholiadol yn ymddangos gymaint yn haws nag un Trump.

Yn wir, ar noson yr etholiad, cyn i’r blychau pleidleisio gau, roddodd CNN 268 o bleidleisiau yng ngholofn coleg etholiadol Clinton, gan olygu mai ond un dalaith ymylol bach byddai’n rhaid iddi ennill er mwyn cyrraedd 1600 Pennsylvania Avenue.

Roedd y sylwebyddion gwleidyddol a’r arolygon barn wedi darogan yr etholiad hwn yn anghywir. Dim ond un dyn oedd yn gyson yn ei broffwydo cywir – a’r darpar-Arlywydd Trump oedd hwnnw.

Y ‘Rust Belt’

Yn gyson yn ystod yr ymgyrch, dywedodd Trump y byddai’r etholiad yn cael ei benderfynu yn nhalieithau’r ‘Rust Belt’ yn y gogledd ddwyrain, yr hen dalieithau diwydiannol sydd wedi wynebu cymaint o drafferthion a diweithdra yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Rhagfynegodd Trump yn gywir ei fod am ennill Wisconsin, talaith sydd wedi pleidleisio i’r Democratiaid ers degawadau a thalaith ni wnaeth Clinton troedio unwaith yn ystod y misoedd diwethaf a chanslodd Trump rali yno dydd Sadwrn gan fod ei strategwyr yn bendant o’r farn na allai ennill y dalaith.

Ond ennill y dalaith hon y wnaeth a Pennsylvania a Michigan hefyd. A dyma oedd trafferth mawr Mrs Clinton, gan mai dyma oedd ei “firewall states”, y talieithau oedd yn golygu bod ei llwybr hi at 270, cymaint yn haws. Pwy fyddai wedi rhagweld na fyddai’r etholiad yn cael ei benderfynnu, yn Fflorida, Ohio neu North Carolina, ond yn nhalieithau “diogel” Mrs Clinton yn y gogledd ddwyrain.

Felly beth aeth o’i le yn ymgyrch y Democratiaid? Yn sicr roedd ganddynt llu o fanteision – peirianwaith effeithiol, mwy o arian i wario ac ymgeisydd profiadol ac abl. Ond efallai dyma oedd hefyd ei gwendid pennaf. Mewn etholiad ble roedd etholwyr yr Unol Dalieithau am roi cic i’r sefydliad, roedd gan y Democratiaid ymgeisydd oedd yn ymgorffori’r sefydliad elitaidd yn y wlad i’r dim.

Hefyd, roedd gan Trump neges gyson a fe weithiodd yn galed i apelio at ddemograffeg mwyaf yr wlad, sef pobl gwyn, dosbarth gweithiol, demograffeg y gellid dadlau sydd wedi ei hanwybyddu ers cyfnod Ronald Reagan. Methodd Clinton hefyd a sicrhau bod y demograffeg oedd fod yn driw iddi hi yn pleidleisio mewn niferoedd a fyddai wedi ei chodi’n uwch na Trump – menywod, pobl ifanc, pobl ddu a Hispanics.

Yn anffodus iddi hi, roedd wedi cael anhawster i danio brwdfrydedd ei chefnogwyr craidd.

Be’ nesa’?

Bydd gan Darpar-Arlywydd Trump llawer o waith i wneud ei geisio cymodi a thynnu’r wlad at ei gilydd. Amser a ddengys os bod ganddo’r gallu a’r awydd i wneud hyn. A beth nesaf i’r Democratiaid?

Y Gweriniaethwyr oedd fod i wynebu’r rhyfel cartref wedi’r etholaid hwn, ond y Democratiaid bydd angen y dadansoddiad treiddgar.

Un peth sy’n sicr, mi fydd colli talieithau y ‘Rust Belt’ yn ysgogi’r rheiny ar chwith y blaid megis Bernie Sanders ac Elizabeth Warren ac wrth i’r Clintons adael y llwyfan gwleidyddol wedi 40 mlynedd, bydd bwlch amlwg yn y Blaid Ddemocrataidd sydd angen ei lenwi.

DADANSODDIAD: Pa mor agos yw ras y Tŷ Gwyn, mewn gwirionedd?


Yr wythnos ddiwetha’, roedd Hillary Clinton yn hwylio ar don o optomistiaeth. Wedi deugain mlynedd o wasanaeth gyhoeddus, roedd hi ar gyrraedd ei huchelgais gydol oes, gan ddod yn Arlywydd benywaidd cyntaf yr Unol Daleithiau.

Roedd hi ymhell ar y blaen mewn polau piniwn nifer o daleithiau a gredir yn ymylol, o fewn trwch blewyn tu ôl Donald Trump mewn talieithau cadarn i’r Gweriniaethwyr – Alasga a Tecsas hyd yn oed. Cymaint yr optimistiaeth, fe gymerodd yr ymgeisydd seibiant o’r ymgyrch gan fynd i gyngerdd Adele i ddathlu ei phen-blwydd.

Ond, wrth i Galan Gaeaf agosau, fe laniwyd yr ‘October Surprise’ roedd ymgyrch Cinton wedi bod yn gofidio amdano, yn ffurff llythyr gan James Comey o’r FBI ei fod am ymchwilio rhagor o ebyst sy’n ymddangos yn berthnasol i achos Hillary Clinton.

Sbardunodd hyn ymgyrch Donald Trump. Am wythnosau, gwelwodd y polau’n troi yn ei erbyn, ffigurau blaenllaw a fu o’i blaid yn cefnu arno, perfformiad simsan yn y dadleuon a galwadau cyson ganddo fod yr etholiad hwn yn un annilys.

Pellhau y mae hyn i gyd yr wythnos hon, gyda nifer o bolau cenedlaethol yn dangos fod Donald Trump ar y blaen. Gyda phanig yn cydio yng ngefnogwyr Clinton, pa mor agos yw’r ras mewn gwirionedd? A all Trump ailadrodd sioc y bleidlais Brexit?

Manteision Clinton

Wrth ymweld â thalaith Virginia ddoe, roedd hi’n amlwg bod gan Hillary Clinton fantais arwyddocaol dros Donald Trump, sef ei pheirianwaith etholiadol. Roedd llu o’i chefnogwyr allan yn targedu’r etholwyr sydd o hyd yn ansicr ac yn annog y rheiny sy’n gefnogol iddi i fwrw eu pleidlais dydd Mawrth nesaf.

A dyna fantais arall amlwg gan Clinton a’r Democratiaid – y data sy’n cefnogi ymgyrchu o’r fath. Tra bod Clinton wedi buddsoddi mewn peirianwaith sy’n medru targedu etholwyr yn ofalus, nid yw ymgyrch Trump wedi gwneud yr un buddsoddiad. Yn wir, mae Trump wedi dweud ar goedd nad oedd ganddo ddiddordeb mewn data.

Mantais amlwg arall yw’r arian a gasgwlyd gan Clinton – dros $1 biliwn yr etholiad hwn – sy’n galluogi gwariant sylweddol ar hysbysiadau diri ac ar ymgyrchoedd efeithiol i sicrhau bod ei chefnogwyr yn mynd i’r orsaf bleidleisio. Mae Trump wedi dibynnu’n helaeth ar ei gyfoeth ei hun, ac yn wir dim ond ym mis Mai y dechreuodd ofyn am gyfraniadau ariannol gan eraill. Mae hyn wedi cynnig mantais amlwg i Clinton.

Pwy sy’n poeni?

Felly a oes angen i gefnogwyr Hillary Clinton boeni? Yn amlwg, ni allant orffwys ar eu rhwyfau, na chymryd dim yn ganiataol, ond ar ddiwedd y dydd, dyw’r polau piniwn cenedlaethol ddim o bwys i neb.

Yn 2012, roedd Mitt Romney ar y blaen yn ôl rhai polau piniwn ar drothwy’r etholiad, ond aeth Obama ati i ennill yr etholiad hwnnw’n hawdd. Pam? Oherwydd y data soffistigedig oedd yn cynorthwyo’r Democratiaid yn y talieithau ymylol i targedi pleidleiswyr ansicr.

Fel dywed pob gwleidydd gwerth eu halen: un pôl sy’n bwysig, a chyrraedd dros 270 o’r bleidlais etholiadol yw’r nod fan hyn. Ac mae’r daith honno’n dipyn caletach i Trump nac ydyw i Clinton. Er mwyn cyrraedd dros 270, mi fydd yn rhaid i Trump ennill pob un o’r talieithau ymylol, ble gall Clinton fforddio colli talieithau ymylol megis Ohio, Flordia, Virginia, North Carolina, Iowa a New Hampshire i Trump, ond gan ennill y ras.

Pen ar y bloc

Peth peryglus yw rhoi fy mhen ar y bloc, a dw i wedi bod yn angywir sawl tro, ond os nad oes unrhyw beth mawr yn digwydd yn y pum niwrnod nesaf, Clinton yw’r ffefryn amlwg o hyd.

Mae Rhodri ab Owen yn Bennaeth Monitro gydag asiantaeth Positif Politics yng Nghaerdydd.